Angharad Mair: Fy Nadolig i
- Cyhoeddwyd
"Mae dau ddiwrnod Nadolig eleni... Ond does dim pwysau wrth baratoi i'r teulu, dim ond joio a bwyta gormod!"
Y gyflwynwraig Angharad Mair sy'n rhannu ei chynlluniau ar gyfer yr ŵyl ac yn rhoi cipolwg ar ei chartref cyn y Nadolig i Cymru Fyw.
Dwi yn edrych mlaen at y Dolig yn fawr iawn, er dwi ddim erioed wedi gallu bod yn un o'r bobl sydd yn drefnus ymhell o flaen llaw! Mae'n gyfnod prysur iawn iawn bob blwyddyn - mae angen addurno'r tŷ, dewis a phrynu anrhegion wrth gwrs a meddwl am y bwyd.
Mae'r addurniadau wedi mynd lan yn gynt eleni - penwythnos cyntaf Rhagfyr - er o ran yr addurniadau pedair coeden sy'n serennu, garland ar y stâr a wedyn goleuadau bach.
Mae dwy goeden yn y tŷ, un ar y balconi tu fas ac un arall wrth ddrws y ffrynt. Tan yn ddiweddar roedden ni'n byw ym Mro Morgannwg ac roedd fy ngŵr Joni yn tyfu a gwerthu coed Nadolig, a phan symudon ni i Gaerdydd daethon ni ag un fach gyda ni - dwi'n ceisio edrych ar ôl hon yn dda trwy gydol y flwyddyn achos mae'n dod nôl ag atgofion hapus iawn o'r hen gartre.
Hefyd wrth y drws ffrynt mae dau garw pren. Flynyddoedd yn ôl daeth rhywun ar raglen Heno i ddangos sut i wneud carw pren ac fe brynais ddau ohonynt. Maen nhw'n dod mas bob blwyddyn a fi'n dal i ddwli arnynt. Ar y drws ffrynt mae torch Nadolig a wnaed gan ffrind annwyl iawn, Amanda Protheroe-Thomas.
O ran yr addurniadau ar y goeden fe brynais i rai lliwiau'r enfys siap calon newydd ar y sêl eleni ym mis Ionawr - lawr o £8 yr un i £1 a fi'n dwli arnynt.
Mae dau ddiwrnod Nadolig eleni! Ar y dydd ei hun bydd fy mam a fy mrawd a brawd arall a'r teulu yn galw hefyd, a wedyn ar ŵyl San Steffan twrci arall i deulu fy ngŵr felly dros y ddeuddydd bydd dau dwrci wedi bwydo 21 o bobl! Ond does dim pwysau wrth baratoi i'r teulu, dim ond joio a bwyta gormod!
Mae Cayo'r ci wrth ei fodd yn gweld y goleuadau ar y coed Nadolig ond ei uchafbwynt eleni - heblaw gobeithio am bach o dwrci sbar - yw cael modelu siwmperi Nadolig i gŵn ar Heno!
Ac mae'n gyfnod prysur iawn yn y gwaith hefyd rhwng Cracyr Dolig ar Heno a Prynhawn Da bob dydd, a pharatoi eitemau i Heno Nos Galan sydd yn mynd â'r gwylwyr ar wibdaith o uchafbwyntiau difyr y flwyddyn tan hanner nos Nos Galan.
Hefyd, rhaglen Carol yr Ŵyl sydd yn gystadleuaeth sgwennu carol i ysgolion cynradd ac yn darlledu ar y 23ain ac mae'n hyfryd gweld yr holl blant yn eu siwmperi Nadolig.
Hefyd o ddiddordeb: