Safon gemau prif gynghrair Cymru 'yn debyg i Wrecsam'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bydd Gwyn Derfel yn gadael ei swydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ddiwedd y mis

Mae'r Cymru Premier yn cynnig "gwerth am arian arbennig" ac yn debyg mewn safon i'r hyn a welwch chi ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Dyna farn Gwyn Derfel, a fydd yn gadael ei rôl fel rheolwr cyffredinol prif gynghrair pêl-droed Cymru, Y Cymru Premier JD, ar ddiwedd y mis.

Bydd Mr Derfel yn gadael ei swydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bron i 11 mlynedd wrth y llyw.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd ei fod yn siomedig na lwyddodd i "dorri'r tir yr oedd wedi gobeithio ei wneud" o safbwynt cynyddu niferoedd torfeydd y gynghrair.

Ond mynnodd fod y gynghrair yn cynnig "gwerth am arian arbennig ac nad yw'n denu'r torfeydd y mae'r safon yn ei haeddu".

"Gostith £8 i chi fynd i wylio gêm yn y Cymru Premier, ac £16 i chi fynd i wylio gêm o safon debyg yn Wrecsam," meddai.

'Cyfle gwirioneddol'

Ond mae'n credu bod "cyfle gwirioneddol i'r gêm ddomestig yng Nghymru ddenu mwy o bobl".

Yn ystod cyfnod Mr Derfel, cafodd sawl tîm o'r gynghrair rediadau yn Ewrop.

Mae'n cynnwys buddugoliaeth Cei Connah yn erbyn Stabæk o brif gynghrair Norwy a'r Seintiau yn trechu Viktoria Plzeň o'r Weriniaeth Siec mewn un cymal yn rhai o'i uchafbwyntiau.

Ffynhonnell y llun, FAW/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Y Seintiau Newydd yw pencampwyr presennol y gynghrair - a'r tîm sydd wedi ei hennill y nifer fwyaf o weithiau yn ei hanes

Mae arolwg annibynnol yn digwydd ar hyn o bryd sy'n edrych ar ddyfodol y brif adran.

Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod, dywedodd Mr Derfel fod sefydlu tîm Cymru C hefyd yn un o'r uchafbwyntiau.

Fe soniodd hefyd am bwysigrwydd hyrwyddo'r iaith Gymraeg a sut mae "mwy o glybiau'r gynghrair erbyn hyn yn defnyddio'r iaith fwyfwy o ddydd i ddydd a hynny yn naturiol".

Cadarnhaodd Mr Derfel ei fod yn symud ymlaen i swydd newydd yn y maes chwaraeon yng Nghymru.

Ond doedd ddim mewn sefyllfa i gadarnhau ble na beth oedd ei swydd newydd.