Oriel: Fuoch chi 'rioed yn morio?
- Cyhoeddwyd

Cwch teuluol oddi ar Amlwch. Dyddiad: anhysbys
Mewn rhaglen arbennig i BBC Radio Cymru mae Aled Hughes yn mynd ar daith o amgylch arfordir Pen Llyn.
Mae Mordaith Pen Llŷn Aled Hughes ar gael i'w fwynhau ar BBC Sounds ar hyn o bryd.
Gyda 1,700 milltir o arfordir mae gan Gymru berthynas glos gyda'r môr o'i chwmpas.
Yn hanesyddol, y môr oedd yn cysylltu Cymru â'r byd gyda llongau a'u capteiniaid Cymreig yn allforio glo a llechi o borthladdoedd ar draws y wlad i bob rhan o'r blaned.
O Ben Llŷn i Sir Benfro mae hanesion lu o longddrylliadau ar ôl i longau fynd i drafferthion mewn stormydd ffyrnig, trasiedïau o oes a fu sydd yn gadael eu hoel o dan y môr.
Er bod y diwydiant pysgota yn dal i anfon pysgod a bwyd môr Cymreig i bob cornel o'r byd ni welwn longau anferth mor aml bellach heblaw am ambell i dancer yn y pellter.
O borthladdoedd i longddrylliadau a physgotwyr - dyma luniau o Gasgliad y Werin, dolen allanol sy'n ein hatgoffa o berthynas Cymru gyda'r môr.


Porthladd Casnewydd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1946 ble byddai'r glo yn cael ei drosglwyddo o'r trenau i'r llongau

Caerdydd. Gelwid rhan waelod Camlas Morgannwg trwy Gaerdydd yn Pownd y Môr ac fe’i hagorwyd ym 1798 fel estyniad i’r gamlas wreiddiol. Dyma lun o 1921

Dadlwytho bananas ym Mhorthladd Y Barri

Llongau tanfor Almaenig wedi'u hildio yn aros i gael eu datgymalu yn Abertawe

Morwyr y llongau 'Tegasago' ac 'Asoma' a oedd yn perthyn i lynges Siapan, yn cael eu tywys ar wibdaith o amgylch Caerdydd ar y tramiau, 29 Awst 1902

Goleudy Gradd II Trwyn yr As ar arfordir Monknash, Morgannwg

Llongddrylliad yr SS Samtampa ym Mhorthcawl yn 1948. Bu farw'r 39 oedd ar y llong yn ogystal ag wyth aelod o'r bad achub

Pan darodd y Sea Empress i mewn i graig wrth iddo geisio cyrraedd dyfrffordd Aberdaugleddau yn 1996, gan ollwng 70,000 tunnell o olew i'r môr. Yn 1999 cafodd Porthladd Aberdaugleddau ddirwy o £4 miliwn

Cafodd y llun hwn o'r HMS Conway ei dynnu yn fuan wedi i'r llong fynd i'r llawr yn Afon Menai ger caeau Treborth, Bangor, 14 Ebrill 1953

Ym mis Medi 1987, aeth gwirfoddolwyr o Ymddiriedolaeth Forwrol Seiont II ati i adfer angor y llong HMS Conway o'r dyfroedd. Mae'r angor sy'n pwyso 5-tunnell bellach i'w gweld ar y cei ger Amgueddfa'r Môr yng Nghaernarfon

Y llong garthu Seiont II, Doc Fictoria, Nghaernarfon

Cwch teuluol oddi ar Amlwch. Dyddiad: anhysbys

Hywel Williams gyda'i gwch a ddefnyddid yn y Ras Benwaig oddi ar Amlwch yng nghanol yr ugeinfed ganrif

Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd cyryglau’n gyffredin ar afonydd Mynwy, Wysg a Gwy. Gallai pysgotwr lleol ennill bywoliaeth trwy ddefnyddio’r cychod cyntefig hyn

Pysgota am gimwch yn Abersoch, 5 Gorffennaf 1956

Y llong olew 'Frank M' o Lerpwl yn angorfa olew pier Caernarfon, tua'r flwyddyn 1977
Cafodd yr oriel yma ei chyhoeddi'n wreiddiol ar 6 Rhagfyr, 2022
Hefyd o ddiddordeb: