Pennal: Bron â chyrraedd targed £250,000 i achub tafarn
- Cyhoeddwyd
Mae menter gymunedol i brynu tafarn hanesyddol yn dweud eu bod yn gobeithio cyrraedd eu targed o £250,000 erbyn canol mis nesaf.
Mae perchnogion tafarn Glan yr Afon ym Mhennal ger Machynlleth - sy'n adeilad rhestredig Gradd II - yn bwriadu gwerthu'r busnes.
Ond mae criw o ymgyrchwyr lleol wedi bod wrthi ers yr haf yn ceisio codi arian tuag at ei brynu a'i droi yn hwb cymunedol, yn ogystal â thafarn.
Ac mae un o sêr Hollywood wedi chwarae rhan amlwg yn yr ymgyrch.
Gyda'i dad yn hanu o'r ardal yn wreiddiol, mae gan yr actor Matthew Rhys gysylltiadau teuluol cryf gyda'r pentref.
Mae'r actor enwog, ynghyd ag aelodau Menter y Glan, yn galw am un ymdrech olaf i geisio cyrraedd y nod.
Y targed yw £250,000, ac ar ben hynny maen nhw'n obeithiol y bydd cais am grant o £150,000 yn llwyddiannus, i'w helpu i gwblhau'r pryniant.
Dywedodd Aled Rees, is-gadeirydd y pwyllgor apêl, eu bod bellach wedi codi dros £220,000 trwy roddion, ond yn bennaf trwy werthu cyfranddaliadau yn y fenter.
"Mae hi wedi bod yn weddol ara' deg," meddai Mr Rees wrth Cymru Fyw.
"Ond mi ydan ni'n hynod falch o'r ymateb gan y pentref a gan bobl o bell ac agos. Mae o wedi bod yn anhygoel.
"Mi ydan ni wedi cael miloedd o bunnau o'r Unol Daleithiau, er enghraifft.
"Mae honna'n ffynhonnell yr ydan ni wedi bod yn ara' deg yn tapio i mewn iddi 'w'rach, ac efallai y dylen ni fynd ar eu holau nhw dros yr wythnosau nesaf 'ma - os ydyn nhw'n chwilio am anrheg Nadolig gwahanol, beth am brynu siar yn y pyb?"
Breuddwyd gymunedol
Mae Glan yr Afon wedi cael ei hadnabod fel The Riverside a The Flag yn y gorffennol.
Breuddwyd y pentrefwyr yw creu hwb cymunedol fyddai'n cynnwys tafarn a bwyty, siop, caffi, ac yn y pen draw, llety o safon.
Mae meddyg teulu lleol, Dr Tom Windsor-Lewis, hyd yn oed yn gobeithio creu canolfan galw-i-mewn yno.
"Ei arbenigedd ef yw iechyd meddwl, ac mae'n poeni fod pobl cefn gwlad yn wynebu problemau dyrys, yn enwedig rhai sy'n byw eu hunain," ychwanegodd Mr Rees.
"Mae ffermwyr, yn arbennig, yn gweithio lot ar ben eu hunain, a ddim yn hoff o fynd at y doctor, felly mae'n gobeithio sefydlu lle i bobl drafod eu hiechyd meddwl mewn awyrgylch mwy anffurfiol na'r syrjeri."
'Byddai Owain Glyndŵr ei hun yn falch'
Chwaraeodd pentref Pennal ran allweddol yn hanes Cymru yn y 15fed ganrif.
Fe ysgrifennodd Tywysog Cymru ar y pryd, Owain Glyndŵr, at frenin Ffrainc, Siarl VI, i ofyn am gymorth milwrol yn ystod ei wrthryfel yn erbyn y Saeson.
Mae'r llythyr gwreiddiol, sy'n cael ei adnabod fel Llythyr Pennal, yn yr Archives Nationales ym Mharis.
Mae Matthew Rhys, yn dweud bod y cysylltiad hwn yn ysbrydoliaeth.
"Roedd yn wych ymweld â'r dafarn yn ddiweddar a gweld dros fy hun yr holl waith gwych maen nhw wedi bod yn ei wneud i gadw'r dafarn hanesyddol hon a'r canolbwynt cymunedol lleol yn fyw," meddai.
"Byddai Owain Glyndŵr ei hun yn falch o'r ysbryd heriol cymunedol a ddangoswyd hyd yn hyn, felly byddwn yn annog pobl o bedwar ban byd i gymryd rhan a buddsoddi mewn ychydig o hanes."
Mae nifer o dafarndai eraill ar draws Cymru wedi cael eu hachub rhag cau gan fentrau cymunedol mewn blynyddoedd diweddar.
Pam felly bod achub Glan yr Afon mor bwysig ym Mhennal?
Dywedodd Aled Rees: "Fel sawl cymuned arall rydym wedi colli ein capeli; mae dwy siop wedi cau a'r Swyddfa Bost; mae'r eglwys yn dal i fynd ond mae'n stryglo, ac rydym wedi gorfod brwydro i gadw'r ysgol ar agor, ac wedi gorfod ffederaleiddio efo Ysgol Corris er mwyn gwireddu hynny.
"Tase'r dafarn yn cau fydd 'na nunlle i fynd yma, nunlle i'r gymuned ddod at ei gilydd, a dyna pam rydan ni'n awyddus i greu'r hwb cymunedol yma."
'Dyfodol yn edrych yn fwy disglair'
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor rheoli, Meirion Roberts, eu bod yn gweld golau ar ddiwedd y twnnel erbyn hyn.
"Dros fisoedd yr haf daeth cymuned Pennal at ei gilydd ac er nad ydyn ni wedi cyrraedd y nod eto, yn sicr mae yna olau ar ddiwedd y twnnel ac mae'r dyfodol yn edrych yn fwy disglair.
"Rydyn ni eisiau diolch i bawb sydd wedi cofrestru ar gyfer y cytundeb cyfranddaliadau cymunedol hyd yn hyn a diolch yn fawr i Matthew Rhys am ei gefnogaeth.
"Mae wedi bod yn hwb mawr i'r gymuned ar ôl eu holl waith caled."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021