Yr heddlu'n teimlo pwysau streiciau'r gwasanaeth iechyd

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Vaughan ei bod yn ergyd nad yw'r heddlu'n gallu galw ar y gwasanaeth ambiwlans

Mae gweithredu diwydiannol yn rhoi mwy o bwysau ar yr heddlu, yn ôl Prif Gwnstabl Heddlu'r De.

Dywedodd Jeremy Vaughan ei bod yn ergyd nad yw'r heddlu'n gallu galw ar y gwasanaeth ambiwlans, wrth iddyn nhw gynnal y cyntaf o ddau ddiwrnod o streicio ddydd Mercher.

"Os oes yna fwy o bwysau ar wasanaethau brys mae 'na fwy o bwysau arnon ni hefyd," meddai'r prif gwnstabl.

"'Dan ni'n ffonio'r gwasanaeth ambiwlans i ofyn am help gynnon nhw ar adegau achos 'dan ni'n dod ar draws pobl sydd angen help, ac wedyn maen nhw'n ffonio ni i helpu nhw 'efo pethau.

"Mewn ffordd, mae'r busnes yr un peth i ni. 'Dan ni'n gorfod blaenoriaethu ar y pryd 'dan ni'n derbyn yr alwad.

"'Dan ni'n gyrru pobl allan os bydd angen i helpu, a byddan ni'n gwneud hynny fel ar unrhyw ddiwrnod arall, ond mae yna fwy o bwysau. S'dim dowt am hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Nadolig yn gyfnod prysur i'r heddlu, gyda phryder fod mwy yn mentro yfed a gyrru

Fe wnaeth Mr Vaughan ei sylwadau wrth gyhoeddi ymgyrch Nadolig yr heddlu, yn galw ar bobl i edrych ar ôl eu hunain a'u ffrindiau wrth gymdeithasu dros yr ŵyl.

"Ein neges ni yn syml yw peidiwch â'i gorwneud hi. Peidiwch â goryfed," meddai.

"Edrychwch ar ôl eich gilydd. Edrychwch ar ôl eich ffrindiau. Os byddwch chi angen help, dewch atom ni.

"Mae gennym ni bobl yn weladwy ond bydd plismyn yn eu dillad eu hunain o gwmpas hefyd i gadw pobl yn saff, ond dwi'n annog pobl i edrych ar ôl ei gilydd a chadw eu diodydd nhw yn saff."

Yfed a gyrru yn 'difetha bywydau'

Ychwanegodd ei fod yn erfyn ar bobl i beidio yfed alcohol cyn gyrru, gyda'r Nadolig yn gyfnod sy'n gweld mwy o bobl yn cael eu dal yn gwneud hynny.

"'Dan ni yn gweld cynnydd yn y bobl sy'n penderfynu yfed a gyrru. Mae'n mynd i ddifetha eu bywyd nhw os y'n nhw'n cael eu dal," meddai.

"Mae gynnoch chi ddewis. Trefnwch ffordd o gyrraedd adre' o flaen llaw fel bod y temtasiwn ddim yno."

Dywedodd Mr Vaughan hefyd ei bod yn allweddol fod y cyhoedd â hyder yn yr heddlu, wedi i honiadau o hiliaeth a chasineb at fenywod ddod i'r amlwg yn Heddlu Gwent.

Mae pedwar swyddog o'r llu hwnnw bellach wedi cael eu gwahardd fel rhan o ymchwiliad i'r honiadau

Yn ôl Mr Vaughan mae'r heddlu yn "cynnig gwasanaeth arbennig y rhan fwyaf o'r amser", ond mae'n cydnabod y gallai straeon am gamymddwyn gael effaith ar farn pobl.

"Mae'n flaenoriaeth i fi sicrhau fod pobl yn ymddiried yn yr heddlu," meddai.

"Am bob un cwyn dwi'n gweld dwi'n cael 100 o lythyron sy'n canmol y gwaith 'dan ni'n 'neud bob dydd, ond wrth gwrs, mae'n mynd i effeithio ar rai pobl.

"Fy neges i iddyn nhw ydy 'dan ni yma i chi. 'Dan ni'n cynnig gwasanaeth arbennig y rhan fwyaf o'r amser felly os dach chi angen help just ffoniwch ni."

Pynciau cysylltiedig