Contractwyr yn protestio y tu allan i burfa olew Valero

  • Cyhoeddwyd
Valero
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r contratwyr yn protestio am daliadau bonws

Mae tua 200 o aelodau undebau Unite a'r GMB wedi cynnal trydydd diwrnod o brotestio y tu allan i fynedfa purfa olew Valero yn Sir Benfro

Mae'r BBC yn deall nad yw'r gweithredu wedi amharu ar gyflenwadau tanwydd o'r safle.

Taliadau bonws i gontractwyr sy'n gweithio i bedwar cwmni allanol sydd wrth wraidd yr anghydfod.

Mae'r contractwyr yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y safle.

Mae'r cwmni yn cyflogi tua 500 o bobl ac yn un o 15 sy'n cael eu rhedeg gan Valero ar draws yr Unol Daleithiau, Canada a'r Deyrnas Unedig.

Mae'n puro olew crai i greu petrol, diesel, tanwydd awyrennau ac olew gwresogi.

Doedd gan Valero ddim sylw i wneud am y streic.

Dywed undebau GMB ac Unite y bydd y protestiadau yn parhau am gyfnod amhenodol, ac maent yn galw ar Valero i ymyrryd er mwyn datrys yr anghydfod.

Pynciau cysylltiedig