Pont y Borth i ailagor ddydd Iau ar ôl gwaith trwsio

  • Cyhoeddwyd
Pont MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bont dros Afon Menai ei chwblhau yn 1826

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd Pont y Borth yn ailagor yn rhannol i draffig erbyn diwedd wythnos nesaf.

Mae disgwyl i gerbydau sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell i allu croesi'r bont o ddydd Iau ymlaen, yn dilyn cwblhau'r gwaith angenrheidiol.

Fe gaeodd y bont 200 oed fis Hydref diwethaf oherwydd risgiau diogelwch "difrifol", yn dilyn cyngor gan beirianwyr cwmni UK Highways.

Ddechrau'r mis dywedodd Llywodraeth Cymru mai'r gobaith oedd cwblhau'r gwaith o fewn pedair wythnos gyn belled fod y tywydd yn ffafriol.

Mewn diweddariad ddydd Gwener, daeth cadarnhad eu bod wedi llwyddo i gadw at yr amserlen.

O ganlyniad, y disgwyl yw y bydd cerbydau arferol yn gallu ei chroesi o hanner nos fore Iau, 2 Chwefror.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Bont y Borth gau i alluogi "gwaith cynnal a chadw hanfodol"

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth, Lee Waters: "Er gwaethaf yr amodau tywydd heriol, rwy'n falch ein bod wedi gallu cwblhau'r gwaith adfer hynod bwysig a chymhleth hwn ar amser.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol ac i bawb y mae cau'r bont wedi effeithio arnynt am eu hamynedd yn ystod y cyfnod yma."

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu cynllun ar gyfer gwaith adfer tymor hir, gyda disgwyl i'r gwaith hwn ddechrau ar ddiwedd yr haf.

Fe gaewyd y bont ar 21 Hydref wedi i beirianwyr ddarganfod yr angen am waith brys ar y rhodenni (hangers).

Dywedodd UK Highways A55 Ltd bod ei thrwsio wedi profi i fod yn "broblem unigryw".

Mae cau'r bont wedi achosi problemau traffig a mwy o straen ar yr unig groesiad gweithredol, sef Pont Britannia.

Mae'r effaith hefyd wedi ei deimlo gan fusnesau, yn enwedig ym Mhorthaethwy, ac wedi bod yn "waeth na'r pandemig" yn ôl un perchennog busnes yn y dref.

Pynciau cysylltiedig