Cynllun meddygaeth niwclear Gwynedd yn 'gwbl hanfodol'
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan feddygaeth niwclear sy'n cael ei chynllunio ar gyfer gogledd Cymru yn "gwbl hanfodol" er mwyn achub bywydau, meddai arbenigwr.
Y nod yw sefydlu canolfan £400m i gynhyrchu radioisotopau meddygol - atomau ymbelydrol sy'n cael eu defnyddio i drin canser.
Gyda chyflenwadau yn dod o wledydd yn Ewrop ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio creu canolfan ragoriaeth yng Ngwynedd gyda'i adweithydd niwclear ei hun.
Dywedodd yr Athro Simon Middleburgh o Brifysgol Bangor ein bod "ar fin wynebu argyfwng" oherwydd prinder radioisotopau ar draws y byd.
Ond oherwydd y gost uchel o sefydlu canolfan o'r fath, mae Llywodraeth Cymru eisiau i Lywodraeth y DU a phartneriaid eraill gyfrannu at y bil.
Trawsfynydd yng Ngwynedd ydy'r lleoliad sy'n cael ei ffafrio ar gyfer prosiect ARTHUR (Advanced Radioisotope Technology for Health Utility Reactor).
Petai'n cael ei sefydlu, fe fyddai angen ei adweithydd niwclear ei hun - "ddim mwy na maint cae pêl-droed" yn ôl arbenigwyr.
Byddai'n cynhyrchu radioisotopau meddygol ac yn eu cyflenwi i wasanaeth iechyd Cymru a gweddill y DU.
'Prinder byd-eang'
Mae gwir angen canolfan o'r fath, yn ôl yr arbenigwr o Brifysgol Bangor, sy'n rhybuddio ein bod "ar fin wynebu argyfwng".
"Mae canolfan feddygaeth niwclear yn galluogi gwneud diagnosis a thrin clefydau fel canser... a hynny drwy gynhyrchu radioisotopau," meddai'r Athro Middleburgh o'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.
"Mae 'na brinder o radioisotopau ar draws y byd ar hyn o bryd sy'n golygu na fydd cleifion canser yn cael diagnosis nac yn cael eu trin. Bydd pobl yn marw o ganlyniad i hynny."
Mae'r DU yn prynu'r cynnyrch i mewn ar hyn o bryd, ond ychwanegodd yr Athro Middleburgh bod "ymchwil yn dangos bod cyflwr y feddygaeth yn dirywio wrth iddi gael ei chludo ac y byddai cleifion yn elwa wrth gael cyflenwad yn nes adref".
"Mae'r DU ar ei hôl hi - mae 'na ganolfannau yn Ffrainc, Yr Almaen a gwledydd eraill Ewrop ac felly mae cyfartaledd y nifer sy'n goresgyn canser yn y gwledydd hynny yn uwch. Rhaid cael un er mwyn arbed bywydau."
Ychwanegodd yr Athro Middleburgh: "Ry'n ni ar ochr y dibyn. Ry'n ni eisoes yn dlawd o ran adnoddau pwrpasol yn y DU ac wrth i gyflwr adweithyddion waethygu bydd hi'n fwyfwy anodd i bobl sydd angen triniaeth ei derbyn.
"Os nad oes cynlluniau ar gyfer meddygaeth niwclear dyw pobl ddim yn mynd i gael diagnosis - a bydd hynny yn rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd."
Cost o £400m
Dywed Llywodraeth Cymru os fydd dim yn cael ei wneud, bydd yna brinder meddygaeth niwclear yn y DU, Ewrop a thu hwnt erbyn 2030.
Mewn cyfweliad â'r BBC dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, bod Trawsfynydd yn leoliad delfrydol.
Gallai cynllun ARTHUR greu 200 o swyddi meddai'r llywodraeth, ond ar gost o £400m maen nhw eisiau i Lywodraeth y DU a phartneriaid eraill helpu i'w ariannu.
Bydd y datblygiad, medd Llywodraeth Cymru, yn arwain at greu swyddi hynod fedrus dros sawl degawd gan y bydd "yn un o brif fentrau strategol Cymru a'r DU gydag ymrwymiad [i gyfnod] o ryw 60 i 70 mlynedd".
"Bydd hefyd yn helpu i ysgogi economi'r gogledd drwy ddenu swyddi a diwydiant hynod fedrus, adeiladu cadwyni cyflenwi lleol, a chefnogi cymunedau lleol."
Maen nhw'n dweud y bydd y swyddi uniongyrchol yn "hirdymor" a "chynaliadwy", gan gynnwys "rolau fel gwyddonwyr ymchwil a pheirianwyr, gyrwyr, staff gweithrediadau, cynhyrchu, technegol a swyddfa".
'Arwain y byd'
Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Rwy'n falch o amlinellu uchelgais glir ar gyfer creu clwstwr technolegol mawr arall yma yng Nghymru, gan hefyd fynd i'r afael ag argyfwng sy'n prysur agosáu ar gyfer triniaeth feddygol ledled y byd.
"Ein gweledigaeth yw creu prosiect ARTHUR - cyfleuster meddygaeth niwclear sy'n arwain y byd, ac a fydd yn dwyn ynghyd màs critigol o waith ymchwil, datblygu, ac arloesi ym maes gwyddorau niwclear.
"Yn sgil y datblygiad hwn, nid yn unig y gall Cymru ddod yn lleoliad blaenllaw yn y DU ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol... ond gallwn hefyd ddenu swyddi hynod fedrus, creu seilwaith amgylchynol, cefnogi cymunedau lleol, ac adeiladu cadwyni cyflenwi lleol.
"Bydd y prosiect hwn yn hanfodol o ran ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i greu Cymru iachach a mwy ffyniannus, drwy greu'r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl i wneud eu dyfodol yma yng Nghymru."
Er mwyn llwyddo ychwanega'r gweinidog bod angen sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau - gan gynnwys Llywodraeth y DU - i greu prosiect ARTHUR.
"Mae maint y buddsoddiad sydd ei angen i wireddu Prosiect ARTHUR yn sylweddol.
"Rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i gydweithredu i gefnogi ein hymdrechion, gan fod y datblygiad hwn yn cefnogi ac o fudd i ddiagnosteg a thrin canser yn y dyfodol ar draws y DU.
"Nawr yw'r amser ar gyfer camau gweithredu ac ymrwymiad pendant. Bydd goblygiadau peidio â gweithredu'n cael eu cyfrif mewn bywydau dynol ac mewn pwysau economaidd hirdymor ar wasanaethau iechyd, drwy driniaethau iechyd anghynaladwy."
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022