Aberffraw ym Môn 'ar ei gliniau' oherwydd tai gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd ar Ynys Môn wedi dweud bod Aberffraw "ar ei gliniau" oherwydd bod tai'r pentref yn cael eu troi i mewn i ail gartrefi neu aneddau gwyliau.
Dywedodd Arfon Wyn, sydd hefyd yn ganwr adnabyddus, y byddai'r pentref yn wag yn y gaeaf yn fuan, gan droi i mewn i "Rosneigr arall os nad ydyn ni'n gwarchod ein hardaloedd ein hunain".
Daeth hynny wrth i gynghorydd arall, Robert Llewelyn Jones, gymharu sefyllfa cymunedau iaith Gymraeg â'r Americaniaid Brodorol oedd yn methu "cynnal eu ffordd o fyw".
Cafodd y sylwadau eu gwneud mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Môn, wrth iddyn nhw drafod cais ar gyfer adeilad yr oedd cynghorwyr "heb amheuaeth" fyddai'n cael ei ddefnyddio fel tŷ gwyliau.
'Colli tŷ allai fod yn gartef teulu'
Hon oedd y trydydd tro i'r cais ddod gerbron swyddogion cynllunio, wedi iddo ddenu nifer o gwynion gan gynnwys maint yr estyniad a'i agosatrwydd at dai eraill.
"Does dim amheuaeth, byddai ymestyn yr adeilad yma 'efo cymaint o 'stafelloedd gwely yn siŵr o gael ei ddefnyddio fel tŷ gwyliau," meddai Mr Wyn.
"Mae o'n amlwg beth sy'n digwydd yn fan hyn."
Yn dilyn newidiadau i'r cais roedd swyddogion cynllunio wedi argymell fod yr estyniad yn cael caniatâd cynllunio, ond gofynnodd Mr Wyn "beth oedd wedi newid mewn gwirionedd".
"Fe gawson ni ein hethol fel cynghorwyr i warchod ein hardaloedd ein hunain, a pheidio gadael iddyn nhw fynd i'r wal a bod yn llawn tai gwyliau gwag," meddai.
Ychwanegodd y dylai cynghorwyr "ddilyn ysbryd y ddeddfwriaeth newydd" gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi'r gallu i gynghorau atal cartrefi rhag cael eu newid yn ail dai neu dai gwyliau heb ganiatâd.
"Mae hyn yn mynd yn groes i'n cynllun datblygu'n hunain, sy'n d'eud na ddylai tai gwyliau arwain at golli ein stoc tai lleol, na bod mewn ardaloedd preswyl," meddai.
"Mi fydd o'n effeithio ar gymeriad yr ardal i'r bobl sydd wedi byw yma erioed, ac unwaith eto 'dan ni'n colli tŷ yn Aberffraw ac Ynys Môn allai fod yn gartref i deulu."
Cymharu'r Cymry i Americaniaid Brodorol
Dywedodd swyddog cynllunio fod angen cofio "cyd-destun y cais", fel estyniad i dŷ yn hytrach nag adeilad o'r newydd.
Ychwanegodd bod y ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu i'r perchennog ddewis "sut maen nhw'n defnyddio'r tŷ", gan argymell i gynghorwyr dderbyn y cais.
Cafodd cynnig i'w dderbyn ei gyflwyno gan y Cynghorydd Ken Taylor, a'i eilio gan y Cynghorydd Robin Wyn Williams, a hynny'n dilyn rhybudd y byddai'n debygol o lwyddo ar apêl beth bynnag.
Ond er bod y cais yn "ticio'r bocsys", meddai'r Cynghorydd Robert Llewelyn Jones, mae angen "nodi beth sy'n digwydd i gymunedau bach ar yr ynys".
"Mae'n rhaid i ni edrych ar y darlun mawr, beth sy'n digwydd i'r pentrefi 'ma," meddai.
"Sut ydan ni'n trio rhoi cynllun at ei gilydd i gadw'r llefydd yma'n fyw fel bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu i bobl leol?
"Beth ddigwyddodd yn America, fe aeth y bobl wyn draw a doedd 'na ddim ffordd wedyn i'r Indiaid [sic] gynnal eu ffordd o fyw."
Doedd "dim llawer allwn ni ei wneud am yr hyn sydd o'n blaenau ni heddiw", meddai, ond dywedodd bod angen "nodi beth sy'n digwydd ar yr ynys", gan gynnwys pentrefi cyfagos fel Rhosneigr.
"Mae pethau wedi newid yna," meddai. "'Dach chi ddim yn clywed llawer o Gymraeg yn y siopau, neu unrhyw le arall yna, dim mwy."
Cafodd y cais cynllunio ei dderbyn yn dilyn pum pleidlais o blaid, a phedair yn erbyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022