Galw am dro pedol ar ryddhau cleifion o ysbytai
- Cyhoeddwyd
Mae cymdeithas feddygol BMA Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud tro pedol ynghylch cyngor newydd i fyrddau iechyd ryddhau rhai cleifion heb becyn gofal.
Mewn e-bost at brif swyddogion GIG Cymru ddydd Iau, mae cadeiryddion pwyllgorau cymdeithas feddygol BMA Cymru yn "gwrthod" canllaw'r llywodraeth i ryddhau pobl o ysbytai heb becyn gofal.
Maen nhw'n gresynu "bod cyfle wedi ei golli i ymgynghori a thrafod â chynrychiolwyr y proffesiwn ynghylch cyngor sy'n newid arferion yn sylweddol".
Daw wrth i arweinydd un o gynghorau'r gogledd, oedd yn arfer bod yn ofalwraig, son am yr "her emosiynol" i staff yn y maes.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "galw digynsail" ar y GIG wedi eu harwain at ofyn i fyrddau iechyd ryddhau pobl sydd ddim angen triniaeth fel y gall gwelyau gael eu defnyddio gan y rheiny sydd angen mwy o ofal.
Ond ychwanegon nhw: "Bydd cleifion ond yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty pan fo hi'n addas yn feddygol i wneud hynny."
Dywedodd fod esiamplau yn cynnwys pobl all gael eu rhyddhau i ofal teulu neu ffrindiau am gyfnod nes i'w pecyn gofal gael ei gwblhau, neu berson all ddisgwyl adref am asesiad yn hytrach na disgwyl mewn gwely ysbyty.
Tra'n cytuno bod angen mynd i'r afael â thrafferthion llif cleifion trwy'r ysbytai yn wyneb "pwysau digynsail", dywed BMA Cymru "na allwn ni gefnogi eich awgrym bod angen i'r proffesiwn meddygol 'addasu'r trothwyon o ran rhyddhau [cleifion]'."
Yn ôl y cadeiryddion: "Mae newid y trothwy risg yn trosglwyddo'r atebolrwydd a'r risg wleidyddol i glinigwyr gofal cynradd ac eilradd.
"Hefyd, mae cleifion a'u teuluoedd eisoes yn dioddef canlyniad y polisi rhyddhau newydd yma, yr ydym yn ofni na fu'n destun asesiad risg."
Gan ddadlau bod y system gofal cymdeithasol a chymunedol eisoes dan ormod o bwysau i roi sicrwydd o gymorth amserol, maen nhw'n dweud y bydd llwyth gwaith meddygon teulu'n cynyddu ac y bydd nifer sylweddol o gleifion yn gorfod dychwelyd i'r ysbyty am ofal.
Maen nhw hefyd yn ofni na fyddai'r newid polisi na'r pwysau ar wasanaethau iechyd yn amddiffyn meddygon unigol rhag wynebu honiadau o esgeulustod "er methiannau systemig y tu hwnt i'w rheolaeth".
"Nid ydym yn fodlon peryglu ein trwyddedau proffesiynol, ac felly ein bywoliaeth... ar ran ein haelodau, rydym, gyda pharch, yn gwrthod y canllaw rydych wedi ei rannu ac yn gofyn iddo gael ei dynnu'n ôl."
Yn ôl arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, mae diffyg staff i roi gofal yn y gymuned os ydy cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty heb becyn gofal digonol.
"Mae'r ddemograffeg yn newid, a chymhlethdod gofalu hefyd - mae pobl yn byw yn hŷn 'efo cyflyrau mwy cymhleth, a'r rhwydwaith teuluol 'na ddim o gwmpas i gymaint o bobl hŷn hefyd," meddai.
"Yn ystod Covid fe wnaeth y gymuned ddod at ei gilydd yn glos iawn, ond mae pobl wedi mynd 'nôl rŵan i fywyd dydd i ddydd, felly mae hi'n anoddach fyth o ran cadw'r rhwydwaith yna yn y gymuned.
"Yr heriau 'dan ni'n eu gweld, yn union fel y gwasanaeth iechyd, ydy diffyg staff - staff 'efo Covid neu ffliw er enghraifft.
"Mae anghenion unigolion yn gallu bod yn gymhleth, ac yn rhai achosion mae isio gwneud addasiadau i dai, a 'dan ni gyd yn gwybod bod hynny'n gallu bod yn fwy heriol yn ystod y cyfnod yma lle mae 'na ddiffyg llafur i 'neud y gwaith hynny."
Ychwanegodd ei bod yn "drist" ei bod wedi cymryd argyfwng o'r fath i bobl werthfawrogi rôl gofalwyr.
"Yn amlwg, cael unigolion allan o ysbytai i'w cartrefi yn ddiogel ydy'n prif nod ni, ond i 'neud hynny mae'n rhaid i ni gydweithio'n agos 'efo'r teuluoedd," meddai'r cynghorydd.
"Os oes'na unigolyn yn cael pedwar ymweliad y dydd, ydy hi'n bosib edrych ar dri neu ddau gyda chefnogaeth y teulu? Dyna'r math o sgyrsiau anodd 'dan ni'n gorfod eu cael, a dyw'r rheiny ddim yn hawdd bob tro.
"Fues i'n ofalwraig fy hun mewn cartrefi. Mae rhywun sy'n mynd mewn i'r maes gofal isio rhoi'r gorau y gallan nhw. Dyna ydy'n nod ni - gofalu.
"Ond mae gweithio dan amgylchiadau fel hyn, pan mae'r galon yn dweud un peth ond 'da chi'n ymwybodol, yn ffisegol, allwch chi ddim cyrraedd pob dim - mae hynny'n rhoi her emosiynol ar staff hefyd.
"Mae angen ailedrych ar y sector gofal, ac mae'n drist o beth ei bod hi'n cymryd argyfwng o'r fath i ni fedru cael sgwrs gyhoeddus am bwysigrwydd gofal."
Dywedodd mai'r hyn fyddai'n help anferth i awdurdodau lleol ydy sicrwydd ariannol am gyfnod hirach na blwyddyn yn unig.
"Dwi 'di bod yn arweinydd ers 2017 a'r oll dwi 'di wneud ydy edrych ar sut i wneud toriadau.
"Dydy hynny ddim yn ffordd ddoeth nac aeddfed o gynnal gwasanaethau - 'dan ni'n cynllunio o flwyddyn i flwyddyn.
"Tasen ni'n cael gwybod ein cyllideb ni am dair i bum mlynedd, 'da chi'n gallu cynllunio gwasanaethau yn gwybod eich bod chi'n medru eu cyflawni nhw.
"Ar hyn o bryd 'dan ni'n cynllunio gwasanaethau gan obeithio ein bod ni'n eu cyflawni nhw yn ystod y flwyddyn yna.
"Mae angen sicrwydd ariannol, ac mae dros 10 mlynedd doriadau - dyma'r pris mae cymdeithas yn ei dalu am lymder."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023