Gwynedd: 'Dim digon' o lety dros dro i'r digartref

  • Cyhoeddwyd
Liam McClelland
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Liam McClelland ei droi allan gan ei landlord wedi iddo gysylltu gyda'r cyngor am damprwydd yn y tŷ

Mae Liam McClelland bellach yn ddigartref.

Yn ystod y dydd, bydd yn mynd â'i bethau o'i dŷ rhent yng Nghricieth ac yn symud i westy, am fisoedd o bosib.

Er fod ganddo swydd a'i fod yn gallu talu rhent "rhesymol", mae o wedi methu dod o hyd i le fforddiadwy ar ôl cael ei droi allan o'i gartref presennol.

Felly fe fydd yn ymuno â'r 211 person digartref sy'n cael lle gan Gyngor Gwynedd mewn llety dros dro - llety sy'n cynnwys gwestai, a busnesau gwely a brecwast.

'Digartrefedd ar gynnydd ers Covid'

Ond mae'r cynghorydd sy'n gyfrifol am dai yn y sir yn pryderu na fydd digon o ystafelloedd i gartrefu pobl dros dro yn ystod tymor ymwelwyr 2023.

Yn ôl Craig ab Iago, mae'r awdurdod lleol yn "ddibynnol" ar adnoddau'r sector lletygarwch gan fod dim digon o dai ar gael, mewn cyfnod ble mae digartrefedd wedi "mynd allan o reolaeth".

Mae'r sefyllfa yng Ngwynedd yn adlewyrchu problem genedlaethol sy'n "gwaethygu", yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwneud popeth yn ein gallu i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru".

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond hyn a hyn all Cyngor Gwynedd wneud eu hunain i daclo'r broblem heb help llywodraeth, meddai Craig ab Iago

Daeth 737 o bobl at Gyngor Gwynedd a dweud eu bod nhw'n ddigartref rhwng Ebrill 2022 ac Ionawr 2023, ac yn ôl Mr ab Iago, maen nhw'n gwario £6m y flwyddyn ar lety dros dro i bobl mewn angen.

"Mae digartrefedd wedi bod yn cynyddu ers pum mlynedd ond ers Covid mae o wedi mynd allan o reolaeth - mae'n wallgo'," meddai.

Llynedd bu bron i'r sir redeg allan o lefydd i osod pobl dros dro.

"'Dan ni'n dibynnu ar y sector twristiaeth a dydy'r sector ddim wedi ei ddylunio a ddim yn bodoli i helpu ni gartrefu pobl," meddai.

"Blwyddyn dwytha', oedden ni'n ymdopi, just about. Blwyddyn yma, os ydy nifer yr ymwelwyr sy'n dod i Wynedd yn cynyddu'n sylweddol - fel dwi'n meddwl mae'n mynd i - yna dwi'n poeni am ein gallu ni i gartrefu pobl, achos ein bod ni dal yn dibynnu ar y sector yna."

'Methu gweld y plant cymaint'

Yng ngwesty'r Premier Inn ym Mhorthmadog y bydd Liam McClelland, 32, yn aros o nos Lun ymlaen, ar ôl i'w denantiaeth ddod i ben.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bu'n rhentu tŷ am £500 y mis yng Nghricieth, ond roedd 'na broblemau gyda gwlybaniaeth ar y waliau.

Wedi iddo gysylltu efo'r cyngor sir am y tamprwydd, mae'n dweud fod ei landlord wedi ei droi allan, gan roi rhybudd o ddeufis iddo.

Yn y cyfamser, bu'n chwilio am rywle arall i rentu, ond roedd pob opsiwn ar y farchnad yn rhy ddrud, gyda'r tai a welodd yn costio dros £1,000 y mis.

Disgrifiad o’r llun,

Mae prisiau tai rhent yng Ngwynedd bellach allan o'i gyrraedd, meddai Liam McClelland

"Dwi dal methu coelio y bydda' i'n ddigartra'," meddai.

"Dydy o'm yn rhywbeth o'n i'n meddwl 'swn i'n gorfod mynd drwyddo fo, deud y gwir. Dwi'n gweithio'n galed am bres ac yn talu fy ffordd."

Mae'n poeni na fydd cyfleusterau i goginio a golchi dillad yn hawdd yn y gwesty, ond yn fwy na dim, mae'n ofni'r effaith ar ei berthynas gyda'i fab pump oed a'i ferch tair oed.

"Fydda' i ddim yn gweld y plant gymaint â 'swn i'n licio ddim mwy, os dwi'n mynd i hotel i fyw," meddai. "Fydda' i methu cael nhw i aros yna."

Oes ganddoch chi dŷ gwag?

Yr ateb, yn ôl Mr McClelland, ydy adeiladu mwy o dai sydd o fewn cyrraedd pobl yr ardal.

"Does 'na ddim housing o gwbl i bobl leol yng Nghricieth, a dim byd ym Mhorthmadog na Phwllheli 'chwaith," meddai. "Mae'r cyngor yn wastio pres ar hotels i bawb, yn lle iwsio'r pres i fildio tai."

Yn ôl y Cynghorydd ab Iago, llywodraethau Cymru a'r DU sydd â'r gallu i ddatrys digartrefedd, a'r "oll 'dan ni'n gallu gwneud ydy ymateb i'r ffordd mae o'n ymddangos yn fa'ma".

"Y peth sydd o dan bob problem - ail dai, AirBnBs, digartrefedd, y ffaith bod tai ddim yn fforddiadwy ddim mwy - ydy bod 'na ddim tai fforddiadwy yng Ngwynedd," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i bobl sydd â thai gwag yn y sir i weithio gyda nhw fel eu bod ar gael i denantiaid

"Os 'dan ni'n gallu taclo hynny - a dyna sydd yn nghynllun gweithredu tai y cyngor - 'dan ni'n gallu gwneud rhywbeth am bob problem."

Mae'n galw ar bobl yn yr ardal sy'n berchen ar eiddo gwag i wneud "ffafr enfawr" a chynnig gweithio gyda'r cyngor i fynd i'r afael â'r diffyg llety dros dro.

"Os 'dach chi eisiau helpu pobl Gwynedd a 'dach chi efo'r capasiti i wneud hynny, efo'r tai i wneud hynny, dewch at y cyngor ac wnawn ni'ch helpu chi i gartrefu pobl," meddai.

"Wnawn ni gymryd y risg allan o'r peth, wnawn ni hwyluso fo fel bod o ddim yn rhywbeth mawr i chi ei wneud."

'Twf digynsail yn y digartref'

Mae trafferthion Gwynedd i'w gweld mewn siroedd eraill hefyd, yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), sy'n "poeni'n ddirfawr" y bydd digartrefedd yn gwaethygu ymhellach wrth i'r argyfwng costau byw ddwysáu.

"Hydref diwethaf ar draws Cymru, roedd bron i 9,000 o bobl mewn llety argyfwng neu llety dros dro, felly mae hon yn broblem sylweddol ac yn un anodd iawn i ni fynd i'r afael â hi ar y funud," meddai Andrea Lewis o Gyngor Abertawe, llefarydd CLlLC ar dai.

"Y broblem sydd ganddon ni ydy bod 'na ddiffyg sylweddol mewn tai fforddiadwy ar draws Cymru, felly does 'na unlle i symud pobl, ond ry'n ni'n gwneud popeth y gallwn ni."

Adeiladu mwy o dai yw'r ateb, meddai'r Cynghorydd Lewis, ond mae'n debyg bydd y pwysau ar y system yn cynyddu yn y cyfamser os bydd pobl yn methu talu eu morgeisi yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Melville Evans dydy o "erioed wedi gweld patrwm digartrefedd fel hyn yn y wlad yma o'r blaen"

"Dwi'n pryderu na fyddwn ni'n gallu helpu pobl ac y byddan nhw'n sownd yn y system gan fod unlle iddyn nhw fynd iddo fe," meddai.

Mae'r sefyllfa yn "storm berffaith", yn ôl Melville Evans, cyfarwyddwr arloesedd a thwf Grŵp Cynefin, sydd â thua 5,000 o gartrefi cymdeithasol ar draws y gogledd.

"Dydan ni erioed wedi gweld patrwm digartrefedd fel hyn yn y wlad yma o'r blaen," meddai.

Dywedodd bod tua 500 y mis yn cyflwyno'u hunain yn ddigartref i gynghorau a'u partneriaid, sy'n "dwf digynsail".

Er bod gan y cwmni gynlluniau i godi 120 o dai newydd i ddelio gyda'r prinder, byddai'n hoffi codi "dwbl hynny a mwy".

Llywodraeth yn buddsoddi

Yn ôl Walis George, cyn-brif weithredwr Cynefin a Chymdeithas Tai Eryri, mae angen meddwl yn hollol wahanol am gartrefi er mwyn delio efo'r trafferthion o fewn y system yn ei chyfanrwydd.

"Gwraidd y broblem ydy'r ffaith bod 'na ddogma o ran y farchnad rydd," meddai.

"Felly mae pobl leol sydd ar incwm isel yn cael eu cau allan o'r farchnad, mae 'na anghydraddoldeb enfawr yn bodoli.

"A than ein bod ni'n cyrraedd pwynt lle 'dan ni'n barod i wynebu'r realiti yna, a chael trafodaeth am y fath o system dai sydd ei hangen, a be' ydan ni eisiau i'r system ei gyflawni, bydd pethau'n parhau fel maen nhw."

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, maen nhw'n "gwneud popeth" i roi stop ar ddigartrefedd.

Dywedodd eu bod nhw'n darparu "bron i £1bn dros y dair blynedd nesaf" drwy'r Grant Tai Cymdeithasol i helpu i "adeiladu 20,000 o gartrefi i'w rhentu yn y sector tai cymdeithasol".

Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn buddsoddi dros £300m eleni i ddarparu 1,000 o dai ychwanegol o fewn y 12 mis nesaf, a phecyn cefnogaeth cynhwysfawr i atal digartrefedd ar draws Cymru."