Ateb y Galw: Chris Roberts
- Cyhoeddwyd
Y cwis-feistr a'r personoliaeth radio, Chris Roberts, sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Creu fersiwn cartref o WCW efo Mam.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mae Tŷ Mam a Dad yn le braf ac yn lle 'dan i'n dod at ein gilydd fel teulu yn aml.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dwi'n un o'r criw sydd wedi bod yn trefnu Gŵyl Arall yn Nghaernarfon dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Nos Sul yr ŵyl lle dani'n cael cyfle i ymlacio ac adlewyrchu ar ôl 'chydig ddyddiau eitha prysur wastad yn lot o hwyl.
Hefyd, dwi erioed wedi teimlo mor cŵl ac oeddwni'n deimlo yn bar jazz La Fontaine yn Coppenhagen. Wedi dod ar ei draws o yn gamygymeriad ar Nos Sul a llwythi o gerddrion gwych yn mynd a dod i jamio - arbennig!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Athrylith, Hynci, Diymhongar
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Troi fyny i sioe yn y theatr a cymryd ein seddi. Criw arall yn cyrraedd yn mynnu ein bod ni yn eu seddi nhw, edrych ar ein tocynnau ac roedd rhif y sedd ar tocynnau'r ddau ohonom. Wrth edrych yn fanylach daeth yn amlwg bod ein tocynnau ni ar gyfer y noson cynt! Yn ddigon lwcus fe wnaeth y theatr ffeindio seti gwahanol i ni!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mewn noson wobrwyo yn y brifysgol, oeddwn i wedi stopio talu sylw cyn clywed fy enw yn cael ei alw o'r llwyfan..nes i godi a cerdded i fyny yn meddwl mod i wedi ennill gwobr. Toeddwn i ddim, dim ond wedi fy nghrybwyll fel rhywun oedd wedi dod yn agos!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Nes i ail-wylio pennod The Queen of Sheeba Royle Family yn ddiweddar ma' hwna yn gal fi BOB tro. Alla i prin wrando i Que Sera Sera heb grio rwan.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Sawl un. Yr un sy'n cael fi mewn i fwyaf o drwbwl gyda fy nghariad adref ydi cnoi fy ewinedd a'u gadael o gwmpas y tŷ.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?
Mae'n anodd dewis dim ond un hoff albym, ond un o'r rhai sydd yn agos at y brig ydi Dogrel gan Fontaines DC. Dwi'n meddwl bod teimlad cryf o 'le' i lot o fy hoff albyms a mae Dogrel yn bortread hynod ddifyr o Ddulyn yn y 2010au, yn llawn gwrthgyferbyniadau a cymhlethdodau. Mae wedi 'neud i fi edrych ar y ddinas mewn ffordd hollol newydd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Annie Nightingale. Dwi'n gwrando ar llyfr sain ei hunangofiant ar hyn o bryd. Mae hi wedi bod yn ei chanol hi efo gymaint o fandiau ac artistiaid gwych dros y blynyddoedd ac wedi arloesi yn y byd radio, mae ganndi lwyth o straeon difyr.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Sgenaim lot o gyfrinachau, sori. Ond mae pobl yn tueddu i synnu pan dwi'n deud fy mod i'n wyliwr selog o Coronation Street. Dwi'n licio'r hiwmor, ac yn nghanol y ddrama ma' 'na lot o gynhesrwydd i'r rhaglen hefyd.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dial ar fy ngelynion.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Rhaid i fi gyfaddef - dwi'm yn un am luniau rhyw lawer. Ond nath Charlotte, fy nghariad a fi dynnu'r llun yma ar y diwrnod naethon ni symud i mewn hefo'n gilydd so ma hyna'n ciwt yndi?
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Emily Eavis. Dwi erioed wedi gallu cael tocyn i Glastonbury (maen nhw'n gwerthu allan mewn munudau!) felly yn gyntaf mi fyswni'n sortio rhai i fi a fy ffrindiau. Wedyn bwcio rhai o fy hoff fandiau i chwarae, Papur Wal ar Pyramid Stage? Ia plis!
Hefyd o ddiddordeb: