Prif weithredwr newydd i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Dona Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dona Lewis ymhlith aelodau staff cyntaf y ganolfan pan sefydlwyd y corff yn 2016

Mae Dona Lewis wedi cael ei chadarnhau fel prif weithredwr newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd yn olynu Efa Gruffudd Jones yn y swydd, wedi iddi hi gael ei phenodi'n Gomisiynydd y Gymraeg.

Ms Lewis ydy dirprwy brif weithredwr a chyfarwyddwr cynllunio a datblygu'r ganolfan ar hyn o bryd.

Bydd yn dechrau ar ei rôl newydd ym mis Ionawr.

'Cyfnod cyffrous'

Cafodd Ms Lewis ei magu ger Abergele ac astudiodd hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Fe dreuliodd 16 mlynedd yn gweithio i'r Mudiad Meithrin mewn gwahanol rolau, gan gynnwys dirprwy brif weithredwr a phrif weithredwr dros dro.

Roedd ymhlith aelodau staff cyntaf y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol pan sefydlwyd y corff yn 2016.

Dywedodd Ms Lewis: "Mae 'na fwrlwm yn y sector dysgu Cymraeg, gydag arwyddion cadarnhaol bod y galw am gyrsiau yn cynyddu, a dwi'n edrych ymlaen at arwain y ganolfan trwy'r cyfnod cyffrous nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dona Lewis bod "arwyddion cadarnhaol bod y galw am gyrsiau yn cynyddu"

Ychwanegodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles fod y "Gymraeg wedi bod wrth galon" gyrfa Ms Lewis, a bod "ganddi gyfoeth o sgiliau a phrofiad perthnasol".

"Mae'r Ganolfan Genedlaethol yn hollbwysig i'n hymdrechion i gynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg a'r niferoedd sy'n defnyddio'r iaith yn eu bywydau pob dydd," meddai.

Pynciau cysylltiedig