Undeb rygbi 'wedi'i rybuddio' am gydraddoldeb menywod

  • Cyhoeddwyd
Amanda Blanc
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Amanda Blanc ymddiswyddo fis Tachwedd 2021 am ei bod yn teimlo nad oedd yr undeb yn gwrando arni

Cafodd rheolwyr rygbi eu rhybuddio am broblemau mawr o safbwynt cydraddoldeb ac amrywiaeth cyn i honiadau gael eu gwneud o ddiwylliant o ragfarn rhyw o fewn Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd un o gyn-benaethiaid rygbi merched yng Nghymru, Charlotte Wathan iddi ystyried lladd ei hun oherwydd yr hyn a ddisgrifiodd fel "diwylliant gwenwynig" o ragfarn rhyw o fewn URC.

Nawr mae wedi dod i'r amlwg bod dynes fusnes flaenllaw fu'n gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru wedi rhybuddio URC bod ganddo broblem.

Dywedodd URC ei bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Ymylu ar 'sarhau menywod'

Dywedodd Amanda Blanc, sydd bellach yn brif weithredwr cwmni yswiriant Aviva, wrth URC fod ganddo broblem diwylliant ac ymddygiad "wedi'i wreiddio'n ddwfn" a bod adolygiad oedd wedi'i gomisiynu gan URC i gêm y menywod "tu hwnt i siomedig" ac yn ymylu ar "sarhau menywod".

Yn ei haraith wrth adael URC dywedodd Ms Blanc, oedd ar restr Forbes o fenywod mwya' dylanwadol y byd yn 2021, iddi gael ei chwestiynu os oedd ganddi "brofiad busnes digonol" i fod yn gadeirydd bwrdd proffesiynol URC.

Rhoddodd Ms Blanc, fu hefyd yn Berson Busnes y Flwyddyn y Sunday Times, y gorau i fod yn gadeirydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru fis Tachwedd 2021 oherwydd ei bod yn teimlo nad oedd pobl yn gwrando arni a bod angen i URC "foderneiddio".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Undeb Rygbi Cymru'n dweud y bydd yn parhau i weithio gyda staff i sicrhau eu bod nhw'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi

Yn ei haraith wrth adael, mae'n cyfeirio at "drafodaeth hynod sarhaus" ynglŷn â lleihau sancsiynau ar gyfer aelod etholedig o URC ar ôl iddo wneud sylwadau misogynistaidd yn gyhoeddus, gan gynnwys mai "dynion yw'r brif hil" ac y dylai menywod "barhau â'r smwddio".

"Roedd gorfod eistedd mewn ystafell a gwrando ar rai ohonoch chi'n dweud y byddai cymryd gormod o docynnau am ddim oddi ar y dyn yma yn gwbl annheg, tu hwnt i sarhaus," meddai.

Ychwanegodd: "Mi faswn i'n dweud fod angen i rai ohonoch chi eistedd lawr, cymryd saib ac adlewyrchu ar yr ateb y byddech chi'n ei roi i'r Pwyllgor Dethol pe bai'r dystiolaeth yma yn cael ei roi o'ch blaen.

"Beth fyddech chi'n ddweud wrth y genedl pan fyddai Aelod Seneddol yn gofyn, 'ydy URC yn parchu menywod?'"

Disgrifiodd Ms Blanc, oedd yn gadeirydd annibynnol bwrdd proffesiynol Cymru gydag URC a phedwar rhanbarth Cymru, ei phrofiad personol hithau, gan ddweud iddi godi materion ymddygiad o'r blaen.

'Addewidion gwag'

Mae URC hefyd wedi gwrthod galwadau i gyhoeddi ei adolygiad o gêm y menywod yng Nghymru o 2021, ond mae rhannau ohono wedi cael eu gweld gan dîm BBC Wales Investigates.

Ynddo mae chwaraewyr benywaidd ar y pryd yn disgrifio fod y diwylliant yn eu blino'n feddyliol ac yn tanseilio'u hyder, tra bod rhai uwch aelodau o staff yn dweud ei fod yn cael ei danariannu.

Roedd iechyd meddwl rhai yn dioddef ac yn yr adolygiad, fe wnaeth cyn-chwaraewyr ddisgrifio diwylliant rygbi Cymru ar y pryd fel gwenwynig, ac fe ddywedon nhw eu bod am roi diwedd ar "anghydraddoldeb" ac "addewidion gwag".

Rhybuddiodd yr adolygiad hefyd am risgiau i enw da a chyllid Undeb Rygbi Cymru os na fyddai'n mynd i'r afael â'i amharodrwydd tybiedig i ymrwymo'n llawn i rygbi menywod.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Charlotte Wathan ei bod wedi ystyried lladd ei hun oherwydd yr hyn y "diwylliant gwenwynig" o ragfarn rhyw o fewn URC

Daw manylion sylwadau Ms Blanc i'r wyneb ar ôl i gyn-bennaeth rygbi merched yng Nghymru ddweud i gydweithiwr gwrywaidd ddweud wrthi ei fod eisiau ei "threisio".

Mae hi'n dweud i hynny ddigwydd o flaen pobl eraill.

Mae Charlotte Wathan a dynes arall oedd yn gweithio i'r undeb yn dweud iddyn nhw ystyried lladd eu hunain oherwydd "diwylliant gwenwynig" o ragfarn rhyw yn y sefydliad.

Yn ôl URC bu ymchwiliad i'r ddau achos gan ddilyn y drefn gywir.

Galw am 'greu dyfodol gwell'

Mae un Aelod Seneddol, sy'n gyn-chwaraewr, wedi rhybuddio fod yr honiadau gyfystyr â sgandal hiliaeth Clwb Criced Sir Efrog.

Mae Tonia Antoniazzi wedi ysgrifennu at y Tywysog William i ofyn am gyfarfod i "greu dyfodol gwell i ferched yn y gêm yng Nghymru".

Mae Undeb Rygbi Cymru'n dweud eu bod yn edifar clywed sut mae'r unigolion yn rhaglen BBC Wales Investigates yn teimlo, ac yn dweud y bydd yn parhau i weithio gyda staff i sicrhau eu bod nhw'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Mae URC eisoes wedi siarad am eu hymrwymiad i gêm y menywod, a'r llynedd fe wnaethon nhw gyflwyno cytundebau proffesiynol i fenywod am y tro cyntaf.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan BBC Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor.