Sir Fynwy: Cartrefi heb ddŵr ar ddydd Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Tap dŵrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhai cartrefi yn ne ddwyrain Cymru heb ddŵr ar ddydd Nadolig oherwydd problemau gyda chyflenwadau.

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn ymwybodol o broblemau yn ardal Tryleg, Sir Fynwy.

Mae timau wedi bod yn gweithio drwy'r nos i geisio adfer cyflenwadau, meddai.

Daw yn dilyn dyddiau o drafferthion yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, gyda rhai heb ddŵr ar noswyl Nadolig.

Yn ôl Dŵr Cymru roedd "llond llaw" o gartrefi heb ddŵr yn yr ardal.

Collodd tua 4,500 o eiddo yng Ngheredigion eu cyflenwad dŵr ddydd Sadwrn, 17 Rhagfyr ar ôl i bibellau cyflenwi fyrstio.

Dywedodd Dŵr Cymru, a oedd wedi bwriadu adfer pob eiddo erbyn bore Mercher, eu bod bellach wedi gwneud hynny ar gyfer "mwyafrif helaeth" o gartrefi.

Ffynhonnell y llun, Rob Flanagan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rob Flanagan wedi teithio i'r ardal er mwyn gweld ei deulu dros y Nadolig

Roedd Rob Flanagan wedi teithio i Sir Fynwy i weld teulu yn Llandogo, gan fwriadu aros nes ddydd Mercher.

Ond heb ddŵr yng nghartref ei chwaer yng nghyfraith, dywedodd y gallai fynd adref yn gynnar.

"Dywedon nhw y byddai'n dod yn ôl pnawn ddoe [dydd Sadwrn], yna bore 'ma, a nawr maen nhw'n dweud erbyn prynhawn 'ma", meddai Mr Flanagan, 68 sydd o Warwick.

Dywedodd bod y teulu wedi gorfod llenwi bwcedi o ddŵr o'r pentref a'u cario yn ôl i'r tŷ.

"Roedden ni'n gobeithio gallu coginio, ond fydd neb yn gallu cael cawod - bydd rhaid i bawb ddrewi gyda'n gilydd."

Ffynhonnell y llun, Rob Flanagan
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Rob Flanagan wedi gorfod llenwi bwcedi o ddŵr a'u cario yn ôl i'r tŷ

Dywedodd bod diffyg cyfathrebu wedi ychwanegu at yr anghyfleustra.

"Dwi'n deall bod problemau'n digwydd, ond mae fel bod dim cynllun wrth gefn."

Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra, a dweud bod dŵr potel yn cael ei ddosbarthu i gwsmeriaid sy'n flaenoriaeth.

Mae dŵr potel hefyd ar gael yn y Premier Inn yn Nhrefynwy.

Ydych chi heb ddŵr dros y Nadolig? Cysylltwch gyda ni ar haveyoursay@bbc.co.uk.

Pynciau cysylltiedig