Ymddiheuriad i ddyn, 89, aeth i'r ysbyty ar fwrdd pren mewn fan

  • Cyhoeddwyd
Melvyn RyanFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Melvyn Ryan ei gludo i'r ysbyty mewn fan ar fwrdd pren

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi ymddiheuro ar ôl i ddyn 89 oed o Gwmbrân gael ei roi ar fwrdd pren a'i gludo mewn fan i'r ysbyty gan nad oedd ambiwlans ar gael.

Roedd y cyn-filwr Melvyn Ryan wedi torri ei glun a'i ysgwydd.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan bod y Gwasanaeth Iechyd yn hynod o brysur oherwydd haint Strep A, pwysau gaeafol ar y gwasanaeth a'r ymdrechion parhaol i glirio effeithiau Covid.

Ond ychwaengodd bod yr hyn a ddigwyddodd "ddim yn dderbyniol".

Roedd wyres Mr Ryan, Nicole Lea, wedi dod o hyd iddo y tu ôl i ddrws ei gartref ar wedi iddo ddefnyddio botwm argyfwng i gael cymorth tua hanner nos nos Wener.

"Wnes i ddim gwastraffu unrhyw amser a galw 999 gan roi'r manylion.

"Ond fe wnaethant ddweud nad oeddant yn gallu anfon unrhyw un, a bod yna ddim cymorth y gallant anfon a bod yn rhaid i mi ddod o hyd o ffordd i gludo fe fy hunain."

Dywedodd y person wnaeth ateb yr alwad y dylai Ms Lea drio galw gwasanaeth tu hwnt i oriau'r meddyg teulu, gan ddweud bod yn rhaid iddi fynd i ateb galwadau eraill.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nicole Lea ddod o hyd i'w thad-cu y tu ôl i ddrws ei gartref

Dywedodd Ms Lea o Bont-y-pŵl ei bod yn gwybod bod yn rhaid gwneud rhywbeth ar frys. Penderfynodd beidio a galw'r gwasanaeth meddyg teulu oherwydd iddi gredu byddai'n "wast o amser".

"Gyda help fy mhartner a fy mam fe wnaethom daro ar y syniad o'i roi ar fwrdd pren, ei glymu, a'i roi yng nghefn y fan er mwyn ei gludo i'r ysbyty."

Roedd cael gwybod bod y gwasanaeth ambiwlans dan ormod o bwysau i allu anfon cymorth yn frawychus, meddai.

Dywedodd ei bod yn ffodus fod ganddynt fan o ddigon o faint i'w gludo a bod yna deulu yno i'w helpu.

Ychwanegodd bod staff yr ysbyty wedi bod yn wych unwaith iddynt gyrraedd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd wyres Mr Ryan wedi cael gwybod nad oedd ambiwlans ar gael iddo

Dywedodd fod ganddi gydymdeimlad gyda'r gwasanaeth iechyd ond ei bod yn flin nad yw'r "oedrannus yn cael y gofal dylent ei gael".

"Rwy'n credu y gallai rhywbeth gael ei wneud a bod angen ei wneud, all pethau ddim parhau fel hyn."

Dywedodd bod ei thad-cu yn gwella ar ôl iddo gael llawdriniaeth ar ei glun.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan bod achos Mr Ryan "ddim yn dderbyniol", gan ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd

Ddydd Mawrth dywedodd Eluned Morgan wrth BBC Cymru: "Mae'n haeddu ymddiheuriad, ac rwy'n fodlon gwneud hynny. Dydy hynny ddim yn dderbyniol, ac mae'n wasanaeth sâl iawn.

"Ond rwy'n gobeithio fod pobl yn deall mai'r rheswm dros hynny ydy'r pwysau ar y gwasanaeth.

"Dydyn ni erioed wedi gweld pwysau fel hyn, erioed wedi gweld galw fel hyn. Mae'r galw dros yr wythnos ddiwethaf wedi mynd trwy'r to.

"Mae'n gyfuniad o ffactorau - y ffaith bod gennym ni broblemau yn cael pobl mas o'r ysbyty a'n capasiti gofal yn y gymuned.

"Mae gennym ni broblemau gyda Strep A a llawer o rieni allan 'na sy'n poeni'n fawr am hynny, y tywydd oer yn golygu bod pobl yn cael trafferthion anadlu, a'r pwysau sydd wedi adeiladu yn ystod y pandemig."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lee Brooks fod y Gwasaneth Ambiwlans yn flin o glywed am brofiadau Mr Ryan

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru Lee Brooks: "Rydym yn flin i glywed am brofiadau Mr Ryan... mae hyn yn bendant yn is na'r lefel o wasanaeth rydym am ei gynnig.

"Rydym yn gwerthfawrogi pam y byddai hyn yn bryder i Mr Ryan a'i deulu, ac mae hyn yn wir hefyd o ran y gwasanaeth."

Mae Mr Brooks wedi gwahodd Mr Ryan a'i deulu i gysylltu â'r gwasanaeth er mwyn ymchwilio i'r digwyddiad.

'Amgylchiadau prin'

Yn ôl pennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens, fe wnaeth y gwasanaeth dderbyn 20% yn fwy na'r arfer o alwadau 999 na'r penwythnos blaenorol a 300% yn fwy o alwadau 111.

Mae'r gwasanaeth wedi ymddiheuro am amseroedd aros hwy na'r arfer dros y penwythnos.

Fe gyhoeddodd y gwasanaeth "ddigwyddiad o barhad busnes" - sy'n golygu eu bod wedi cyflwyno mesurau i geisio rheoli'r galw.

Dywedodd Mr Killens fod amgylchiadau o'r fath yn bethau prin.

"Roedd gwahanol ffactorau yn dod ynghyd. Mae'r tywydd oed, mae'r cyfnod partïon Dolig yn dechrau ac mae yna bryder o fewn y gymuned am Strep A."

Pynciau cysylltiedig