Honiadau rhywiaeth URC yn annog mwy o fenywod i godi llais

  • Cyhoeddwyd
Jane AndersonFfynhonnell y llun, Jane Anderson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jane Anderson yn gweithio gyda Chyngor Chwaraeon Cymru rhwng 1991 a 1993

Rhybudd: Fe allai'r iaith yn yr erthygl yma beri gofid i rai

Mae menywod sydd wedi aros yn dawel am 30 mlynedd am y rhagfarn rhyw maen nhw'n dweud iddynt ei wynebu yn y byd chwaraeon, wedi rhannu eu straeon yn dilyn honiadau a wnaed yn erbyn Undeb Rygbi Cymru.

Yr wythnos diwethaf dywedodd dwy gyn-weithiwr eu bod wedi ystyried lladd eu hunain yn sgil eu triniaeth gan y corff llywodraethu.

Dywedodd URC fod y ddau achos yn cael eu hymchwilio. Fe ymddiswyddodd y prif weithredwr, Steve Phillips ddydd Sul.

Mae'r honiadau wedi ysgogi merched eraill i godi eu llais am y tro cyntaf.

Pan gafodd yr honiadau diweddaraf eu cyflwyno i URC, dywedodd ei brif weithredwr dros dro, Nigel Walker, ei bod yn "hynod ddirdynnol clywed am y profiadau mae'r merched yma wedi'u dioddef" ac fe ymddiheurodd ar ran URC.

Roedd Cath, sydd wedi penderfynu peidio rhoi ei chyfenw, yn gweithio fel swyddog y wasg i URC ar ddiwedd y 1990au pan oedd yn ei 20au.

"Cefais fy syfrdanu gan faint o rywiaeth welais i yno, roedd drwy'r dydd, bob dydd," meddai.

"Roedd yn aml gan aelodau'r pwyllgor a gan y bobl reit ar y brig."

Dywedodd bod ymddygiad y pwyllgor "wedi fy syfrdanu i a phawb arall pob dydd".

'Edrych ar fy mrest'

"Roedd yna un sylw sy'n sefyll allan uwchlaw pob un arall ac mae'n cynnwys gair ofnadwy," ychwanegodd.

Dywedodd fod yna ddynes yn estyn i lawr o dan ddesg i godi rhywbeth wrth i aelodau'r pwyllgor ddod drwy'r adran, a bod un ohonyn nhw wedi gwneud sylw hynod fychanol am siâp corff y fenyw gan ddefnyddio'r 'N word'.

"Clywais hynny 20 mlynedd yn ôl ac mae'n dal i fod yn sioc i mi nawr," meddai.

"Roedden ni i gyd wedi'n brawychu ond doedd neb ohonom wedi synnu - roedd yn wir yn teimlo fel pe bai'r merched yn cael eu gweld yn wahanol iawn i'r dynion."

Yn trafod ffigwr uchel arall o fewn yr undeb, dywedodd: "Dydw i ddim yn meddwl i mi gael un sgwrs ag ef lle nad oedd yn edrych ar fy mrest."

Dywedodd ar un achlysur fod cyfarfod pwyllgor yn cael ei gynnal lle roedd angen iddi adrodd i'r wasg wedyn.

"Doeddwn ddim yn gallu credu na ches fy ngadael i fewn i'r ystafell bwyllgor oherwydd fy mod i'n fenyw," meddai.

Dywedodd bod ei rheolwr gwrywaidd yn cael mynd i mewn i'r ystafell a bod yn rhaid iddo sibrwd beth oedd yn digwydd trwy'r drws cil agored fel y gallai ei ysgrifennu i lawr.

"Roedd hynny'n normal, dyna'r ffordd roedden nhw'n gweithredu.

"Doedd neb byth yn siarad i fyny a dweud 'mewn gwirionedd dydi hynny ddim yn hollol iawn'… roedd y syniad sylfaenol hwn bob amser, pe baech yn dweud rhywbeth, y byddech yn anghywir oherwydd nad oes neb arall yn dweud unrhyw beth," meddai.

Dywedodd tra'n gweithio i URC ei bod yn "gandryll drwy'r amser... mor jaded".

'Erioed wedi gwylio rygbi eto'

Mae wedi cael effaith barhaol arni.

"Roeddwn wedi fy nadrithio cymaint dydw i erioed wedi gwylio rygbi eto - hyd yn oed nawr gyda'r Chwe Gwlad alla i ddim hyd yn oed ei wylio," meddai.

"Rwy'n meddwl am yr holl erchylltra o dan yr arwyneb disglair hwnnw, a dwi ddim eisiau unrhyw ran ohono.

"Alla'i ddim credu ein bod yn dal i gael y sgwrs hon, mae'n syfrdanol."

Hoffai weld URC yn cynnal ymchwiliad ac edrych yn drylwyr ar "bob cwyn a siarad â phob enw sydd wedi'i grybwyll".

'Rydych chi yng Nghymru nawr'

Roedd Jane Anderson yn swyddog datblygu cenedlaethol gyda Chyngor Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Cymru erbyn hyn, ac wedi'i lleoli yng Ngerddi Sophia, Caerdydd rhwng 1991 a 1993.

Dywedodd ar ddiwrnod hyfforddi, yn fuan ar ôl iddi ddechrau yn y rôl, bod cynrychiolydd o URC wedi gwneud iddi deimlo'n anghyfforddus iawn.

"Pwysodd y person dan sylw ar draws y bwrdd ataf a dweud 'faint o amser mae'n ei gymryd i gael gwared ar dy knickers?'

"Ces i gymaint o syndod nes i feddwl efallai fy mod wedi ei gam-glywed a dywedais 'pardwn' ac fe ailadroddodd e eto.

"Felly fe wnes i gasglu fy holl bapurau o'm blaen a symud i fwrdd arall."

Dywedodd nad oedd hi eisiau "creu ffwdan" gan ei bod yn newydd i Gymru ac yn dal ar ei chyfnod prawf gyda Chyngor Chwaraeon Cymru.

Y diwrnod canlynol fe ysgrifennodd at gydweithiwr uwch yn dweud wrthyn nhw am y digwyddiad ac roedd yn "disgwyl i rai camau gael eu cymryd".

Dywedodd iddi gael ei galw i mewn i'r swyddfa lle cafodd y memo ei rwygo o'i blaen a'i daflu i'r bin.

Dywedodd y dywedwyd wrthi eiriau i'r perwyl: "'Rydych chi yng Nghymru nawr Jane, mae'n rhaid i chi fwrw ati. Dydi e ddim o unrhyw bwysigrwydd'."

"Ar y foment honno sylweddolais fy mod yn y swydd anghywir," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o fenywod wedi siarad am eu profiadau o weithio yn y maes chwareon ers i Charlotte Wathan siarad ar raglen BBC Wales Investigates fis diwethaf

Fe gymrodd hi 20 mis i ddod o hyd i swydd newydd a gadael.

"Fe wnaeth fy nghreithio," meddai Jane, 65, sy'n byw yn y Mwmbwls, Abertawe.

"Rwy'n dal i deimlo'n sâl iawn, iawn pryd bynnag y byddaf yn meddwl am y peth," meddai.

Cyn hynny roedd hi wedi gweithio yn y byd chwaraeon yn Lloegr lle dywedodd nad oedd hi erioed wedi cael ei thrin ag amarch. Ond daeth o hyd i "ddiwylliant hollol wahanol" yng Nghymru.

Pan glywodd yr honiadau newydd a wnaed ar y rhaglen Wales Investigates, dywedodd ei fod ei stumog wedi troi.

Dywedodd y dylai Cyngor Chwaraeon Cymru fod wedi dwyn URC i gyfrif ond eu bod heb wneud hynny.

'Honiadau difrifol'

Dywedodd Chwaraeon Cymru: "Rydym yn wirioneddol flin i Ms Anderson am y driniaeth a ddioddefodd rhwng 1991 a 1993.

"Mae ein meddyliau gydag unrhyw un sydd wedi bod yn destun i'r math hwn o ymddygiad.

"Mae gennym bellach weithdrefnau a phrotocolau trylwyr ar waith i gefnogi unrhyw un sy'n dod atom i adrodd ymddygiad o'r fath.

"Ond nid yw hynny'n golygu y gallwn neu y byddwn yn hunanfodlon. Mae'r honiadau difrifol a wnaed yn erbyn URC yr wythnos hon wedi amlygu'r angen clir i wneud mwy yn y maes hwn."

Ychwanegon nhw eu bod yn "barod i gefnogi unrhyw gynlluniau dilynol yn dilyn ymchwiliad i ddiwylliant URC".

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nigel Walker (dde) olynu Steve Phillips (chwith) fel prif weithredwr dros dro URC

Wrth ymateb i'r honiadau a wnaed gan Jane a Cath, dywedodd prif weithredwr dros dro URC, Nigel Walker "nad oes lle i'r ymddygiad yma mewn cymdeithas, yn Undeb Rygbi Cymru nac yn rygbi Cymru".

"Rydym yn gweithio'n galed ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ledled URC, ond hefyd yn gwybod ein bod wedi siomi unigolion yn y gorffennol a hefyd mewn hanes diweddar iawn," meddai.

"Dyna pam rydym yn penodi Tasglu annibynnol newydd i edrych ar bopeth a wnawn. Bydd y Tasglu yn ymchwilio i bopeth sydd ei angen arno ac yn cael mynediad agored i bob cornel o URC.

"Rydym yn croesawu'r ymyriad hwn ac yn edrych ymlaen at ei argymhellion ac at weithredu'r newid angenrheidiol.

"Yn olaf, mae'n bwysig i'r rhai ohonom sydd yma nawr yn URC fod yn ddiffuant. Ymddiheurwn am y gweithredoedd, yr agweddau a'r ymddygiadau a ddisgrifiwyd.

"Mae ein gêm wedi methu'r unigolion hyn ac mae'n ddrwg iawn gennym."

'Haerllugrwydd y peth ydi o'

Bu i raglen Wales Investigates hefyd ysgogi Sally Challoner - sy'n hanu o Gas-gwent, Sir Fynwy - i gysylltu.

Nid yw ei phrofiad yn ymwneud ag URC ond mewn digwyddiad rygbi yn Lloegr.

Yn ôl yn y 1990au cynnar, pan oedd hi'n 27 oed ac yn gweithio fel gohebydd i BBC Radio Gloucestershire, fe ddigwyddodd digwyddiad "erchyll", meddai.

Roedd hyn mewn digwyddiad elusennol yn Swydd Gaerloyw, a oedd yn cael ei gynnal gan gyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sally ar ddechrau ei gyrfa gyda'r BBC pan ddigwyddodd y digwyddiad

Roedd hi'n cofio mai hi oedd yr unig fenyw mewn ystafell yn llawn chwaraewyr rygbi gwrywaidd.

"Roeddwn i'n sgwrsio gyda [y gwesteiwr] am yr elusen... ar ôl hynny fe wnaeth i mi eistedd ar ei lin, fy ngorfodi ar ei lin a fy arwerthu i'r cynigydd uchaf," meddai.

"Mae'n swnio'n eitha' doniol tydi, ond haerllugrwydd y peth yw e - does dim ots sut wyt ti'n teimlo, does dim ots os wyt ti'n ofnus ac mae un ddynes yn y stafell yma yn llawn chwaraewyr rygbi a ti'n 27 oed.

"Roedd yn erchyll, yn gwbl erchyll. Allwn i ddim gadael yn ddigon cyflym."

'Nid dyna'r amser yn y '90au'

Dywedodd wrth ei chariad beth oedd wedi digwydd ac fe'i hanogodd i adrodd amdano, ond dywedodd y byddai wedi bod yn ofer gwneud hynny.

"Rydw i wedi cael misogyny a rhywiaeth ym mhob swydd rydw i erioed wedi bod ynddi," meddai.

"Roeddwn wedi adrodd amdano yn y lle olaf roeddwn i wedi gweithio ac roedd wedi gwaethygu.

"Mewn ffordd hoffwn pe bawn i wedi dweud rhywbeth ar y pryd, ond nid dyna'r amser yn y '90au."

Dywedodd fod ei phennaeth ar y pryd yn "ddyn hyfryd, hyfryd" ond "ni fyddai wedi deall" ac roedd yn ofni pe bai wedi ei godi y byddai wedi cael ei chwerthin am ei phen.

Dywedodd Sally fod gweld yr honiadau diweddar o gamsynied yn erbyn URC yn ei gwneud hi'n teimlo "mor siomedig".

Gwrthododd y Rugby Football Union, corff llywodraethu cenedlaethol rygbi'r undeb yn Lloegr, wneud sylw.

Am wybodaeth am sefydliadau sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth, ewch i wefan BBC Action Line.