Effaith ar wasanaethau'r GIG wrth i filoedd o nyrsys streicio

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Elin Sanderson, sy'n picedu tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, fod yn rhaid streicio cyn i'r sefyllfa waethygu hyd yn oed yn fwy

Bu miloedd o nyrsys yn streicio ar draws Cymru ddydd Iau mewn ymgais i gael cyflogau mwy.

Roedd y streic yn effeithio ar bob bwrdd iechyd yng Nghymru oni bai am Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Mae'r streic yn cael ei chynnal oherwydd anghydfod am gyflogau rhwng aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.

Bu nifer sylweddol o nyrsys yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd yn cymryd rhan yn streic nyrsio fwyaf yn hanes y gwasanaeth iechyd.

Galw mae'r undeb am gynnydd cyflog o 5% yn uwch na chyfradd chwyddiant - sydd ar hyn o bryd dros 10%.

Maen nhw'n dadlau fod nyrs brofiadol wedi gweld gostyngiad cyflog o leiaf 20% mewn termau real ers 2010.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dadlau na allan nhw fforddio hynny, yn enwedig heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Nyrsys yn picedu tu allan i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin yn gynnar fore Iau

'Digon yw digon'

Mae Katherine Davies wedi bod yn nyrsio am dros 30 mlynedd. Dywed ei fod yn teimlo'n "drist" fod amodau wedi dirywio cymaint fel bod nyrsys yn teimlo bod rhaid mynd ar streic.

"Mae popeth mor wael nawr yn yr ysbytai, yn y gymuned a'r NHS fel bod rhaid i rywun sefyll i fyny a dweud 'Na! Digon yw digon'.

"Dyw cyflogau nyrsys just ddim yn adlewyrchu y cyfrifoldeb sydd gyda ni. Mae'r cyflog mor isel - dyw myfyrwyr ddim isie neud gradd nyrsio...

"Gallan nhw fynd i weithio mewn swydd lot haws am fwy o arian."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nyrsys wedi bod yn picedu tu allan i ysbytai ledled Cymru mewn tywydd rhewllyd, fel yma yn Ysbyty Gwynedd

Fel cynrychiolydd y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru mae Katherine yn teimlo nad anghydfod ynglŷn â chyflogau yn unig yw hwn.

Dywed bod nyrsys hefyd yn gwneud safiad ynglŷn â chyflwr y gwasanaeth iechyd a'i ddyfodol.

"Y rheswm ni'n mynd ar streic yw bod cleifion ddim yn cael y driniaeth dylen nhw.

"Mae amseroedd aros am apwyntiad yn outpatients ac am lawdriniaeth, am district nurses a phopeth... does dim digon o welyau yn yr ysbyty a 'dan ni'n trio gwella hwnna i bawb.

"Yr unig ffordd y gallwn ni wella pethau yw gweithredu a mynd ar streic."

Mae Ms Davies yn gwrthod dadl Llywodraeth Cymru nad oes ganddyn nhw'r arian i gynnig codiad cyflog mwy i nyrsys.

Disgrifiad,

Katherine Davies: Rhaid sefyll i fyny a dweud 'Na! Digon yw digon'

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu £130m ar nyrsys sy'n gweithio trwy asiantaeth flwyddyn dwetha' - felly os allan nhw 'neud rhyw fath o drefniant i symud yr arian yna tuag at dalu nyrsys sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd falle, gall hwnna wneud rhywfaint o wahaniaeth nawr a wedyn gallwn ni adeiladu ar hwnna a wedyn trefnu rhywbeth mwy parhaol."

Y farn ar y linell biced

Yn ôl y nyrs Teresa Davies, fu'n picedu tu allan i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, nid tâl yw'r unig reswm dros weithredu'n ddiwydiannol.

"Dim just am arian yw e - mae ambyti safe staffing levels hefyd. Mae angen mwy o staff ar y wards, a mae'n well i'r patients i gyd wedyn," meddai.

"Ond os bydden ni'n talu nyrsys mwy, bydde mwy yn dod mewn i'r maes. Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i edrych ar ôl y nyrsys yn deg hefyd.

"Fi'n drist i fod 'ma, ond mae'n neis i gael support y bobl sy'n dod heibio."

Disgrifiad o’r llun,

Nid tâl yw'r unig reswm dros weithredu'n ddiwydiannol, yn ôl Teresa Davies

Dywed David Ridley, nyrs sy'n gweithio yn y theatrau yn Ysbyty Gwynedd, nad yw eisiau bod ar streic ond fod angen gwneud hynny er lles cleifion.

"Dwi yma dim just am tâl, ond i sicrhau bod 'na safe staffing er mwyn cael patient safety yma," meddai.

"Dwi'm isio bod yma [yn streicio]. Does neb isio bod yma. Ond 'dan ni yma achos 'dan ni angen bod yma i'r patients."

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'm isio bod yma, ond 'dan ni yma achos 'dan ni angen bod yma i'r patients," meddai David Ridley

Ychwanegodd Elin Sanderson, sy'n picedu tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, fod yn rhaid streicio cyn i'r sefyllfa waethygu hyd yn oed yn fwy.

"Ma'r Gwasanaeth Iechyd yn sefydliad blaengar, arloesol, ac mae'n bwysig bod ni'n ymgyrchu fel hyn er mwyn gwneud safiad ar gyfer y bobl sy'n gweithio i'r NHS a'n cymunedau ni," meddai.

"Mae angen gofyn y cwestiwn, 'pwy sy'n mynd i ofalu amdana ni pan fydd dim mwy o staff yn yr NHS?'"

Pa wasnaethau fydd sy'n cael eu heffeithio?

Fe fydd yna effaith mawr ar nifer sylweddol o wasanaethau. Bydd gwasanaethau sy'n cynnal bywyd yn cael eu diogelu drwy gytundeb â'r Coleg Brenhinol.

Y triniaethau fydd yn parhau i ddigwydd fydd:

  • cemotherapi i gleifion â chanser;

  • dialysis;

  • gofal dwys i fabanod, plant ac oedolion.

Fe fydd gwasanaethau eraill ar y wardiau yn cael eu staffio yn debycach i'r hyn sy'n digwydd ar ddiwrnod Nadolig, neu Ŵyl y Banc, neu yn ystod shifft nos yn dibynnu ar amgylchiadau lleol.

O ran unedau brys mae'n debyg y bydd lefelau staffio yn debyg i'r hyn sy'n arferol.

Bydd effaith sylweddol ar apwyntiadau sydd wedi'u trefnu a llawdriniaethau sydd ddim yn cael eu hystyried yn rhai brys. Yn ôl byrddau iechyd fe fyddan nhw'n cysylltu â chleifion i ad-drefnu cyn gynted â bo modd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori pobl sydd â chyflyrau sydd ddim yn peryglu bywyd i ddefnyddio'r gwasanaeth digidol 111 yn y lle cyntaf.

Bydd gwefannau'r byrddau iechyd lleol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith y streicio ar wasanaethau lleol.

Mae'r union weithgarwch sy'n gallu digwydd yn y gwahanol ysbytai yn ddibynnol ar drafodaethau lleol rhwng gyda'e Coleg Brenhinol a'r byrddau iechyd.

'Ddim yn gallu fforddio cynyddu'r cynnig'

Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n cynnig codiad cyflog o £1,400 i staff ar y mwyafrif o raddfeydd - gan gynnwys nyrsys, glanhawyr, porthorion ac eraill.

Yn ôl y llywodraeth byddai hyn yn cyfateb i godiad cyflog o 7.5% ar gyfartaledd i staff ar y cyflogau isaf, a 4% i rai ar gyflogau uwch.

Dyma oedd argymhelliad corff adolygu cyflogau annibynnol.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu na allan nhw fforddio cynyddu'r cynnig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "deall" pam bod nyrsys yn teimlo'n rhwystredig

"Mae'n anodd iawn o ran arian wrth gwrs achos mae cyllideb gyda ni ac mae rhaid i ni barchu'r gyllideb yna," medd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.

"A'r unig ffordd i ni ffindio arian ychwanegol fyddai torri gwasanaethau neu staff ac mae hwnna yn anodd iawn ar gyfnod pryd mae 'na gymaint o filoedd o bobl yn aros am driniaeth.

"Wrth gwrs mae'n rhaid cofio ein bod ni wedi dod i'r casgliad yma am ein bod ni wedi defnyddio yr Independent Commission. Roedd yr undebau wedi cytuno i ddefnyddio nhw hefyd.

"Ry'n ni wedi parchu'r ffigwr yna ond wrth gwrs ry'n ni yn deall fod 'na cost of living crisis wedi digwydd ers hynny."

'Dwi'n deall'

Ychwanegodd: "Mae perthynas agos gyda ni gyda'r undebau yma yng Nghymru ac ry ni'n cwrdd â nhw yn aml iawn. Nes i gwrdd â nhw ddechrau'r wythnos i drafod os byddai 'na unrhyw ffordd allen nhw alw off y streic.

"Dwi'n deall pam mae nhw'n frustrated. Ni'n deall bod y cost of living crisis yn effeithio ar eu haelodau nhw ac oedd hi'n ddiddorol gweld os oedd diddordeb gyda nhw i drafod ymhellach os fydden ni'n gallu torri lawr ar y defnydd o asiantaethau yma yng Nghymru felly peidio cael asiantaethau nyrsys yn dod mewn."

Mae'r gwrthbleidiau yn mynnu y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy i osgoi streic - gan gynnwys ystyried defnyddio'u grymoedd penodol o ran codi trethi.

Disgrifiad o’r llun,

Picedu tu allan i swyddfeydd y Coleg Nyrsio Brenhinol ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd fore Iau

Ar hyn o bryd mae'n edrych yn debyg y bydd ail ddiwrnod o streic yn digwydd ar 20 Rhagfyr.

Dyw nyrsys ddim yn streicio yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan gan na chyrhaeddodd y nifer a oedd o blaid streicio y trothwy cyfreithiol o 50%.

Mae gan RCN Cymru dros 17,000 o aelodau sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd - ond nid pob un fydd yn dewis streicio.

Yng Nghymru, mae nyrsys sydd newydd gymhwyso yn dechrau ar fand 5 ac yn derbyn cyflog o £27,055 y flwyddyn sy'n cynyddu i £32,934 ar ôl pedair blynedd.

Dyna'r cyflog uchaf y gallan nhw ei dderbyn, heb wneud cais am swydd newydd mewn band uwch.

Nid nyrsys yn unig sy'n gymwys i streicio ddydd Iau. Mae staff nyrsio yn cynnwys cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth gofal iechyd sydd ar gyflogau arferol rhwng £20,758-£23,177.