Teyrngedau i fam yn dilyn marwolaethau dau yn Afon Tawe

  • Cyhoeddwyd
Rachel CurtisFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teyrngedau wedi eu rhoi yn dilyn digwyddiad ble bu farw dyn a dynes ar ôl i gar fynd i mewn i Afon Tawe yn oriau mân bore dydd Nadolig.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 03:05 yn dilyn adroddiadau bod y car wedi mynd i mewn i'r afon ger Heol New Cut yng nghanol y ddinas.

Yn ddiweddarach cafodd cyrff dyn a dynes, y ddau yn 36 oed, eu canfod.

Mae Heddlu'r De bellach wedi cadarnhau mai'r ddau oedd gyrrwr y car - Rachel Curtis, mam o ardal Bonymaen y ddinas - a'r teithiwr Jay Kyle Jenkins o ardal St Thomas.

"Roedd Rachel yn berson doniol, clyfar ac unigryw," meddai ei theulu mewn datganiad.

"Roedd hi'n dalentog tu hwnt ac yn greadigol iawn gydag ewinedd a chelf."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau eu gadael ger safle'r digwyddiad

Bu Ms Curtis yn gweithio yn Stadiwm Liberty yn dysgu celf, yn ogystal â bod yn hyfforddwr diogelwch personol.

Ychwanegodd ei theulu ei bod hefyd wedi helpu i godi arian dros elusennau, gan gynnwys i atal hunanladdiad, ac i bobl ddigartref, ac hefyd yn gweithio gyda phrosiectau cymunedol ar gyfer merched ifanc.

"Bydd colled fawr ar ôl Rachel gan bawb oedd yn ei hadnabod, yn enwedig ei mab 14 oed."

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am unrhyw lygad dystion, neu unrhyw un â lluniau dashcam, yn ogystal ag unrhyw un siaradodd â'r ddau cyn y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig