Stephen Jones a Gethin Jenkins i adael tîm hyfforddi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gethin Jenkins a Stephen JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gethin Jenkins a Stephen Jones chwarae fel rhan o'r tîm wnaeth ennill y Gamp Lawn i Gymru yn 2005

Bydd Stephen Jones a Gethin Jenkins yn gadael eu rolau yn nhîm hyfforddi Cymru wrth i Warren Gatland ail-drefnu'i staff.

Ddechrau'r mis, fe gamodd Gatland i rôl Wayne Pivac fel y prif hyfforddwr ar ôl cyfnod siomedig i garfan Cymru.

Bydd Stephen Jones, oedd yn hyfforddwr ymosod a Jenkins, oedd yn arbenigwr amddiffyn yn gadael, ond mae hyfforddwr y blaenwyr Jonathan Humphreys yn aros.

Mae'r hyfforddwr cicio, Neil Jenkins, hefyd yn parhau yn ei rôl.

Mae disgwyl i gyn-hyfforddwr ymosod Cymru, Rob Howley, sy'n rhan o dîm hyfforddi Canada ar hyn o bryd, ddychwelyd i dîm hyfforddi Gatland am yr eildro.

Fe allai Paul Gustard, cyn-hyfforddwr amddiffyn Lloegr, sy'n gweithio gyda Stade Francais ar hyn o bryd, ymuno â Chymru hefyd.

Mae cyn-flaenasgellwr Cymru, Jonathan Thomas, hefyd yn enw arall allai ymuno â'r hyfforddwyr.

'Sicrhau llwyddiant mewn cyfnod byr'

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn dal i chwilio am hyfforddwyr ymosod ac amddiffyn newydd, gyda disgwyl y bydd y rheiny'n cael eu penodi fis Ionawr.

"Ry'n ni wrth ein boddau y bydd Jonathan a Neil yn aros a hynny fel rhan o dîm newydd Warren," dywedodd y prif weithredwr, Steve Phillips.

"Mae natur yr ad-drefnu o fewn tîm cenedlaethol yn galluogi newid ac esblygiad rywle arall o fewn y tîm o staff.

"Dw i'n gwybod fod Stephen a Gethin yn deall y rhan hon o'r broses ac fe ddylen nhw gael eu canmol am y ffordd y gwnaethon nhw dderbyn y penderfyniad."

Ychwanegodd Phillips eu bod yn cefnogi Gatland wrth iddo "adeiladu'r tîm cywir o'i gwmpas" gyda "chymysgedd o sgiliau a chymeriad i weddu i'w steil ei hun i sicrhau llwyddiant i Gymru yn y cyfnod byr o amser sydd ar gael."

Daeth y penderfyniad i benodi Gatland fel prif hyfforddwr lai na blwyddyn tan Cwpan Rygbi'r Byd 2023 yn Ffrainc.