Annog athrawon gyrru i gael hyfforddiant iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Rhydian Hughes
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na lawer o bobl sydd ddim eisiau mynd at ddoctor," medd yr hyfforddwr gyrru Rhydian Hughes

Dywed hyfforddwr gyrru o Gonwy ei fod yn aml yn teimlo fel "therapydd a seicolegydd" wrth i ddisgyblion rannu eu pryderon yn ystod eu gwersi.

Daw hyn wrth i rai hyfforddwyr gyrru yng Nghymru dderbyn hyfforddiant ar sut i siarad â phobl sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael.

"Mae 'na lawer o bobl sydd ddim eisiau mynd at ddoctor. Mae dod at rywun fel hyfforddwr gyrru yn ryw fath o half-way point," medd Rhydian Hughes.

"Mae'n gallu bod yn frawychus ar y dechrau," meddai, gan groesawu'r hyfforddiant gan elusen iechyd meddwl Samariaid Cymru.

'Straeon difrifol'

Ychwanegodd: "Pan 'nes i ddechrau'r swydd yma, o'n i'n meddwl just dysgu pobl i yrru o'dd o.

"Ond y gwir ydy, mae 'na lot o roles eraill. Ar adegau, dwi wedi teimlo fel therapydd, a bron iawn a dweud fel seicolegydd."

Dywed Mr Hughes fod y disgybl a'r hyfforddwr yn troi'n ffrindiau, ac yn sgil hynny, mae disgyblion yn aml yn rhannu eu teimladau yn y car.

"Mae'r pryderon yn newid, o boeni am gael y graddau i fynd i'r brifysgol, at ffraeo adref efo'u rhieni. Dwi wedi cael pobl priod yn rhannu problemau eu perthynas."

Weithiau bydd disgyblion yn crio ac yn rhannu straeon "difrifol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion yn aml yn rhannu eu teimladau yn y car yn ystod gwersi gyrru

"Y gwir ydy, mae 'na lawer o bobl dwi'n teimlo sydd ddim eisiau mynd at ddoctor, sydd ddim eisiau'r stigma, a ddim eisiau cydnabod eu bod nhw angen help.

"Drwy ddod at rywun fel hyfforddwr gyrru, ma' hwnna yn rhyw fath o half-way point lle maen nhw'n gallu siarad efo rhywun o leiaf.

"Mae'n gallu bod yn frawychus ar y dechrau - dyna beth ydy'r swydd."

Cyn iddo fod yn hyfforddwr gyrru, fe weithiodd Mr Hughes yn y sector diogelwch.

"Dwi wedi bod yn ffodus - yn yr hen swyddi 'ma, dwi 'di cael rhyw fath o hyfforddiant i fedru siarad efo pobl am bethau sensitive."

I hyfforddwyr gyrru heb y fath brofiad, mae Mr Hughes o'r farn y byddai hyfforddiant yn fuddiol iawn.

'Rhywun niwtral yn dy fywyd'

Fe wnaeth Siwan Rhys o Gaerdydd ddysgu i yrru yn 18 oed, gyda sawl un o'i chyfoedion yn dysgu ar yr un pryd.

"O'n i'n bryderus iawn am ddysgu i yrru, just y sgil yn ei hun - ond wedyn mae stresses eraill dy fywyd di'n dod mas hefyd," meddai.

Dywed fod y cyfnod bywyd pan mae llawer yn dysgu i yrru yn gallu creu straen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Samariaid hefyd yn annog pobl fel trinwyr gwallt i fanteisio ar hyfforddiant iechyd meddwl

"Ma' fe yng nghanol yr adeg yna pan mae gen ti arholiadau, cyfweliadau i fynd i'r brifysgol - ma' lot o straen fel mae hi.

"Falle ti'n mynd i'r wers gyrru yn ystod gwers rhydd, neu ar ôl diwrnod anodd yn yr ysgol. Mae'r hyfforddwr yn rywun gwahanol - nid athro neu ffrind - sy'n niwtral yn dy fywyd di, a ti'n gallu siarad iddyn nhw."

Fe fyddai hyfforddiant ar sut i ymateb i ddisgyblion sy'n rhannu eu pryderon yn werthfawr iawn, meddai Ms Rhys.

"Os ydy rhywun newydd rannu'r pethau 'ma efo ti, a ma' fe 'di dod o nunlle, dwyt ti ddim eisiau 'neud y sefyllfa'n waeth. Galle llwyth o bobl 'neud efo'r hyfforddiant 'ma."

'Llawer yn cael trafferth'

Dywedodd llefarydd ar ran Samariaid Cymru: "Pan fydd rhywun yn profi amser caled, fyddan nhw ddim bob tro'n mynd at feddyg teulu neu wasanaeth iechyd meddwl.

"Yn lle hynny, efallai fyddan nhw'n mynd at wasanaethau sy'n delio â'r cyhoedd - fel hyfforddwyr gyrru, pobl trin gwallt, neu weithwyr mewn canolfannau gwaith a siopau.

"Dyma un o'r rhesymau dros greu ein pecyn Gweithio gyda Thosturi ar gyfer gweithleoedd Cymru.

"Ein bwriad oedd cynnig cymorth i'r rheiny sy'n gweithio â phobl gall fod mewn sefyllfa ofidus, ond sydd ddim o reidrwydd yn gweithio yn y sector iechyd meddwl."

Pynciau cysylltiedig