'Dylai ASau golli cyflog' yn sgil canslo gwaith y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Aelodau undeb y PCS yn picedu mynedfa adeilad Tŷ Hywel y Senedd ym Mae Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau undeb y PCS yn picedu mynedfa adeilad Tŷ Hywel y Senedd ym Mae Caerdydd

Mae'r Ceidwadwyr wedi annog aelodau o'r Senedd Llafur a Phlaid Cymru i ildio diwrnod o gyflog wrth i drafodion gael eu canslo oherwydd streicio.

Cafodd busnes yn y siambr a phwyllgorau ddydd Mercher eu symud mewn ymateb i streic gan undeb gwasanaeth sifil y PCS.

Roedd yn dilyn pleidlais ym Mhwyllgor Busnes trawsbleidiol y Senedd.

Dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, y dylai'r pleidiau eraill fod ym Mae Caerdydd yn "gweithio i ddod â'r streiciau i ben" nid yn "cymryd diwrnod i ffwrdd".

'Ni fydd unrhyw fusnes yn cael ei golli'

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd, sy'n gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd: "Oherwydd streicio ar 1 Chwefror, pleidleisiodd y Pwyllgor Busnes o blaid aildrefnu busnes y Senedd.

"Bydd eitemau ar yr agenda yn cael eu hailddyrannu i gyfarfodydd eraill ac felly ni fydd unrhyw fusnes yn cael ei golli."

Dywedodd ffynhonnell Plaid Cymru fod y blaid yn "falch a diamwys yn ein cefnogaeth i'r holl weithwyr sy'n streicio heddiw a thrwy gydol y gaeaf hwn fel dewis olaf, oherwydd blynyddoedd o doriadau Torïaidd a chostau cynyddol mewn chwyddiant".

'Dadlau a chraffu'

Pwysleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig y bydden nhw ym Mae Caerdydd heddiw.

Roedd Mr Davies yn rhagweld na fydd pobl yng Nghymru "yn cael eu plesio gan wleidyddion Llafur a Phlaid Cymru yn rhoi'r gorau i weithio ar gyfer y diwrnod pan mae angen dirfawr i roi sylw i'r GIG, y system addysg a'r economi yng Nghymru".

"Dylai aelodau o'r Senedd fod yn dadlau a chraffu - yn lle hynny mae'r pleidiau hyn yn cymryd diwrnod i ffwrdd pan ddylen nhw fod yn gweithio i ddatrys y streiciau, y mae ganddyn nhw'r grym i wneud hynny ," meddai.

"Dylai Llafur a Phlaid ildio'u cyflog am y diwrnod - fel arall ble mae'r undod y maent yn ei hawlio pan fydd gweithwyr ar eu colled ar eu cyflog?"

'Chwalu'r economi'

Fe wfftiodd ffynhonnell Plaid Cymru y feirniadaeth.

"Mae'r Torïaid gyda'u toriadau a'u hanrhefn wedi chwalu'r economi, a Chymry sy'n gweithio'n galed sy'n talu'r pris.

"Bydd Plaid Cymru yn parhau i sefyll dros weithwyr ym mhobman drwy alw ar lywodraethau Cymru a San Steffan fel ei gilydd i dalu gweithwyr yn deg a dod â'r anghydfodau i ben."

Mae Llafur Cymru hefyd wedi cael cais i ymateb i sylwadau arweinydd y Ceidwadwyr.