Dyfed Evans: Teyrnged teulu i ffermwr 'uchel ei barch'

  • Cyhoeddwyd
Dyfed EvansFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei deulu bod Dyfed Evans, fel ei fam Beryl, "yn ffarmwr a bridiwr wrth reddf"

Mae teulu wedi disgrifio eu "tristwch torcalonnus" yn dilyn marwolaeth ffermwr "uchel ei barch" o Geredigion.

Cafodd apêl ei lansio gan yr heddlu i ddod o hyd i Dyfed Evans, 42 oed o Dal-y-bont, wedi iddo fynd ar goll nos Sadwrn, 3 Rhagfyr.

Daeth cadarnhad gan Heddlu Dyfed-Powys mai ei gorff oedd hwnnw a'i ddarganfuwyd o fewn y sir yn gynharach yn yr wythnos.

Dywedodd y teulu, dolen allanol y byddan nhw'n "trysori pob atgof ohono", gan ei ddisgrifio fel "brawd annwyl a chariadus".

"Ni allwn mewn geiriau gyfleu maint ein tristwch torcalonnus o golli Dyfed," meddan nhw, gan ychwanegu eu bod hefyd wedi colli mam Dyfed yn ddiweddar.

"Roedd Dyfed, fel ei fam Beryl, yn ffarmwr a bridiwr wrth reddf a'r ddau yn uchel eu parch ym myd y defaid a'r gwartheg, ac yn arbennig am eu Defaid Mynydd Cymreig a'u Defaid Penfrith.

"Y fferm yng Nglanrafon a'r anifeiliaid oedd canolbwynt eu byd a'u nod bob amser oedd magu stoc o'r safon uchaf a ni fu neb yn fwy ymroddedig nac yn fwy gofalgar yn eu gwaith.

'Dyddiau dirdynnol'

Ychwanegodd ei deulu: "Roedd Dyfed hefyd wrth ei fodd gyda chwaraeon o bob math ac yn dilyn yn frwdfrydig ei hoff dimau ac unigolion mewn meysydd amrywiol yn cynnwys pêl-droed, athletau a snwcer.

"Hoffem ddiolch i bawb, yn deulu, cymdogion, ffrindiau ac asiantaethau amrywiol am bob cefnogaeth a charedigrwydd yn ystod y dyddiau dirdynnol diwethaf wrth i ni geisio'n gorau i ddelio gyda cholli gwraig a mam a mab a brawd arbennig iawn.

"Dymunwn nawr gael amser i alaru a'r llonydd angenrheidiol i wneud hynny'n dawel."

Pynciau cysylltiedig