Rhybudd mam am symptomau Strep A wedi salwch ei merch

  • Cyhoeddwyd
Jasmine yn sâl gyda Strep A
Disgrifiad o’r llun,

Mae symptomau Strep A yn gallu bod yn debyg i rai annwyd a ffliw i ddechrau

Mae mam o'r gogledd yn rhybuddio rhieni eraill i fod yn ymwybodol o symptomau Strep A wedi i'w dwy ferch gael y feirws.

Roedd Joanne Jones, o Landudno, yn meddwl i ddechrau mai haint ar y frest oedd yn achosi salwch un o'i merched.

"Os nad ydi rhywbeth yn teimlo'n iawn, ewch yn syth at y meddyg," meddai.

Dywed Cyngor Conwy eu bod yn rhoi cyngor i rieni trwy ysgolion y sir.

Mae wyth o blant ar draws y DU wedi marw yn sgil cymlethdodau sy'n gallu codi mewn rhai achosion, gan gynnwys Hanna Roap, saith oed, o Benarth.

Fe ddechreuodd salwch merch Joanne Jones "gyda pheswch, a waethygodd - ro'n i'n meddwl falle bod ganddi haint ar y frest.

"Yna na'th o droi'n rhyw fath o salwch stumog, felly ro'n i'n meddwl mai un o'r pethau 24 awr 'na oedd arni.

"Ond ar ôl pedwar diwrnod o fwyta bron dim, ro'n i'n gwybod bod e'n rhywbeth mwy na byg. Weithiau roedd hi i weld yn iawn, yna byddai ei thymheredd hi'n codi i 40º."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddatblygodd merch Joanne Jones y dwymyn goch ar ôl dal haint Strep A

Fe wnaeth corff y plentyn ddechrau cochi a theimlo'n boeth iawn. Gwaethygodd ei pheswch ac fe aeth yn swrth iawn.

"Roedd hi'n pwyso arnai, yn syrthio i gysgu ar y stryd," meddai.

"Yna nes i sylwi bod ganddi frech fel mefusen ar ei thafod, a daeth brech wedyn ar ei bochau, ond mae hefyd yn gallu bod ar frest a chefn plentyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae brech bing-goch ar y tafod, y frest neu'r cefn yn un o symptomau'r dwymyn goch

Aeth Ms Jones â'i merch i adran damweiniau a brys, a bu'n rhaid aros am naw awr cyn iddyn nhw gael eu gweld, medd y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol.

Cafodd bresgripsiwn am benisilin ac fe gafodd Ms Jones gyngor i gadw'i phlant i gyd o'r ysgol.

Mae ei merch ieuengaf, sy'n dair oed, hefyd yn cael ei thrin gyda gwrthfiotigau ar ôl dal yr haint.

Dywedodd Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), Dr Graham Brown: "Fe allai rhai plant gyda symptomau tebyg i annwyd a'r ffliw - dolur gwddf, cur pen, twymyn - fod yn profi rhai o symptomau cynnar y dwymyn goch, sydd hefyd o gwmpas yr adeg hon o'r flwyddyn.

"Bydd y plant yma'n mynd ymlaen i gael symptomau penodol i'w dwymyn goch, gan gynnwys brech binc-goch sy'n teimlo fel papur tywod (sandpaper) o'i gyffwrdd, a dylai rheini gysylltu â'r meddyg teulu.

"Y peth gorau all rhieni wneud yw rhoi'r un fath o ofal ag i blentyn â symptomau annwyd neu ffliw, ond i fod yn gyfarwydd â symptomau'r dwymyn goch ac iGAS rhag ofn."

Dywedodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eu bod wedi rhannu canllawiau clefyd streptococol ICC gyda'i holl ysgolion.