Ysgolion a ffyrdd ar gau eto gyda mwy o dywydd oer i ddod

  • Cyhoeddwyd
Treuddyn, Sir y Fflint
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ffyrdd yn Nhreuddyn, Sir y Fflint wedi eu gorchuddio ag eira fore Mercher

Roedd ysgolion mewn sawl rhan o Gymru ar gau unwaith eto ddydd Mercher oherwydd y tywydd rhewllyd.

Daeth rhybudd arall y Swyddfa Dywydd am gawodydd gaeafol yng Nghymru i rym ganol dydd Mercher - bydd yn para tan 12:00 ddydd Iau.

Roedd yr A55, y brif ffordd ar hyd gogledd Cymru, wedi ei chau i gyfeiriad y dwyrain am gyfnod yn dilyn gwrthdrawiad ger Allt Rhuallt. Mae bellach wedi ailagor.

Mae'r amodau rhewllyd eisoes wedi achosi nifer o ddamweiniau eraill hefyd, gan effeithio ar sawl lleoliad, dolen allanol.

Fe wnaeth un ffermwr ddefnyddio ei dractor i gludo nyrsys i weld claf oedrannus, wrth i'r tywydd rhewllyd barhau i achosi trafferthion teithio.

Ffynhonnell y llun, RichardW | BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa dros yr awyr o'r A55 a Bodelwyddan yn Sir Ddinbych ddydd Mawrth

Rhybudd newydd

O 12:00 ddydd Mercher tan ganol dydd ddydd Iau, mae rhybudd tywydd am eira neu gawodydd gaeafol mewn grym ar gyfer bob sir yng Nghymru heblaw am Sir Fôn.

Mae disgwyl y gallai tir uchel weld 2-5cm ychwanegol o eira dros nos gyda chawodydd o eirlaw yn debygol ar hyd yr arfordir.

Fe allai arwain at amodau gwael ar y ffyrdd gyda rhybudd yn benodol am beryglon rhew.

Dywedodd Gareth Wyn Jones, ffermwr yn ardal Llanfairfechan sydd hefyd yn gyflwynydd teledu, fod y ffyrdd yn Sir Conwy wedi bod yn "beryglus".

"Mi gawson ni sawl digwyddiad ddoe a neithiwr yn y pentref," meddai wrth BBC Radio Wales Breakfast.

Dywedodd bod nyrsys oedd methu gyrru eu car i fyny ffordd yn y pentref i gyrraedd un o'u cleifion, felly fe gynigiodd help iddyn nhw.

"Nes i roi'r ddwy nyrs yn y tractor ac mi wnaethon nhw fwynhau'r trip bach i fyny yna," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth tractor Gareth Wyn Jones yn ddefnyddiol iawn i ddwy nyrs yn Llanfairfechan nos Fawrth

Ddydd Mawrth roedd nifer o ysgolion ar gau oherwydd eira a rhew, a rhagor eisoes yn parhau i fod ar gau ddydd Mercher.

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl, Torfaen, ymhlith rhai o'r ysgolion sydd ar gau fore Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhew ac eira ar y ffyrdd ym Maerdy yn y Rhondda fore Mercher

Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd yr olygfa yn Hirwaun ger Aberdâr fore Mercher

Mae'r amodau'n golygu bod nifer o ffyrdd yn Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych a Chonwy ar gau o hyd, tra bod llifogydd hefyd wedi cau'r A470 rhwng Rhaeadr Gwy a Llangurig ym Mhowys.

Roedd oedi hir ar yr A470 yn Storey Arms oherwydd yr amodau anodd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth

Ym Merthyr Tudful mae'r cyngor yn dweud bod tirlithriad sylweddol wedi rhwystro ffordd rhwng Trefechan a Thal-y-bont ar Wysg.

Fe wnaeth 200 tunnell o dir ddisgyn ar y ffordd, ond dylai ailagor rywbryd wythnos nesaf.

Ffynhonnell y llun, Ann 97 | BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Eira ar y ffyrdd yng nghanol Wrecsam fore Mercher

Gwiriwch a oes ysgolion ynghau yn eich ardal chi

Pynciau cysylltiedig