Caerdydd dan embargo trosglwyddiadau dros ffi Sala

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emiliano Sala wrth deithio i Gymru ar ôl arwyddo cytundeb i symud o Nantes i Glwb Pêl-droed Caerdydd

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau eu bod dan embargo rhag arwyddo unrhyw chwaraewyr cyn ffenestr drosglwyddo mis Ionawr.

Mae'r clwb yn cynnal trafodaethau gan obeithio osgoi unrhyw effaith ar eu cynlluniau ar gyfer gweddill y tymor.

Fe ddaw yn sgil methiant y clwb i dalu rhandal cyntaf ffi o £15m i glwb Nantes am arwyddo'r Archentwr Emiliano Sala, a fu farw mewn damwain awyren wrth deithio o Ffrainc i ymuno â'i gyd-chwaraewyr newydd yng Nghymru.

Dywed y cadeirydd Mehmet Dalman ei fod yn "hyderus" o allu codi'r embargo cyn y ffenestr drosglwyddo.

Mae'r trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Chynghrair Bêl-droed Lloegr a'r corff rheoli pêl-droed y byd, FIFA mewn ymgais i ddatrys y sefyllfa.

Collodd CPD Caerdydd apêl ym mis Awst yn erbyn gorchymyn gan FIFA i dalu'n rhandal cyntaf i Nantes, sef £5.3m (€6m).

'A ddylai cefnogwyr boeni?'

Dywedodd Mehmet Dalman wrth BBC Radio Wales Sport: "Dydyn ni heb dalu ac ar y foment a does dim bwriad talu, nes y daw trafodaethau penodol i'w terfyn.

"Mae hyn yn rhoi'r EFL [Cynghrair Pêl-droed Lloegr] mewn sefyllfa lle maen nhw'n ein rhoi'n awtomatig dan embargo trosglwyddiadau, ond hyd nes Ionawr dyw hynny'n golygu dim, fwy neu lai, ta beth.

"Hyd nes Ionawr rwy'n siŵr y bydd yna ddatblygiadau eraill. Rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau y gallwn ni drafod busnes bryd hynny."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mehmet Dalman yn "hyderus" o allu datrys y sefyllfa ond yn cydnabod na allai fod yn hollol sicr o hynny

Cyfaddefodd na allai rhoi sicrwydd i gefnogwyr Caerdydd y bydd y sefyllfa wedi ei datrys erbyn Ionawr, a bod y rheolwr Mark Hudson "yn deall" ond "ddim yn hapus" o glywed sut mae pethau'n sefyll.

"A ddylai cefnogwyr boeni na allwn ni brynu unrhyw un ym mis Ionawr? Yr ateb yw ie a na," meddai.

"Yn sicr fe hoffwn ni ychwanegu mwy o chwaraewyr. Mae'r rheolwr yn awyddus i wneud hynny a rydyn ni wedi dweud wrtho i gynllunio gyda hynny mewn golwg achos rydyn ni'n credu bod y sefyllfa'n un dros dro, nid parhaol.

"Ond wrth gwrs, mae'n anrhagweladwy."