Carchar Y Berwyn: Hyfforddi staff wedi perthnasau amhriodol
- Cyhoeddwyd
Mae staff carchar yn Wrecsam yn derbyn hyfforddiant yn dilyn tri achos lle cafodd swyddogion benywaidd eu carcharu am gynnal perthynas gyda charcharorion.
O fewn y tair blynedd diwethaf, mae Jennifer Gavan, 27, Ayshea Gunn, 27, ac Emily Watson, 26, wedi'u dedfrydu am gael perthynas gyda charcharorion yng Ngharchar Y Berwyn, Wrecsam.
Mae dros 500 o staff y carchar Categori C, sy'n dal 2,100 o ddynion, wedi cael hyfforddiant atal llygredd (anti-corruption) dros y 18 mis diwethaf.
Daw hyn wedi i Gavan, 27, gael ei dedfrydu i wyth mis dan glo ym mis Rhagfyr, ar ôl smyglo ffôn symudol i mewn i'r carchar i garcharor.
Dywed y Gwasanaeth Carchardai y bydd aelodau o staff sy'n torri'r rheolau yn cael eu cosbi.
Derbyn £150
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod Gavan wedi anfon lluniau ohoni'i hun i'r carcharor, a'i gusanu yn ystod perthynas rhwng Ebrill a Gorffennaf 2020.
Plediodd Gavan, o Lai, ger Wrecsam, yn euog i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, ar ôl cyfaddef iddi dderbyn £150 am smyglo'r ffôn i mewn.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry ar y pryd: "Rwyf yn mynegi fy syndod bod staff yn HMP Berwyn wedi ysgrifennu i'w chefnogi hi [Gavan] ac yn beirniadu gweithwyr eraill yn y Berwyn.
"Mae hynny'n fater y dylid ei ddwyn i sylw awdurdodau'r carchar dwi'n credu."
Daeth yr achos diweddaraf gwta flwyddyn ar ôl i ddau achos arall o swyddogion yn cael perthynas gyda charcharorion ddod gerbron y llysoedd.
Gwnaeth Ayshea Gunn, 27 o Johnstown, Wrecsam, nifer o alwadau ffôn - rhai yn cynnwys iaith rywiol - gyda Khuram Razaq, a oedd yn treulio 12 mlynedd yn y carchar am gynllwynio i ddwyn.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod lluniau o'r ddau yn cusanu a chofleidio - rhai wedi'u tynnu ar ffôn symudol yng nghell Razaq - wedi eu canfod yn ystafell wely Gunn.
Cafodd ei dedfrydu i 12 mis o garchar yn Rhagfyr 2019.
A chafodd swyddog arall o Garchar Y Berwyn, Emily Watson, 26, ei charcharu am flwyddyn yn yr un llys yn Ebrill 2019, am berfformio gweithred ryw ar garcharor yn ei gell.
Cynhaliodd awdurdodau'r carchar ymchwiliad ar ôl sylwi bod Watson yn treulio cymaint o amser gyda John McGee.
Clywodd y llys bod y ddau wedi bod gyda'i gilydd yn ei gell ar dri achlysur, pan berfformiodd weithred ryw arno ddwy waith, a chael cyfathrach rywiol unwaith.
Yn ôl y Gwasanaeth Carchardai, roedd yr archwiliad annibynnol diweddaraf i'w gynnal yng Ngharchar Y Berwyn wedi dangos fod trefniadau diogelwch yn y carchar yn dda.
Dywed y gwasanaeth bod hanes aelodau staff yn cael ei archwilio bob 10 mlynedd, a'u bod yn treialu archwiliadau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer rhai swyddi risg uchel fel swyddogion carchar.
Mae diogelwch ar y gatiau wedi cael ei wella, mewn ymgais i rwystro eitemau rhag cael eu smyglo i mewn.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Mae mwyafrif llethol staff y Gwasanaeth Carchardai yn weithwyr caled ac ymroddedig a fyddwn ni ddim yn oedi cyn cosbi'r rhai sy'n torri'r rheolau.
"Mae dros 500 o staff Carchar Y Berwyn wedi ymgymryd â hyfforddiant i atal llygredd yn y 18 mis diwethaf, ac mae gwelliannau yn diogelu'r carchar yn erbyn smyglo eitemau anghyfreithlon i mewn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2019