Pen-y-bont: Rhyddhau tri ar fechnïaeth ar ôl canfod cyrff dau fabi
- Cyhoeddwyd
Mae tri pherson gafodd eu harestio ar ôl i gyrff dau fabi gael eu canfod mewn tŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth gan yr heddlu.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i heol Maes-y-felin ar stad Y Felin-wyllt ychydig cyn 20:00 nos Sadwrn 26 Tachwedd.
Cafodd dau ddyn, 37 a 47, ac un ddynes, 29, eu harestio ar amheuaeth o gelu genedigaeth plentyn.
Fe gafodd yr heddlu ddau estyniad i holi'r tri a'u cadw yn y ddalfa.
'Ymchwiliad cymhleth'
Fore Iau, fe wnaeth y llu gadarnhau eu bod wedi rhyddhau'r tri o'r ddalfa ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.
Fe wnaeth y llu gadarnhau hefyd eu bod yn cynnal "sawl ymholiad" ar ôl canfod cyrff y babanod.
"Mae hyn yn cynnwys sawl safle, gan gynnwys tai, fel y gall ymholiadau gael eu gwneud," meddai llefarydd.
Fe ddisgrifiodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George yr ymchwiliad fel un "cymhleth a sensitif".
"Mae fy meddyliau'n dal i fod gydag unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan y digwyddiad trawmatig hwn," dywedodd.
"Dwi'n ymwybodol o'r effaith y mae'r digwyddiad hwn wedi'i gael ar y gymuned a hoffwn ddiolch i dystion a thrigolion lleol sydd wedi dod ymlaen ac wedi gweithio'n agos gyda ni dros y dyddiau diwethaf.
"Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth a sensitif ac mae presenoldeb heddlu mwy wedi bod yn Y Felin-wyllt ers dydd Sadwrn," ychwanegodd.
"Bydd hyn yn parhau dros y dyddiau nesaf wrth i ymholiadau barhau."
Ychwanegodd fod cefnogaeth ar gael i unrhyw sydd ei angen.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022