Sefydlu elusen ganser i bobl ifanc yn enw Gareth Edwards

  • Cyhoeddwyd
Gareth EdwardsFfynhonnell y llun, Elusen Canser Syr Gareth Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r elusen wedi bod yn codi arian er mwyn lansio'n swyddogol ymhen rhai wythnosau

Bydd elusen newydd yn enw Syr Gareth Edwards yn gobeithio dechrau ar ei gwaith o helpu pobl ifanc â chanser ymhen ychydig wythnosau.

Ei phrif nod fydd cefnogi pobl ifanc rhwng 15 a 35 oed yng Nghymru wrth iddyn nhw gael triniaeth, a hynny yn ystod argyfwng costau byw.

Mae'r elusen yn chwilio am help i godi arian ar hyn o bryd ond dywedodd y sylfaenwyr fod hynny'n "anodd" i bobl oherwydd biliau cynyddol.

Ond mae cael diagnosis yn waeth, dywedon, a hynny'n rhoi pwysau ariannol mawr ar bobl ifanc sy'n wynebu triniaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gareth Edwards 53 cap i Gymru rhwng 1967 a '78, gan sgorio 20 cais

Un o chwaraewyr rygbi enwocaf Cymru, Gareth Edwards sydd wedi rhoi ei enw i'r elusen, a'i ferch yng nghyfraith Eirlys Edwards sydd wrth y llyw.

Dywedodd Eirlys wrth raglen Dros Ginio Radio Cymru ei bod wedi gweithio gyda phobl ifanc â chanser yn ystod ei gyrfa ym maes iechyd a gofal, a hynny wedi ei hysbrydoli i feddwl am sefydlu'r elusen.

"'Na'th hynny bwrw fi mwy nag unrhyw beth arall fi 'di wneud yn fy ngyrfa... pan wyt ti wedi gweithio gyda pherson ifanc sydd ar ddiwedd bywyd sydd ddim wedi cael siawns i fyw bywyd," dywedodd.

"O'n i'n meddwl bod yna lot fawr o gefnogaeth i blant fel dylse' 'na fod, ond o'n i'n gweld fod bach o brinder o gefnogaeth i bobl ifanc sydd ychydig yn hŷn."

Ffynhonnell y llun, Eirlys Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eirlys Edwards yn benderfynol o helpu pobl ifanc sy'n cael diagnosis o ganser

Dywedodd Eirlys fod Gareth Edwards yn gwbl gefnogol a'i fod yn llawn cydymdeimlad gyda phobl ifanc sy'n wynebu cyfnod mor heriol mor gynnar yn eu bywydau.

"Na'thon ni siarad am byti ei fywyd ef pan yn ifanc, nathon ni siarad amdano fe'n gadael ysgol, chwarae rygbi i Gymru, chwarae i'r Llewod... ac ymddeol yn 31.

"A pan wnaeth e siarad ambyti fywyd e a pha mor lwcus oedd e, roedd e'n eitha' dagreuol yn meddwl fod pobl ifanc yng Nghymru yn mynd trwy'r sialensiau yma i gyd pan oedd e'n lwcus yn byw'r bywyd cyflawn 'ma."

Dywedodd Eirlys fod yr elusen yn ymwybodol fod yna heriau mawr yn wynebu pobl a bod angen pob cymorth.

"Mae shwt gymaint o bethau yn digwydd rhwng 15 a 35 - ti'n bennu ysgol, mae hwnna'n beth mawr.

"Ti'n dod yn annibynnol, falle' ma' llai o arian gyda ti... a pryd ti'n cael dy swydd cynta' dyna pryd mae cyflog ti ar ei isa'.

"Felly ma' isie' gymaint o gymorth â phosib arnat ti pan wyt ti yn dy ugeinau a thridegau cynnar."

'Codi arian yn anodd ond diagnosis yn anoddach'

Ar hyn o bryd, mae'r elusen yn codi arian er mwyn gallu lawnsio'n swyddogol a chefnogi pobl ifanc.

Dywedodd fod hynny'n "anodd" oherwydd costau byw cynyddol ond ei bod yn fwy heriol fyth i bobl sy'n cael diagnosis o ganser.

"Mae'n anodd... ond beth y'f fi'n trial cofio yw os yw hi'n anodd i fusnesau ac unigolion, pa mor anodd yw hi i berson ifanc sy'n cael diagnosis o ganser yn ystod yr amser yma ar ben popeth arall.

"Mae'r biliau'n mynd lan a maen nhw'n dueddol o aros getre' achos bod immune system chi'n isel, a mae gymaint i feddwl am pan chi'n cael diagnosis.

"Mae busnesau Cymru wedi bod yn wych [wrth godi arian] - onwards and upwards!"

Pynciau cysylltiedig