Rhybudd ad-dalu i 'filiynau' wnaeth fenthyg i dalu am y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Samuel Beames

Mae cyfradd chwyddiant y Deyrnas Unedig wedi gostwng ychydig am yr ail fis yn olynol, i 10.5%.

Daw hynny wedi iddo godi i 11.1% yn y flwyddyn hyd at Hydref llynedd, cyn gostwng ychydig i 10.7% fis diwethaf.

Ond mae'n golygu bod y cyfradd, sy'n mesur pa mor gyflym mae prisiau nwyddau yn codi, yn parhau i fod yn agos i'w lefel uchaf ers 40 mlynedd.

Daw hynny wrth i ymgynghorydd dyledion rybuddio bod miliynau o bobl wedi benthyg arian i geisio ymdopi â chostau byw uchel dros y Nadolig, a bod y dyledion yna'n dechrau pentyrru.

'Fe aeth y sefyllfa'n waeth'

"Rydych chi'n teimlo eich bod chi wedi methu," meddai Samuel Beames.

Ar ôl colli ei waith yn ystod y pandemig, roedd ei ddyledion wedi cyrraedd lefel anfforddiadwy.

Mae Samuel, sy'n 32 oed ac yn byw yng Nghwmbrân, wedi derbyn cymorth gan elusen i geisio rhoi trefn ar ei sefyllfa ariannol.

"Roeddwn i'n rheolwr mewn siop esgidiau yng Nghwmbrân, ac ar ôl hynny, fe aeth y sefyllfa'n waeth. Heb swydd, doedd gen i ddim arian i dalu'r biliau," meddai Mr Beames.

Disgrifiad o’r llun,

Sylweddolodd Samuel Beames nad oedd ar ei ben ei hun

"Hefyd, roedd gen i berthynas oedd wedi chwalu, ac roeddwn i'n rhiant sengl gyda dau blentyn. Doeddwn i ddim yn gallu ad-dalu unrhyw fenthyciadau."

Benthycodd Samuel Beames arian i dalu am bethau hanfodol, yn ogystal ag i dalu am gost Nadolig cyntaf y plant fel rhiant sengl.

Pan sylweddolodd pa mor difrifol oedd ei sefyllfa, ceisiodd gael cymorth gan sefydliad Cyngor ar Bopeth. Nhw wnaeth awgrymu y dylai siarad â Christians Against Poverty.

"Maen nhw'n gwneud i chi sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun," meddai Mr Beames.

"Mae yna filoedd, neu filiynau o bobl, yn yr un math o sefyllfa."

Talu am y Nadolig am gyfnod hir

Dywed Christians Against Poverty (CAP) eu bod yn helpu unrhyw un. Does dim pwysau i fod yn Gristion neu i ddechrau ymwneud â chrefydd.

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Karen Homans ei bod yn poeni am bobl sydd wedi talu am y Nadolig ar eu cardiau credyd

"Mae pobl wedi rhoi'r Nadolig ar gardiau credyd, a bellach dydyn nhw ddim yn siŵr sut maen nhw'n mynd i dalu amdano fe," meddai Karen Homans, rheolwr Cymru dros CAP.

"Rydyn ni'n meddwl y bydd sgil-effaith yn ystod y misoedd nesaf, wrth i bobl gael eu biliau cardiau credyd, a dechrau sylweddoli efallai na allant fforddio'r costau misol."

'Llawer yn colli mas'

Rhybuddiodd yr elusen dyledion StepChange y gallai arian sy'n cael ei fenthyg ar gyfer y Nadolig gymryd blynyddoedd i'w ad-dalu.

Mae unigolion a sefydliadau sy'n helpu pobl mewn dyled wedi sylwi ar gynnydd yn y galw ers i brisiau ddechrau codi.

Bydd y ffigwr chwyddiant diweddaraf yn cael ei gyhoeddi fore Mercher ac mae prisiau uchel wedi gorfodi pobl i fenthyg arian i dalu am bethau hanfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr ymgynghorydd ariannol Sorcha Kennedy fod pobl ar gyflogau canolig yn dod ati am gyngor bellach

Dywedodd y cynghorydd annibynnol ar ddyledion, Sorcha Kennedy, ei bod yn "llawer prysurach" dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Dyma'r amser prysuraf a chaletaf dwi'n meddwl i mi ei weld mewn 20 mlynedd o roi cyngor ariannol.

"Mae'n anodd iawn oherwydd mae 'na broblem incwm, ac mae'n broblem costau hefyd, yn hytrach na dyled a gwariant gwastraffus. Mae costau byw yn wirioneddol anodd i'w rheoli."

Mae Ms Kennedy yn rhedeg gwasanaeth cyngor ar ddyledion o'r enw Money Saviour ar ôl gweithio i Gyngor ar Bopeth yn y gorffennol.

Dywedodd fod demograffeg ei chleientiaid wedi newid, gyda phobl ar incwm canolig bellach yn fwy tebygol o ofyn am gymorth.

"Mae gennym ni lawer o deuluoedd sy'n gweithio, athrawon, pobl sy'n gweithio gyda'r GIG sy'n gorfod defnyddio banciau bwyd gan nad ydyn nhw'n gallu talu biliau.

"Ac ar gyfer llawer o bobl sydd yn ennill y mathau hynny o incwm, nid oes cyllid mewn gwirionedd [i'w cefnogi]. Mae llawer o'r cyllid ar gyfer nwy a thrydan i grwpiau bregus ac mae hynny'n iawn.

"Ond mae yna lawer o bobl yn colli mas ar gefnogaeth. A nhw yw'r rhai rydyn ni'n eu gweld nawr, ac sy'n cael cryn dipyn o drafferth."

Pynciau cysylltiedig