Creu 'traffordd i greaduriaid' i roi hwb i natur yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Y gwaith plannu yn mynd yn ei flaen
Disgrifiad o’r llun,

Heledd Jones (dde): "Mae'n gallu bod yn waith caled ond mae o'n andros o waith boddhaol i'w wneud"

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud eu bod wedi creu "traffordd i greaduriaid o bob math" yn Sir Conwy.

Drwy blannu 3km (1.8 milltir) o wrychoedd ar fferm Y Foel yng Nghwm Penmachno, y gobaith ydy y byddan nhw'n cysylltu gyda choedlannau sydd eisoes yn bod.

Bydd hynny, meddai'r corff, yn hwb mawr i natur ac i'r fferm.

Yng nghanol y tywydd oer mae 'na brysurdeb mawr ar y fferm wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen i blannu coed cynhenid o bob math.

'Caled ond boddhaol'

Un sy'n rhan o'r gwaith plannu ydy Heledd Jones, sy'n swyddog gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae'n gallu bod yn waith caled ond mae o'n andros o waith boddhaol i'w wneud.

"Mae o'n creu budd i'r ffarm, bydd o'n creu lot o gysgod yn y pendraw ac yn andros o dda ar gyfer bioamrywiaeth yn yr ardal.

"Mae 'na gymysgedd [o goed]… mae gennom ni ychydig o goed derw, draenen wen, draenen ddu a 'da ni jyst yn cymysgu nhw i gyd efo'i gilydd."

Mae fferm Y Foel yn 1,600 o aceri i gyd ac yn fferm fynydd draddodiadol ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae pwyslais mawr ar fyd natur hefyd hefo plannu gwrychoedd yn ganolog i hynny.

Mae 'na rhyw 500 o ddefaid yma a'r gobaith ydy cael gwartheg y flwyddyn nesaf.

'Helpu i reoli stoc'

Wil Bigwood ydy rheolwr fferm y foel, a dywedodd bod y gwaith plannu gwrychoedd yn ganolog i ddyfodol y fferm.

"'Da ni wedi plannu o gwmpas 3 kilometr o wrychoedd yma," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Wil Bigwood: "Bydd o'n help mawr ar y ffarm yma"

"Mae'n mynd i helpu ni i reoli stoc am un peth, gwella ffensys a wedyn hefyd bydd o'n rhoi cysgod i'r anifeiliaid a ballu.

"Ond hefyd mae o'n dda i bioddiogelwch ac ati hefyd… bydd o'n help mawr ar y ffarm yma."

Yr hyn sy'n gwneud y gwrychoedd newydd yn arbennig ydy eu bod yn cydgysylltu efo'i gilydd a gyda choedlannau sy'n bod yn barod.

Yn ôl Simon Rogers, Rheolwr Cefn Gwlad efo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd adar a mamaliaid o bob math yn gallu eu defnyddio i symud o gwmpas i diroedd newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Simon Rogers: "Mae natur yn defnyddio nhw fel lonydd i symud drwy'r tirlun o un lle i'r llall"

"Dyma un o'r pethau mwyaf pwysig amdanyn nhw… nid jyst y coed eu hunain ond y ffaith bod nhw'n cysylltu gwahanol ddarnau o gynefinoedd sydd yma'n barod.

"So mae natur yn defnyddio nhw fel lonydd i symud drwy'r tirlun o un lle i'r llall… stopio am break bach… cael bach o fwyd.

"Ond y peth pwysig ydy'r ffaith bod nhw'n gallu symud trwy'r tirlun i gyrraedd llefydd newydd felly."

Pynciau cysylltiedig