Pentrefi yn Sir Fynwy yn parhau i fod heb ddŵr

  • Cyhoeddwyd
Rob FlanaganFfynhonnell y llun, Rob Flanagan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rob Flanagan wedi bod yn cael dŵr o ffynnon

Mae Dŵr Cymru yn ymddiheuro wedi i nifer o fobl yn Sir Fynwy fod heb ddŵr yn ystod cyfnod y Nadolig.

Roedd nifer o bentrefi yn y sir yn parhau heb ddŵr fore dydd Gŵyl San Steffan wedi 72 awr.

Brynhawn Llun dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn amcangyfrif bod oddeutu 200 o gartrefi yn dal heb gyflenwad.

Yn ystod y dyddiau yn arwain at y Nadolig bu miloedd o gartrefi yng ngorllewin Cymru heb ddŵr.

Dywed Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: "Mae'n amlwg y dylem fod wedi darparu gwell gwasanaeth mewn sawl ardal."

Fore Llun fe gadarnhaodd Dŵr Cymru fod problemau yn parhau yn ardaloedd Tryleg a Llandogo yn ne Sir Fynwy wrth i aer mewn pibau achosi trafferthion ac fe ychwanegon nhw bod eu staff wedi bod yn gweithio drwy'r nos i adfer y cyflenwad.

Un o'r rhai sydd heb ddŵr yw Rob Flanagan, 68, o Drefynwy a fore Llun dywedodd ei fod yn defnyddio dŵr o ffynnon.

Ychwanegodd Dŵr Cymru fod poteli o ddŵr yn cael eu cludo i "gwsmeriaid oedd yn flaenoriaeth" a bod cyfle i bobl nôl dŵr o westy Premier Inn yn Nhrefynwy.

Bydd cartrefi yn gymwys i dderbyn £70 o iawndal am bob diwrnod y maen nhw wedi bod heb ddŵr a bydd busnesau yn gallu hawlio arian am unrhyw fusnes a gollwyd.

Pynciau cysylltiedig