Doreen Morris: 'Wal o ddistawrwydd' o fewn y gymuned

  • Cyhoeddwyd
Doreen MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Doreen Morris ei llofruddio yn ei chartref yng Nghaergybi

Mae cwest i lofruddiaeth dynes o Ynys Môn yn 1994 wedi clywed bod "wal o ddistawrwydd" wedi bod ynghylch yr achos gan rai yn y gymuned.

Cafodd yr honiadau eu gwneud gan gynrychiolwyr merch Doreen Morris, a gafodd ei lladd yn ei chartref ger Caergybi bron i 30 mlynedd yn ôl.

Mae'r cwest wedi clywed iddi gael ei thrywanu ar ôl iddi darfu ar ladron oedd yn ei thŷ, ac fe gafodd ei chorff a'r tŷ wedyn ei losgi.

Cafodd Joseph Carl Westbury ei ganfod yn ddieuog o'i llofruddio mewn achos llys yn 1995. Bu farw Mr Westbury yn 2016 drwy hunanladdiad.

Fe ailagorwyd y cwest i farwolaeth Mrs Morris yn dilyn ymgyrch gan ei merch, Audrey Fraser.

Gwadu unrhyw ran

Yn ystod y cwest yng Nghaernarfon, dywedodd Emma Westbury, gwraig Carl Westbury, ei fod wedi bod yn y cartref ar noson y lofruddiaeth, ond ei fod yn mynnu mai dyn arall - Stuart Queen - oedd wedi lladd Mrs Morris, 64.

Ond gwadodd Mr Queen bod ganddo unrhyw ran yn y fwrgleriaeth, bod yn yr eiddo ar y noson honno neu unrhyw ran ym marwolaeth Mrs Morris.

Dywedodd ei fod gartref gyda'i gariad ar y pryd.

Wrth roi tystiolaeth ddydd Iau, dywedodd partner Mr Queen ar y pryd ei bod yn cefnogi hynny.

Yn ôl Dawn Taylor roedd Mr Queen yn eu cartref pan gyrhaeddodd hi adref ar ôl bod yn gweithio mewn bwyty'r noson honno.

Cadarnhaodd hefyd bod Mr Queen wedi dweud wrthi fod ei ffrind, Carl Westbury, wedi cyfaddef i'r llofruddiaeth.

Clywodd y cwest bod Ms Taylor wedi dweud hyn wrth heddwas yr oedd hi'n ei adnabod, ac oedd ddim ar ddyletswydd ar y pryd, gan hawlio mai Mr Westbury oedd y llofrudd.

Disgrifiad o’r llun,

Daethpwyd o hyd i gorff Doreen Morris, 64, ym mis Mawrth 1994, yn ei chartref, a oedd wedi cael ei roi ar dân

Dywedodd wrth y cwest ei bod wedi gwneud hynny am ei bod "isio gwneud yn iawn" â theulu Mrs Morris.

Ond awgrymodd y bargyfreithiwr Matthew Stanbury bod rheswm arall dros siarad efo'r heddlu.

"Roeddech chi'n gwneud unrhyw beth y gallech chi er mwyn diogelu Stuart Queen," meddai wrth Ms Taylor.

Dywedodd bod Ms Taylor eisiau tynnu'r sylw oddi ar ei chariad "am ei fod yn poeni y byddai'n cael ei gyhuddo o'r llofruddiaeth ei hun".

Atebodd Ms Taylor: "Doedd gen i ddim rheswm dros ddiogelu Stuart, a does gen i'n dal ddim rheswm dros ei ddiogelu.

"Doeddwn i ddim yn trio diogelu unrhyw un. Mi es i at yr heddlu am mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud," meddai.

Y tyst olaf i roi tystiolaeth i'r cwest oedd Michelle Parker, a oedd wedi rhannu tŷ â gwraig Carl Westbury yn y gorffennol.

Clywodd y cwest honiadau bod Carl Westbury wedi cyfarfod Michelle Parker ar ôl y llofruddiaeth, cyfadde'r hyn roedd o wedi'i wneud, a'i fod hyd yn oed wedi pwyntio at dŷ Doreen Morris a oedd ar dân.

'Ddigwyddodd dim byd fel'na'

Dywedwyd wrth Ms Parker ei bod hi wedi rhannu manylion y cyfarfod hwnnw gyda ffrind, a bod Carl Westbury hefyd wedi crybwyll ei chyfarfod.

Ond mynnodd Ms Parker nad oedd hi wedi cyfarfod Mr Westbury y noson honno, ac nad oedd o wedi dweud dim wrthi am Doreen Morris.

"Ddigwyddodd 'na ddim byd fel'na," meddai.

Gwadodd hefyd ei bod yn diogelu Carl Westbury.

Mewn ymateb dywedodd y bargyfreithiwr, Mr Stanbury: "Mae 'na wal o ddistawrwydd gan bobl yng Nghaergybi, yn gwrthod dweud wrthym beth ddigwyddodd."

Wrth ohirio'r cwest tan ddiwedd Ionawr, dywedodd Uwch Grwner gweithredol gogledd orllewin Cymru, Katie Sutherland, y byddai'n rhoi ei chasgliadau ynglŷn â marwolaeth Mrs Morris bryd hynny.

Pynciau cysylltiedig