3 Llun: Lluniau pwysicaf Dylan Ebenezer

  • Cyhoeddwyd
Mae Dylan Ebenezer yn cyflwyno Dros Frecwast ar Radio Cymru yn ogystal a Sgorio ar S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Ebenezer yn cyflwyno Dros Frecwast ar Radio Cymru a Sgorio ar S4C

Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?

Yr wythnos yma, y cyflwynydd ac un o leisiau mwyaf cyfarwydd byd pêl-droed Cymru, Dylan Ebenezer sydd yn dewis rhai o'i hoff luniau.

Ffynhonnell y llun, Dylan Ebenezer
Disgrifiad o’r llun,

Dylan mewn cit Cymru pan oedd o'n 8 oed

Tua wyth oed yn gwisgo cit Cymru - ond nid cit cyffredin mohono - un o'r citiau mwyaf cool erioed.

Dwi dal yn caru citiau pêl-droed ac mae hi'n amlwg i'r obsesiwn ddechrau yn ifanc iawn.

Mae lleoliad y llun yn bwysig i fi hefyd. Cafodd hwn ei dynnu yn Heulfryn - tŷ teulu fy nhad ym Mhontrhydfendigaid. Dyma'r stafell fyw - rwy'n sefyll o flaen cadair ble fyddai Wncwl John wastad yn eistedd - un o'r bobl mwyaf caredig yn y byd. Mae hi'n bosib iawn mae Anti Betty sydd wedi tynnu'r llun hefyd - un arall o arwyr y teulu!

Mae Bont yn le arbennig iawn - dwi erioed wedi byw yno ond mae'r gwreiddiau yn ddwfn gan fod gymaint o deulu yno.

Ffynhonnell y llun, Dylan Ebenezer
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'r plant a'i wraig Jan yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi buddugoliaeth 5-1 yn erbyn Belarws

Y teulu ar ôl i Gymru ennill 5-1 yn erbyn Belarws! Dim rhyfedd bod pawb yn gwenu.

Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhyfeddol o ran Cymru - ac mae cyflwyno'r gemau byw wedi bod yn anhygoel. Ni'n cyflwyno'r gemau wrth ochr y cae ac mae Jan a'r plant yn dod lawr ata'i ar ddiwedd y gêm (er mwyn cael lifft adref!). Dyma oedd canfed gêm Gareth Bale hefyd - dwi'n pwysleisio i'r plant drwy'r adeg bo' nhw yn lwcus iawn i gael profi'r oes euraidd yma.

Rwy'n caru'r ffaith bod y plant yn caru gwylio gemau Cymru. Er bod Cwpan y Byd yn siomedig - byddwn ni gyd yn siarad am y cyfnod yma am byth.

Ffynhonnell y llun, Dylan Ebenezer
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'i rieni a'i blant yn Eisteddod Tregaron 2022

Mae'r llun yma yn sbesial am fwy nag un rheswm - pawb gyda'i gilydd yn amlwg (heblaw am Jan oedd yn gweithio yng Ngemau'r Gymanwlad). Roedd yr Eisteddfod gyfan yn emosiynol iawn. Roedd y maes lawr y lôn o gartref Mam a Dad yn Bont ac oedd hi mor braf rhannu'r profiad yma gyda nhw.

Cafodd y llun ei dynnu ar ôl i Dad siarad yn aduniad Ysgol Tregaron - roedd hi'n orlawn yno a dim lle i bawb - ond stori arall yw honno!

Ges i'r cyfle i gyflwyno rhaglenni'r nos o'r maes ar S4C - rhywbeth o'n i erioed yn meddwl byddai'n digwydd - a rhywbeth oedd yr un mor gyffrous â chyflwyno yng Nghwpan y Byd.

Hefyd o ddiddordeb: