Protest parc busnes Powys: Cadw pedwar yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl gafodd eu harestio ar ôl i brotestwyr dorri mewn i adeilad ar barc busnes yn Llanandras, Powys, wedi cael eu cadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron llys ym mis Ionawr.
Cafodd y protestwyr eu harestio ar ôl y digwyddiad ar Barc Busnes Broadaxe ddydd Gwener, ble dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod "nifer fawr o heddlu" yn bresennol.
Cafodd cais am fechnïaeth ar ran y pedwar - Susan Bagshaw, 65, o Gommins Coch; Morwenna Grey, 41, o Fachynlleth; Ruth Hogg, 39, o Aberystwyth; a Tristan Dixon, 34 o Huddersfield - ei wrthod gan Lys Ynadon Y Trallwng ddydd Llun.
Mae'r pedwar wedi eu cyhuddo o gynllwynio i achosi difrod troseddol ac o gynllwynio i dorri mewn i eiddo. Clywodd yr ynadon fod gwerth y difrod yn ffatri Teledyne Labtech yn fwy na hanner miliwn o bunnoedd.
Mae'r pedwar hefyd wedi eu cyhuddo o gynllwynio i ladrata o adeilad cwmni amddiffyn Americanaidd Teledyne Technologies.
Mae'r safle wrth ymyl campws yr ysgol uwchradd leol, a bu'r safle yno ar gau am gyfnod yn ystod y digwyddiad.
Mi wnaeth y pedwar gafodd eu cyhuddo awgrymu y byddan nhw'n cofnodi ple dieuog.
Mae disgwyl i'r pedwar ymddangos gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 6 Ionawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2022