Tagiau clust i ganfod salwch mewn da byw yn gynt

  • Cyhoeddwyd
Gwartheg

Mae cyfres o weithdai yn cael eu cynnal yr wythnos hon er mwyn hybu'r angen i leihau dibyniaeth y byd amaeth ar wrthfiotigau wrth drin salwch mewn anifeiliaid.

Mae 12 fferm ar draws Cymru yn rhan o gynllun peilot gan sefydliad Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol) sy'n defnyddio technoleg newydd i fonitro anifeiliaid.

O wartheg i ddefaid, mae teclyn yn cael ei osod yn y glust ac yn monitro tymheredd ac arferion yr anifail, gan anfon rhybudd at y ffermwr pe bai tystiolaeth o unrhyw beth anarferol.

Y gobaith yw y bydd yn helpu ffermwyr adnabod unrhyw afiechyd cyn yr angen i ddefnyddio gwrthfiotigau.

Ar fferm Nant, yn ardal Dinas ym Mhen Llŷn, daeth tua 20 o ffermwyr ynghyd i weld y dechnoleg newydd ar waith a chlywed mwy am fanteision technoleg o'r fath ym myd amaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Fe allai'r dechnoleg fod yn drawsnewidiol, medd Eiry Williams o Arwain DGC

Mae'r sesiynau, a fydd yn digwydd ledled Cymru, yn cael eu harwain gan siaradwyr gwadd gan y prosiect Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol).

"Pwrpas y prosiect yw lleihau'r defnydd o antibiotics a hefyd defnyddio nhw yn fwy cyfrifol," medd Eiry Williams, o'r sefydliad.

"Ni'n treialu technoleg newydd sef tagiau clust i weld os allen nhw detectio afiechydon yn gynt cyn bod angen defnyddio antibiotics."

Trwy hyfforddiant, cymhwyso technoleg newydd, casglu data, a gwella dealltwriaeth, mae'r prosiect yn helpu ffermwyr, perchnogion ceffylau a milfeddygon yng Nghymru i leihau'r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau, gan felly leihau'r risg o ddatblygu ymwrthedd ymysg anifeiliaid.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Geraint Jones, y gobaith ydy lleihau'r angen am wrthfiotigau

Mae Geraint Jones yn filfeddyg ym Mhen Llŷn ac yn annog defnyddio'r dechnoleg.

"Ar hyn o bryd mae ymwrthedd yn llawer iawn mwy o broblem mewn pobl nag yn anifeiliaid," meddai.

"Ma'n broblem fechan iawn mewn anifeiliaid.

"Ond 'da ni am wneud ein rhan i 'neud yr one health i 'neud yn siŵr fod pobl yn iach hefyd... 'dan ni'n rhannu'r un un byd ac wrth gwrs 'dan ni am fod mor iach ag allen ni."

Yn ôl y milfeddyg, y gobaith ydy lleihau'r angen am wrthfiotigau gan adnabod salwch yn gynt.

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Arwain DGC yn cynnal mwy o ddiwrnodau agored ledled Cymru, gan ddangos mesurau a ddefnyddir yn llwyddiannus ar y ffermydd Prawf o Gysyniad.

Mae'r lleoliadau fferm yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, Conwy, Powys a Bro Morgannwg.

Pynciau cysylltiedig