Cynnal Gemau'r Ynysoedd 2027 yn 'gyfle euraidd' i Fôn
- Cyhoeddwyd
Wrth i Fôn baratoi i groesawu miloedd o athletwyr i'r "gemau Olympaidd ar gyfer ynysoedd", mae'r trefnwyr yn hyderus o lwyddiant er gwaethaf diffyg cyfleusterau sydd wedi niweidio ymdrechion blaenorol.
Wedi cystadlu ymhob Gemau'r Ynysoedd er ei sefydlu yn 1985, aflwyddiannus fu ymdrechion Môn i gynnal y gystadleuaeth yn y gorffennol, dolen allanol.
Ond fe ddaeth y newyddion yn 2020 bod y cais diweddaraf i groesawu'r gemau i ogledd Cymru wedi llwyddo o'r diwedd.
Yn wreiddiol, roedd Môn wedi ymgeisio i groesawu'r gemau, sy'n cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn, yn 2025.
Mae bellach wedi ei gadarnhau, wedi i'r pandemig arwain at orfod gohirio'r gemau, mai yn 2027 y bydd y gystadleuaeth yn cyrraedd Cymru.
Ond er gwaethaf diffyg rhai cyfleusterau, dywedodd cadeirydd pwyllgor cynnal y gemau wrth Cymru Fyw, fod modd teilwra'r gemau i wneud y mwyaf o'r hyn sydd gan Fôn i'w gynnig.
'Teilwra'r gemau'
Wedi'u sefydlu yn 1985 er mwyn meithrin cyfeillgarwch rhwng ynysoedd ar draws y byd, mae'r gemau wedi tyfu'n sylweddol ers yr un cyntaf ar Ynys Manaw.
Bryd hynny roedd 15 ynys yn cystadlu mewn saith o gampau gwahanol, ond yn y gemau diwethaf yn 2019 roedd 24 ynys yn cystadlu ar draws 14 camp.
Er hynny, roedd methiant Gibraltar i gynnig digon o gaeau i gynnal y cystadlaethau pêl-droed yn gadael y drws ar agor i Ynys Môn brofi i'r trefnwyr bod y gallu yno i groesawu cannoedd o athletwyr.
Yn ystod Mehefin 2019 cafodd 16 o dimau dynion a chwech o dimau merched eu croesawu wrth i Fôn gynnal elfen pêl-droed y gemau.
Rhai llwyddiannus iawn oedd y rheiny i'r ynys o ran medalau a chefnogaeth, gyda dros 14,000 yn dod i wylio'r gemau dros yr wythnos.
Roedd torf o dros 3,000 yng Nghaergybi i weld tîm y dynion yn trechu Guernsey i gipio'r fedal aur a'r merched yn sicrhau'r arian wedi iddynt gyrraedd y ffeinal i wynebu Ynys Manaw.
Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Gareth Parry, roedd llwyddiant y gystadleuaeth honno o fudd mawr i berswadio trefnwyr y gemau i dangos ffydd ym Môn.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Fyddan ni'n treulio dipyn o amser yn Guernsey yr haf nesa', yn gweithio'n agos efo nhw a Orkney [sy'n cynnal y gemau yn 2025]. Does na'm byd gwell na dysgu gan rhywun sydd wedi'i wneud o'n barod.
"Mae 'na rai yn eu galw nhw y mini Olympics. Mae o'n safon da - ddim i safon yr Olympics 'ella - ond 'dan ni'n edrych ar ryw 4,000 yn dod drosodd o tua 25 o ynysoedd ar draws y byd. Mae o'n dipyn o sioe.
"Un o'r prif resymau i'w gynnal yma ydi i bobl yr ynys weld yn union pa mor fawr ydi'r gemau a pha mor lwcus ydan ni i gael cymryd rhan mewn rhywbeth tebyg.
"Cawsom gyfle hefo'r pêl-droed [yn 2019] i roi blas i bobl, ond fydd 'na 14 o chwaraeon yn rhan o'r gemau yn 2027 a 'dan ni'n gobeithio ysgogi mwy i fod eisiau cystadlu mewn gemau i ddod ac i wella cyfleon yn lleol hefyd."
Goresgyn siom y gorffennol
Roedd siom ar yr ynys pan enillodd Åland y ras i lwyfannu'r gemau yn 2009, tra y tynnodd dynnodd Môn allan o'r ras i gynnal y gemau yn 2015 wedi i'r cyngor sir feio diffyg arian i ddatblygu pwll nofio chwe lôn.
Ond dywedodd Gareth Parry, sydd hefyd wedi cystadlu yng ngemau'r ynysoedd yn y gorffennol, fod agwedd trefnwyr y gemau bellach wedi newid a bod awydd i helpu ynysoedd llai i hefyd groesawu'r digwyddiad.
"Does 'na ddim arian i ddatblygu cyfleusterau. 'Dan ni'n lwcus fod Coleg Menai wedi buddsoddi dipyn go lew mewn i neuadd chwaraeon newydd yn Llangefni, a da ni'n gweithio'n agos efo nhw o ran defnydd hwnnw i'r gemau.
"Ond 'dan ni'n ffodus efo'r amgylchedd rownd y ffordd hyn, mae lot o'r chwaraeon fyddan ni'n bigo yn chwaraeon fyddan ni'n gallu cynnal tu allan fel bicio, pêl-droed, triathlon a hwylio.
"Mae gynnon ni'r hyblygrwydd i bigo pa chwaraeon 'dan ni 'isio rhoi ymlaen yma, does na ddim core o chwaraeon mae'n rhaid i ni roi ymlaen.
"Da ni'n ymwybodol o beth sydd ganddon ni a mae'n fater o ddewis beth sy'n siwtio ni."
Buddion tymor hir
Mae disgwyl i'r gemau elwa economi'r ynys o hyd at £5m, ond mae gobaith hefyd am fuddion hir dymor eraill.
"Mae Cyngor Môn wedi cytuno i danysgrifio costau cynnal y gemau, dolen allanol," dywedodd dirprwy arweinydd yr awdurdod lleol, Carwyn Jones, sydd hefyd yn eistedd ar bwyllgor y gemau.
"Mae 'na lot o ymrwymiad a lot o gynnwrf am be allwn ni greu yma. Mae o'n mynd i fod yn achlysur chwaraeon sylweddol o bwysigrwydd cenedlaethol i Gymru - 'swn ni'n d'eud bod o'r achlysur aml-gamp mwyaf ers Gemau'r Gymanwlad yn 1958.
"'Dan ni wir yn gobeithio cario 'mlaen efo ethos y tîm pêl-droed o greu y brand Cymru 'ma ar draws y byd."
Gan ychwanegu bod dros £2m eisoes wedi ei fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden ar yr ynys, caeau 3G a chyrtiau sboncen a tennis, dywedodd fod gobaith o ddenu mwy o arian grant i wella'r cyfleusterau ymhellach.
Y gobaith, meddai, yw ysgogi'r genhedlaeth nesaf o athletwyr a chynyddu'r diddordeb cyffredinol mewn chwaraeon.
"'Dan ni'n gwybod fod arian yn dynn yn y maes yma ond mae 'na lot o frwdfrydedd - ar Ynys Môn 'dan ni'n gallu gwneud pethau ac mae hynny am barhau am y blynyddoedd nesaf i groesawu pawb yma yn 2027.
"'Dan ni 'di profi, wrth gynnal y gemau pêl-droed, bod y gallu ganddon ni i gynnal achlysuron mawr yma ar Ynys Môn. Roedd y brwdfrydedd yn wych - mae hwnnw wedi rhoi blas da i ni o be' sy'n bosib."
"Mae am fod yn gyfle euraidd a hwb economaidd anferthol.
"Bydd bron pob gwely sbâr ar yr ynys wedi cael eu harchebu gan y timau neu cefnogwyr, felly o ran y sector lletygarwch a mân werthu fydd na gryn dipyn o wario, a noddwyr yn gwario ar Ynys Môn.
"'Dan ni'n meddwl fydd 'na hwb anferthol a gobaith o greu llewyrch i bobl leol ac hefyd ffrindiau tymor hir yn dod yn ôl yma i Ynys Môn hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2020
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2019