Galw am ailfeddwl dileu miloedd o gyfreithiau Ewropeaidd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cae gwenith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru yn ofni y gallai rheoliadau amaethyddol pwysig gael eu colli

Dylai cynlluniau Llywodraeth y DU i gael gwared ar filoedd o gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd 2023 gael eu hailystyried, yn ôl grŵp trawsbleidiol o aelodau'r Senedd.

Clywodd pwyllgor deddfwriaeth Senedd Cymru y gallai'r aflonyddwch cyfreithiol niweidio rheoliadau iechyd, amgylcheddol ac amaethyddol hanfodol.

Mae'r pwyllgor yn codi ei bryderon ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir mewn llythyr at Ysgrifennydd Busnes y DU, Grant Shapps.

Mae gweinidogion y DU yn dweud eu bod am gymryd "mantais o fuddion Brexit".

Pa fath o gyfreithiau?

Cafodd cyfreithiau'r UE eu copïo i gyfraith ddomestig pan adawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020, a'u cadw yn ystod cyfnod pontio a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2021.

Bu symudiadau i ffwrdd o rai o'r cyfreithiau hynny mewn meysydd gan gynnwys mewnfudo ers hynny, ond mae miloedd o reoliadau yn dal mewn grym.

Mae Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir, sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan ASau yn San Steffan, yn cynnwys "cymal machlud" sy'n golygu, erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, y gallai rhai cyfreithiau ddod i ben yn awtomatig.

Mae Conffederasiwn GIG Cymru, sy'n cynrychioli cyrff iechyd, wedi rhybuddio y gallai rheolau ar wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi i ddefnyddwyr am alergenau a chynnwys maethol mewn bwyd, er enghraifft, gael eu colli "oherwydd diffyg goruchwyliaeth".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd o gyfreithiau'r UE yn dal yn berthnasol i Gymru a'r DU

Amlygodd Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU "risg sylweddol y bydd sylwedd yn ogystal â chydlyniad cyfraith a pholisi amgylcheddol yng Nghymru (a ledled y DU) yn cael eu tanseilio a'u gwanhau".

A phwysleisiodd undeb ffermwyr NFU Cymru ein bod "mewn perygl o gael gwared ar amddiffyniadau rheoleiddiol pwysig".

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw, uwch gynghorydd Llywodraeth Cymru ar faterion cyfreithiol, wrth y Senedd fis diwethaf bod "rhywbeth fel 2,400 o ddarnau o ddeddfwriaeth" yn gysylltiedig â'r mater.

"Yn y bôn, byddai hyn bron yn gyfan gwbl yn llethu nid yn unig rhaglen ddeddfwriaethol llywodraeth y DU, ond ein rhaglen ni hefyd, pe baem yn ceisio mynd i'r afael â hyn," meddai.

'Buddion Brexit'

Mae Llywodraeth y DU yn ceisio caniatâd Senedd Cymru ar gyfer ei chynlluniau, oherwydd eu bod yn ymwneud â materion y mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt.

Ond mewn llythyr at Grant Shapps a'r Gweinidog dros Ddiogelwch Diwydiant a Buddsoddi, Nusrat Ghani, dywedodd cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth y Senedd, Huw Irranca-Davies for "pryderon mawr" ynghylch y "dyddiad machlud cwbl ddiangen o 31 Rhagfyr 2023".

Ychwanegodd yr Aelod Llafur o'r Senedd na all ei bwyllgor "weld unrhyw reswm pam na ddylai'r pŵer i ymestyn y dyddiad machlud" sydd yn y ddeddfwriaeth "gael ei roi i weinidogion Cymru ar gyfer materion datganoledig hefyd".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn "ymrwymedig i fanteisio'n llawn ar fuddion Brexit, a dyna pam rydym yn bwrw ymlaen â'n Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir".

"Rydym yn parhau i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig ar gynnydd a pholisi'r mesur, gan eu cefnogi wrth iddynt adolygu unrhyw gyfraith UE a ddargedwir sy'n dod o fewn eu pwerau datganoledig.

"Does dim cynlluniau i newid y dyddiad cau."