Penodi cadeirydd tasglu annibynnol i edrych ar Undeb Rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Anne Rafferty

Mae'r Fonesig Anne Rafferty wedi ei phenodi i gadeirio tasglu annibynnol fydd yn edrych ar Undeb Rygbi Cymru (URC).

Mae'r sefydliad wedi bod dan y lach yn ddiweddar ar ôl honiadau o "ddiwylliant gwenwynig", rhywiaeth a chasineb.

Mae'r Fonesig Anne Rafferty yn gyn-farnwr y Llys Apêl, a hi fydd yn arwain y panel fydd yn edrych ar newidiadau o fewn yr undeb.

Ers i'r honiadau yn rhaglen BBC Wales Investigates gael eu gwneud fis diwethaf, mae prif weithredwr URC, Steve Phillips wedi ymddiswyddo.

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Iau, dywedodd y prif weithredwr dros dro, Nigel Walker, fod yr undeb "wedi bod yn gwadu maint y broblem" sy'n eu hwynebu.

Adolygu 'o 2017 hyd heddiw'

Mae disgwyl i'r tasglu gynnal adolygiad fydd yn edrych ar "honiadau yn ymwneud â'r diwylliant" o fewn URC, i weld a oes angen newid er mwyn "sicrhau bod y sefydliad yn un cynhwysol, agored i newid ac yn adlewyrchu gwerthoedd heddiw".

Bydd hynny'n cynnwys ymchwilio i honiadau o rywiaeth, casineb yn erbyn menywod, homoffobia a hiliaeth, er mwyn "sicrhau bod y safonau uchaf yn cael eu hadnabod a'u cadw".

Fe fydd rhagor o aelodau'r panel yn cael eu cyhoeddi'r wythnos nesaf, ac yn ôl y Fonesig Rafferty mae URC wedi "ymrwymo i gyhoeddi'r canfyddiadau ac argymhellion yn llawn".

Mae disgwyl hefyd i'r adolygiad ystyried yr holl gyfnod o 2017 hyd heddiw, ond gallai hynny newid os yw tystiolaeth bellach yn dod i law.

Ffynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Bu cadeirydd a phrif weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru o flaen pwyllgor diwylliant Senedd Cymru fore Iau i ateb cwestiynau

Bydd yr adolygiad yn ystyried:

  • y diwylliant o fewn URC;

  • gweithredoedd ac ymddygiad penaethiaid ar bob lefel o URC;

  • i ba raddau mae gweithwyr yn teimlo'n hyderus i godi pryderon neu herio iaith ac ymddygiad amhriodol a sarhaus;

  • effeithiolrwydd polisïau a gweithdrefnau URC i bobl adrodd am broblemau;

  • ymateb URC i gwynion unigol gafodd eu codi yn rhaglen BBC Wales Investigates.

Mae'r tasglu sy'n cynnal yr adolygiad yn cael ei redeg gan Sport Resolutions, sefydliad annibynnol sy'n darparu gwasanaethau ymchwilio a datrys anghydfod.

Ond fe fydd grŵp hefyd yn cael ei sefydlu i gynghori'r adolygiad, fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Rygbi Cymru a Chwaraeon Cymru.

Pynciau cysylltiedig