Cadair Eisteddfod Genedlethol Llŷn ac Eifionydd 'yn siapio'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
pobl
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith: Stephen Faherty (saer coed), Huw Orwig (un o noddwyr y gadair er cof am y diweddar Dafydd Orwig), Eifion Williams o fferm Tyddyn Heilyn (perchennog y tir ar y Lôn Goed lle daw'r pren), yr archdderwydd Myrddin ap Dafydd

Mae siâp a stori Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn dod at ei gilydd gwta dri mis cyn dyddiad cau y gystadleuaeth.

Mae'r gadair sy'n cael ei chreu o goed derw lleol a ddisgynnodd mewn storm, "wedi cymryd ei siap" yn ôl y saer Stephen Faherty.

Gyda Ebrill 1, dyddiad cau cystadleuaeth y gadair yn nesáu, aeth cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes, i weld datblygiad y gadair.

Cadair sy'n dweud ei stori

Cafodd Stephen Faherty, saer coed sy'n arbenigo mewn cerflunio o Brenteg ger Porthmadog ei ddewis i greu'r gadair gan yr Eisteddfod ar ôl gwneud cais.

Un o'r gofynion oedd fod y saer yn defnyddio'r coedyn eiconig o'r Lôn Goed a ddisgynnodd mewn storm. Plannwyd y coed yno tua 200 mlynedd yn ôl, ac mae'r llecyn wedi ei anfarwoli gan gerdd R Williams Parry, Eifionydd.

'A llonydd gorffenedig. Yw llonydd y Lôn Goed' meddai R. Williams Parry yn y gerdd. Er mai anorffenedig yw'r gadair ar hyn o bryd, mae gweledigaeth Steven ar ei chyfer yn hollol glir, sef ei bod yn dweud ei stori.

Meddai: "Pan welis i'r horwth o goedyn oedd ar y llawr i gychwyn, do'n i'm yn teimlo yn hyderus i roi cais i mewn achos dwi'n fwy o naddwr yn hytrach na saer coed.

"Ond pan welis i'r bonyn oedd ar y llawr, 'nath hwnna gyfathrebu efo fi mewn ffordd ryfadd - a deud 'mi fedri di neud hyn efo fi', a dangos natur y boncyff ei hun.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Y dderwen ar ôl disgyn mewn storm ar y Lôn Goed

"Mae hon yn dangos stori - mae'n gymaint o deyrnged i'r goedan dderw ei hun a mae hi i Mr Dafydd Orwig (gan deulu'r diweddar Dafydd Orwig y cyflwynir y gadair).

"Felly mae hi'n ddwywaith o deyrnged mewn ffordd, a mae rhywun yn meddwl - pan oedd y goedan yma yn tyfu ac yn rhoi mês a dail - oedd hi'n cyfoesi efo R. Williams Parry 'doedd."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

R. Williams Parry

Er bod siâp y gadair yn ei lle, mae gan Stephen dipyn o "waith pydru a naddu i lawr arni".

Mae'n debyg y bydd elfennau naturiol iawn i Gadair Eisteddfod Llŷn ac Eifionnydd. Eglura: "Dyna oedd y syniad i ddeud gwir - i adael i'r goeden ei hun serennu ac i gadw gymaint o raen y goeden a fedrwn i. Mae hi yn gymaint o gerflun a mae hi o gadair mewn ffordd."

"'Da ni wedi ei dylunio hi fel ei bod hi yn gyfforddus yn mynd i mewn i gongl - alla i ddweud hynny amdani hi. I bwy bynnag fydd yn dod i mewn i'r stafall ac yn gweld hon wedi iddi orffan, bydd hi yn tynnu llygad, mae hynna yn bendant."

Dyddiad cau yn nesáu

Hefyd yn gweld datblygiad cyffrous y gadair oedd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.

Meddai Myrddin: "Dwi wrth fy modd yng nghwmni crefftwyr ac yn eu clywed nhw yn dy dywys di i mewn i gyfrinachau crefft, a ddes i yma gynta fis yn ôl a wnes i wirioni, ma'n gyffrous ac mae o'n ehangu'r dychymyg hefyd.

Ffynhonnell y llun, WIKI
Disgrifiad o’r llun,

Y Lôn Goed

"O'n i yn gyfarwydd â'r gadair fel boncyff a dweud y gwir achos mae'r Lôn Goed i mi yn gyfarwydd fel i lawar yn yr ardal 'ma, yn lle 'dan ni'n mynd am dro, ac o'n i yn gyfarwydd â'r storm yna a ddigwyddodd a'r goedan yn dod i lawr.

"Fuodd hi yn gorwedd wedi ei thorri yn fras ar ochr y Lôn Goed am flynyddoedd ac o'n i'n meddwl - be sy'n mynd i ddigwydd i hon a wir wnes i ddim dychmygu y basan ni yn dod i fan hyn…

"Ond mae'n wych - y cysylltiad llenyddol yna efo'r Lôn Goed a bo' ni'n cael cadair o'r Lôn Goed.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd

Awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau dan y testun, Llif, yw gofynion cystadleuaeth y gadair eleni, ac mae gan Myrddin air o gyngor i'r beirdd:

"Y cyntaf o Ebrill, dyna'r dyddiad cau, a tasach chi'n gweld be 'dan ni'n ei weld rŵan dwi'n meddwl fydda 'na giw reit hir am y gadair!"

Hefyd o ddiddordeb: