Miss Cymru yn cael triniaeth ysbyty wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Darcey CorriaFfynhonnell y llun, Miss Cymru/Danielle Latimer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darcey Corria wedi bod yn yr ysbyty ers y gwrthdrawiad ddydd Iau

Mae Miss Cymru, Darcey Corria, yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd wedi iddi dorri ei phelfis a dau asgwrn yn ei gwddf wedi gwrthdrawiad ar yr M4.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr nos Iau.

Dywed trefnwyr cystadleuaeth Miss Cymru bod disgwyl i Darcey Corria, a gafodd ei choroni fis Mai y llynedd, wella'n llwyr o'i hanafiadau ond ychwanegon nhw y bydd yr anafiadau yn debygol o effeithio ar ei pharatoadau ar gyfer cystadleuaeth Miss World ym mis Mai.

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod dynes wedi cael ei chludo i'r ysbyty wedi iddi gael "anafiadau difrifol" wedi gwrthdrawiad.

Ffynhonnell y llun, Miss Cymru/Danielle Latimer
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Darcey Corria ei choroni yn Miss Cymru yn ystod Mai 2022

Fe achosodd y gwrthdrawiad i'r draffordd rhwng cyffyrdd 35 ym Mhen-coed a 36 yn Sarn fod ar gau am gryn amser toc wedi 18:00 nos Iau.

Mae Ms Darcey o'r Barri yn ymgyrchydd hawliau pobl dduon ac mae wedi bod yn flaenllaw yn llunio deddfwriaeth gwrth-hiliaeth.

Wedi iddi ennill y gystadleuaeth y llynedd dywedodd bod cael ei choroni yn Miss Cymru yn rhoi llwyfan iddi daclo hiliaeth - mae tad Ms Darcey o dras Jamaicaidd.

Pynciau cysylltiedig