Rhybudd am dwyll blaendal tai rhent yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o sgam ble mae pobl yn talu blaendal am dŷ i'w rentu cyn darganfod yn ddiweddarach nad yw'n bodoli.
Dywed swyddogion eu bod wedi gweld cynnydd yn y math yma o dwyll yn ddiweddar, yn enwedig yn ardal Wrecsam.
Dywedon nhw fod y twyll yn aml yn dechrau gyda hysbyseb ar gyfryngau cymdeithasol, a'i fod yn llawer haws ei gyflawni bellach am fod nifer o bobl yn gweld tai neu fflatiau ar-lein, yn hytrach na mynd yno'n uniongyrchol.
Mae'r heddlu yn annog pobl i fod yn ofalus, yn enwedig gan ein bod mewn cyfnod pan fo tai rhent yn brin ac yn cael eu cymryd yn sydyn.
'Peidiwch â theimlo dan bwysau'
Dywedodd cwnstabl twyll ar-lein Heddlu Gogledd Cymru, Dewi Owen, y dylai pobl sicrhau bod y tŷ neu fflat yn bodoli cyn rhoi arian i unrhyw un.
"Mae pobl yn talu blaendal o hyd at £300 er mwyn sicrhau'r llety, dim ond i ddarganfod yn ddiweddarach nad oes gan y person maen nhw wedi'i dalu unrhyw beth i'w wneud gyda'r lle," meddai.
"Mewn gwirionedd, dyw'r llety ddim ar werth nac ar gael i rentu o gwbl.
"Ein cyngor i unrhyw un sy'n edrych i rentu tŷ neu fflat ydy peidiwch gyrru arian i unrhyw un sy'n hysbysebu llety ar-lein nes eich bod chi'n siŵr fod modd ymddiried yn y person.
"Peidiwch â thalu unrhyw arian tan i chi neu berthynas i chi wedi ymweld â'r lle gydag asiant neu landlord.
"Peidiwch â theimlo unrhyw bwysau i drosglwyddo arian i unrhyw gyfrif banc sydd heb ei roi i chi gan y landlord neu'r asiant, a gwnewch hynny wedi i chi gymryd y camau uchod yn unig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2022