Carchar am oes i ddyn a losgodd ei gymydog yn ei garafán
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei garcharu am o leiaf 25 mlynedd am lofruddio ei gymydog drwy ymosod arno cyn llosgi ei garafán.
Cafodd Darren Smith, 43, ffrae gyda Richard Thomas, 52, a'i adael i losgi ar ôl gorchuddio ei garafán gyda phetrol a'i roi ar dân.
Roedd Smith wedi gwadu llofruddiaeth gan honni wrth yr heddlu bod Mr Thomas wedi rhoi ei hun ar dân.
Ond fe'i cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd, a'i ddedfrydu i garchar am oes.
'Os yw e'n marw, mae'n marw'
Clywodd y llys fod Smith a Mr Thomas yn byw drws nesaf i'w gilydd mewn maes carafanau preswyl yn Sir Fynwy.
Roedden nhw wedi bod ar delerau da, cyn i'r berthynas suro.
Cyn y llofruddiaeth fe gafodd y ddau ffrae ym maes carafanau The Beeches ym Magwyr.
Dridiau'n ddiweddarach, cafodd Mr Thomas ei gario allan o'i garafán gan barafeddygon gyda llosgiadau difrifol i'w gorff.
Clywodd y llys fod Smith wedi dweud wrth gymydog arall: "Os yw e'n marw, mae'n marw."
Dywedodd yr erlynydd Michael Jones KC: "Ymosododd y diffynnydd hwn ar Mr Thomas yn ei garafán ei hun, gan ei adael yn gorwedd ar y llawr wedi'i anafu ac yn analluog.
"Yna fe roddodd y garafán ar dân gan ddefnyddio petrol ac yna cerddodd i ffwrdd gan wybod bod Mr Thomas wedi'i anafu ac yn analluog ac yn methu dod allan o'r garafán.
"Bu farw o ganlyniad uniongyrchol i'r anafiadau a gafodd."
Bu farw Mr Thomas yn Ysbyty Southmead, Bryste, gyda llosgiadau ar 60-70% o'i gorff.
Roedd ganddo anafiadau i'w ben a'i frest, ac roedd chwech o'i asennau wedi'u torri.
Y ddedfryd yn 'rhywfaint o gysur'
Dywedodd brawd Richard Thomas, Bryn, mewn datganiad i'r llys: "Roedden ni mewn sioc ac yn methu â deall y gallai digwyddiad mor ofnadwy fod wedi digwydd i'n brawd.
"Ni all neb roi mewn geiriau'r boen, anghrediniaeth a'r ing a deimlwn yn dilyn marwolaeth Richard.
"Roedd Richard yn fab, tad, brawd, brawd yng nghyfraith, ewythr a chefnder annwyl.
"Mae rhywfaint o gysur y bydd yr unigolyn treisgar a pheryglus hwn dan glo ac yn methu â niweidio enaid arall."
Cafodd Smith ddedfryd oes gyda lleiafswm o 25 mlynedd yn y carchar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2021