Plygain-iadur mis Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd
Llanfihangel
Disgrifiad o’r llun,

Plygain Llanfihangel yng Ngwynfa, a gynhaliwyd tan yn ddiweddar yn eglwys y plwyf

Os ydych chi'n un o'r rheiny sy'n hoffi ymestyn cyfnod y Nadolig mor hir â phosib, yna mae tymor y Plygain yn berffaith i chi! Mae rhai o'r gwasanaethau canu arbennig yma yn cael eu cynnal mor gynnar â diwedd mis Tachwedd ac mae'n arferol iddyn nhw barhau tan ddiwedd Ionawr.

Cyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd i ganu hen ganeuon traddodiadol y Nadolig yw'r Plygain: yn ystod y pandemig, roedd yn rhaid i nifer o'r gwasanaethau hyn gael eu gohirio, ond eleni, mae'r digwyddiadur yn edrych yn llawn unwaith eto. Dyma'r tro cyntaf ers tair blynedd i'r mwyafrif gael eu cynnal.

Pryd mae eich gwasanaeth lleol chi, neu oes 'na un 'da chi wedi bod eisiau mynd iddyn nhw? Mae Cymru Fyw yma i helpu, gyda Phlygainiadur cyfleus ar gyfer y tymor! Dyma Blygain-iadur mis Rhagfyr... Cadwch lygaid am Blygain-iadur mis Ionawr ar ddechrau'r flwyddyn newydd.

Plygeiniau hyd at ddydd Nadolig...

Nos Sul 11/12

Penygraig, Croesyceiliog, Caerfyrddin - 18:30

Nos Fawrth 13/12

Capel Cymraeg, y Trallwng - 19:00

Nos Iau 15/12

Eglwys Sant Ioan, Penrhyncoch - 19:00

Nos Wener 16/12

China St., Llanidloes - 19:30

Nos Sul 18/12

Capel Hermon, Briw ger Llangedwyn - 18:30

Neuadd Pontrobert, Llangynyw - 18:00

Nos Fawrth 20/12

Parc, Y Bala - 19:00

Nos Iau 22/12

Eglwys Sant Cynfarch a'r Santes Fair, Llanfair Dyffryn Clwyd - 19:00

Eglwys Sant Catwg, Gelli-gaer - 19:00

Eglwys Llanfairisgaer, Y Felinheli

Nos Wener 23/12

Capel Moriah, Trelew, Patagonia

Noswyl Nadolig

Capel Rhos y Gad, Llanfairpwll - 19:00

Plygeiniau dydd Nadolig hyd at y flwyddyn newydd...

Bore Nadolig

Capel John Hughes, Pontrobert - 06:00

Capel Soar, Nercwys - 07:00

Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni - 07:00

Licswm - 07:00

Nos Fercher 28/12

Eglwys Sant Garmon, Llanarmon Dyffryn Ceiriog - 19:00

Cadw trefn

Mae grŵp o bobl yn gweithio'n ddiwyd yn ceisio rhoi trefn ar yr holl ddigwyddiadau, ac wedi creu adnodd lle allwch chi fynd i ddysgu mwy am y traddodiad arbennig hwn.

Ceris Gruffudd, Ffion Mair, Roy Griffiths, Rhian Davies, Gareth Williams ac Arfon Gwilym yw'r rhai y tu ôl i plygain.org, dolen allanol. Ewch draw yno am fwy o wybodaeth!

Sain unigryw y Plygain

Mae sain traddodiadol y Plygain yn un trawiadol. Dyma flas o'r hyn allwch chi ei glywed mewn gwasanaeth o'r fath, wedi ei recordio yn Llanfyllin yn 2019.

Disgrifiad,

Dathlu'r Plygain yn Llanfyllin

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig