Pennal: Pentrefwyr yn cyrraedd y nod i achub tafarn

  • Cyhoeddwyd
Mae Glan yr Afon yn adeilad rhestredig Gradd IIFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae tafarn Glan yr Afon yn adeilad rhestredig Gradd II

Mae pentrefwyr wedi llwyddo i hel digon o arian i brynu tafarn leol ger Machynlleth er mwyn creu hwb i'r gymuned.

Mae Menter y Glan wedi codi dros £250,000 i'w galluogi i brynu tafarn Glan yr Afon ym Mhennal.

Dywedodd Aled Rees, is-gadeirydd y pwyllgor apêl, wrth Cymru Fyw bod eu cynnig wedi cael ei dderbyn gan y perchnogion.

Maen nhw'n gobeithio cwblhau'r pryniant cyn y Nadolig er mwyn ailagor y dafarn ar 5 Chwefror 2023.

Mae gan Mr Rees brofiad o redeg gwesty efo'i wraig, ac mae'n ymwybodol bod gwaith caled o'u blaenau.

"Mi fydd y pwyllgor yn aros yn ei le, a bydd pwyllgorau eraill o dan hwnnw yn helpu i redeg y lle," meddai.

Yn ogystal â thafarn a bwyty, mae'r cynlluniau yn cynnwys caffi, llety, a chanolfan galw-i-mewn, dan ofal meddyg teulu lleol, sy'n ymddiddori mewn iechyd meddwl yng nghefn gwlad.

"Rydym yn pasa cael siop yno yn gwerthu cynnyrch lleol, ac yn gobeithio y bydd y lle yn rhyw fath o hwb cymunedol a d'eud y gwir," meddai Mr Rees.

Ffynhonnell y llun, Menter y Glan
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan yr actor Matthew Rhys - ac Owain Glyndŵr - gysylltiadau agos gyda phentref Pennal

Roedd y perchnogion presennol wedi bod yn rhedeg Glan yr Afon ers 30 mlynedd, ac yn awyddus i werthu er mwyn newid eu ffordd o fyw.

Mae'r Glan, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, wedi bod ar werth ers dros dair blynedd, a lansiwyd yr ymgyrch i'w brynu yn yr haf, trwy werthu cyfranddaliadau yn bennaf.

"Mae'n fantais i ni nad oedd y dafarn a'r bwyty wedi cau," meddai Aled Rees.

"Doedd 'na ddim problem ariannol, dim ond bod y perchnogion presennol wedi cael digon mewn ffordd.

"Y nod i ni fel pwyllgor ydy ail wneud y llawr cyntaf a'r ail lawr yn llofftydd eto, achos mae 'na dipyn o lanast yn fan hynny.

"Ond camau bach i ddechre, agor y dafarn a'r bwyty ac adeiladu ar hynny."

Pennal - pentref hanesyddol

Chwaraeodd pentref Pennal ran allweddol yn hanes Cymru yn y 15fed ganrif.

Fe ysgrifennodd Tywysog Cymru ar y pryd, Owain Glyndŵr, at frenin Ffrainc, Siarl VI, i ofyn am gymorth milwrol yn ystod ei wrthryfel yn erbyn y Saeson.

Mae'r llythyr gwreiddiol, sy'n cael ei adnabod fel Llythyr Pennal, yn yr Archives Nationales ym Mharis.

Gyda'i dad yn hanu o'r ardal yn wreiddiol, mae gan yr actor Matthew Rhys gysylltiadau teuluol cryf gyda'r pentref, ac mae wedi chwarae rhan amlwg yn hyrwyddo ymgyrch Menter y Glan.

Pynciau cysylltiedig