Gollwng achos yn erbyn dyn wedi marwolaeth Susan Moore
- Cyhoeddwyd
Mae erlynwyr wedi gollwng achos yn erbyn dyn a oedd wedi'i gyhuddo o lofruddio mam i dri o blant.
Cafwyd hyd i Susan Moore, 53, gan yr heddlu mewn eiddo yng Nghwmbrân, Torfaen, ar 27 Awst. Bu farw'n ddiweddarach o'i hanafiadau.
Cafodd Andrew Jenkins, 48, ei arestio ynglŷn â'i marwolaeth ac roedd wedi cael ei gadw yn y ddalfa cyn achos llys.
Ond cerddodd yn rhydd o Lys y Goron Caerdydd ddydd Mercher ar ôl i erlynwyr beidio cynnig tystiolaeth.
Dywedodd yr erlynydd, Mark Wyeth KC, "nad oedden nhw mewn sefyllfa i brofi'r achos hwn i'r prawf erlyn arferol".
Ychwanegodd Mr Wyeth fod tystiolaeth feddygol wedi ei ystyried "yn helaeth ac yn ofalus".
Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd Clarke wrth Mr Jenkins y byddai rheithfarn ddieuog yn cael ei chofnodi a bod yr achos yn ei erbyn wedi dod i ben.
Mewn teyrnged i Ms Moore, fe gafodd ei disgrifio gan ei theulu fel "merch a mam falch".
"Roedd Susan yn byw ei bywyd i'r eithaf ac yn bendant doedd 'na'm eiliad ddiflas," meddent.
"Roedd hi'n ferch, ac yn fam falch i dri a bydd yn cael ei cholli'n fawr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2022