Cytundeb newydd i reolwr Cymru, Gemma Grainger

  • Cyhoeddwyd
Gemma GraingerFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gemma Grainger eisoes gyda chytundeb tan 2025 gyda Chymdeithas Bêl-Droed Cymru

Mae Gemma Grainger wedi ymestyn ei chytundeb i fod yng ngofal tîm merched Cymru tan 2027.

Fe olynodd Jayne Ludlow fis Mawrth 2021, gan fynd â Chymru i rownd derfynol y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2023, cyn colli yn erbyn y Swistir.

Roedd Grainger, 40, a dreuliodd 11 mlynedd yn datblygu timau yn Lloegr, eisoes gyda chytundeb i barhau wrth y llyw tan 2025.

Ond wedi i Brif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Noel Mooney ddatgan bod rhai clybiau wedi datgan diddordeb ynddi, y penderfyniad oedd ymestyn ei chytundeb ymhellach.

'Camau enfawr'

Dywedodd Gemma Grainger: "Rwy'n hynod falch i arwyddo cytundeb newydd a pharatoi'r daith yn gweithio gyda'r grŵp arbennig o chwaraewyr sydd yng Nghymru.

"Ry'n ni'n grŵp uchelgeisiol; fi fel hyfforddwr, y chwaraewyr, a'r gymdeithas, felly mae'r dyfodol yn edrych yn dda.

"Rydym eisiau parhau'r momentwm o'r ymgyrch diwethaf, ar ac oddi ar y cae, dros y flwyddyn newydd ac mewn i'r ymgyrchoedd nesaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gemma Grainger: "Ry'n ni'n grŵp uchelgeisiol; fi fel hyfforddwr, y chwaraewyr, a'r gymdeithas"

O dan arweinyddiaeth Grainger, fe dorrwyd y record ar gyfer y dorf fwyaf i gêm y tîm merched cenedlaethol pan ddaeth 15,200 i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y fuddugoliaeth yn erbyn Bosnia-Herzegovina.

Dywedodd Prif Weithredwr CBDC, Noel Mooney: "Rydym wedi gwneud camau enfawr efo'n Tîm Merched Cenedlaethol a nawr byddwn ni'n rhoi'r ffocws ar gyrraedd pencampwriaethau UEFA EURO 2025 a Chwpan y Byd FIFA yn 2027.

"Mae'r grŵp yma wedi dal dychymyg pobl ledled Cymru ac rwy'n sicr bydd y twf yn gefnogaeth a diddordeb yn parhau dros y blynyddoedd nesaf."

Gyda Chwpan Pinatar ar y gorwel bydd Cymru'n wynebu'r Philippines ar 15 Chwefror, Gwlad yr Iâ dridiau'n ddiweddarach a'r Alban ar 21 Chwefror.