Negeseuon Nadolig eleni yn gwahodd pobl i'r eglwys

  • Cyhoeddwyd
eglwysiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae croeso cynnes yn eglwysi Cymru y Nadolig hwn, medd enwadau crefyddol, wedi heriau anodd eleni

Gwahodd pobl yn ôl i eglwysi yw prif thema negeseuon Nadolig enwadau crefyddol Cymru eleni, ond mae yna sylw hefyd i'r rhyfel yn Wcráin, costau byw a chroesawu ffoaduriaid.

Am y tro cyntaf mae dau Archesgob Cymru - Andrew John, Archesgob Anglicanaidd Cymru a Mark O'Toole, Archesgob Catholig Caerdydd ac Esgob Menevia - wedi cyhoeddi neges ar y cyd.

Wrth groesawu pobl i'r eglwys dros y Nadolig maen nhw hefyd yn dwyn i gof y "fflachiadau o oleuni" a gafwyd eleni "mewn cyfnod tywyll".

Maen nhw'n cyfeirio'n benodol at barhad caredigrwydd cymdogion wedi'r pandemig, croesawu ffoaduriaid a chofio'r Frenhines Elizabeth II a fu farw ym mis Medi.

Disgrifiad o’r llun,

Am y tro cyntaf mae dau Archesgob Cymru, Andrew John a Mark O'Toole, wedi cyhoeddi neges ar y cyd

Mae neges y ddau Archesgob - y ddau yn gymharol newydd i'w swyddi - yn dechrau gyda stori ysgrifennu carol adnabyddus Dawel Nos.

Mewn cyfnod heriol maen nhw'n annog pobl i gofio y gall digwyddiadau sy'n dechrau'n "gythryblus" neu "mewn braw" weithiau ddod i ben gydag "alaw heddwch".

Daw eu datganiad i ben drwy ddweud: "Weithiau gall gwir neges y Nadolig gael ei hanghofio yn y cyfnod cyn 25 Rhagfyr gyda holl brysurdeb paratoadau, coginio, siopa a lapio anrhegion.

"Pam na ddewch i'r Eglwys y Nadolig hwn i roi Tywysog Heddwch yn y canol unwaith eto?"

Mewn cyfweliad pellach â'r BBC, galwodd yr Archesgob Andrew John ar bobl i wneud yr hyn allen nhw yn sgil argyfwng costau byw.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Archesgob Cymru, Andrew John, ei fod yn gobeithio am flwyddyn llawn haelioni yn 2023

"Dwi'n teimlo'n grac ac yn boenus oherwydd 'da ni'n clywed mai ni ydy'r chweched gwlad gyfoethocaf yn y byd ond mae 'na bobl sydd methu fforddio y pethau mwyaf sylfaenol," meddai.

"Pa fath o wlad ydan ni? Ydan ni'n credu bod ni'n pethyn i'n gilydd? Bod hi'n gyfrifoldeb arnom ni gyd i fyw bywydau normal?

"Mae 'na gwestiwn am siâp ein gwlad, ein blaenoriaethau. Ydy'n bosib siapio â math o fywyd sy'n llai annheg i bawb? Dyna un cwestiwn mwyaf pwysig sy'n dod atom."

Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn newydd dywedodd ei fod yn gobeithio am flwyddyn lle all bawb fod yn hael.

"Dwi'n gobeithio welwn ni mwy o gyfeillgarwch - lle mae'n naturiol i fod yn hael a bod yn agos at ein cymdogion," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

'Nid yw'n rhy hwyr i droi i'r addoldy lleol unwaith eto,' medd y Parchedig Beti-Wyn James

Annog pobl i fynd i gapel hefyd mae'r Annibynwyr yng Nghymru gan gyfeirio at y ffigyrau cyfrifiad diweddar.

"Cafodd Iesu ei eni ym Methlehem am i'w rieni fynd yno ar orchymyn cyfrifiad Rhufeinig," meddai'r Parchedig Beti-Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

"Mae canlyniadau'r cyfrifiad presennol, sy'n dangos dirywiad iaith a chrefydd yng Nghymru, yn her i ninnau fynd ar daith hefyd i chwilio am obaith newydd i'n cenedl

"Ar hyd y canrifoedd mae Cristnogaeth a'r iaith Gymraeg wedi cynnal ei gilydd.

"Er bod hi'n gyfnod digon tywyll ar ein crefydd a'n hiaith ni, mae'r Nadolig yn amser i ddathlu dyfodiad y goleuni mawr i dywyllwch y byd - ymgnawdoliad y Duw sydd wedi cynnal y genedl fach hon, er gwaethaf pawb a phopeth, tan heddiw.

"Ar drothwy'r Nadolig felly, rwy'n apelio ar bawb a fagwyd ar aelwyd Gristnogol Gymraeg, ond sydd wedi troi i ffwrdd oddi wrth grefydd, i ddathlu eu ffydd deuluol trwy fynd i oedfa mewn capel neu eglwys yn ystod yr ŵyl.

"Mae'r un apêl hefyd i'r rheini ymhlith y miliwn a chwarter o bobl Cymru sy'n dal i ystyried eu hunain yn Gristnogion, ond nad ydynt o bosib yn mynychu addoldy.

"Mewn pentrefi a chymunedau gwledig, y cadarnleoedd ieithyddol gynt sydd nawr yn cael eu chwalu, nid yw'n rhy hwyr i droi i'r addoldy lleol unwaith eto yn gaer i Gymreictod yn ogystal ag i Grist," ychwanegodd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan EBC - PCW

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan EBC - PCW

Caiff ffigyrau'r cyfrifiad sylw hefyd gan Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Bedyddwyr, ac mae'n annog pobl i feddwl am ffyrdd newydd o genhadu gan gofio addewid Gabriel i Mair na fydd diwedd ar deyrnas Iesu.

Mae neges yr Eglwys Bresbyteraidd yn nodi nad yw'r Nadolig yr un fath i bawb - hoff amser i rai ond nid i eraill.

Ond eu prif neges yw bod pawb yn wynebu gwacter ar ddiwedd yr ŵyl ac mai dim ond Iesu a all lenwi'r gwacter hwnnw a thrawsnewid ein bywyd.

Disgrifiad o’r llun,

Yn sgil y rhyfel yn Wcráin mae sylw penodol i groesawu ffoaduriaid yn negeseuon Nadolig enwadau crefyddol eleni

Mae'r rhyfel yn Wcráin, yr argyfwng costau byw, a chroesawu ffoaduriaid yn britho sawl neges ond yn cael sylw penodol gan y Methodistiaid Wesleaidd.

Gan droi at neges gŵr y llety, eu prif neges yw "bod yna le... lle i fyd natur a gwarchod yr amgylchedd, ac yn arbennig lle i ffoaduriaid".

Dywed un o'i harweinwyr Graham Thompson mai prif neges y Methodistiaid Wesleaidd yw bod lle yn y llety.

Cofiwch am eich dynoliaeth ac anghofiwch y gweddill yw neges y Dyneiddwyr. Yn ychwanegol at neges Archesgob yr Eglwys yng Nghymru dywed Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, ei bod hi'n bwysig gwneud hwn yn well byd i bawb.

"Mae angen darganfod ffyrdd o fuddsoddi mewn pobl eraill," meddai, "nid dim ond y teulu ond cylchoedd ehangach cymdeithas, nid ymhlith ffrindiau yn unig ond ymhlith dieithriaid anghenus hefyd."

Pynciau cysylltiedig