Cwrs gradd i hyfforddi ymgyrchwyr hinsawdd y dyfodol
- Cyhoeddwyd
Mae coleg ym Mhowys wedi mynd ati i greu cwrs gradd arloesol er mwyn hyfforddi ymgyrchwyr hinsawdd y dyfodol.
Bwriad cwrs 'Dyfodol Cynaliadwy' yng Ngholeg y Mynydd Du, Talgarth, yw dysgu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddychmygu a chreu newid mewn busnesau a sefydliadau.
Maen nhw wedi cydweithio â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a phartneriaid ym myd diwydiant er mwyn datblygu'r cwricwlwm.
Yn ôl un o benaethiaid y coleg, gallai'r cwrs "baratoi pobl ifanc ac eraill ar gyfer y newidiadau sy'n prysur gyrraedd".
'Nid problem wyddonol yn unig'
Dywedodd prif swyddog gweithredol Coleg y Mynydd Du, Ben Rawlance, y bydd y cwrs yn arfogi pobl "gydag ystod gyfan o sgiliau i fynd i'r byd i wneud i newid ddigwydd".
Ymhlith y sgiliau hynny mae meddwl beirniadol, creadigrwydd, cyfathrebu, cydweithio a chydymdeimlad.
"Mae'r coleg yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng ecolegol," meddai Mr Rawlance.
"Rydym yn arbrofi gyda mathau newydd o addysg i geisio paratoi pobl ifanc ac eraill ar gyfer y newidiadau sy'n prysur gyrraedd."
Ychwanegodd Mr Rawlance fod y coleg wedi ei sefydlu ar yr ethos bod newid hinsawdd nid yn unig yn broblem wyddonol, ond yn "broblem o ymddygiad dynol, o werthoedd, o systemau, gwleidyddiaeth ac economeg".Bydd y cwrs yn rhannol yn y dosbarth, ac yn cynnwys lleoliadau gwaith mewn diwydiant, ond hefyd yn cynnwys addysg yn yr awyr agored ar gampws fferm y coleg, ar fryn sy'n edrych dros Dalgarth.
'Rhaid gweithio gyda'n gilydd'
Er hynny, dyw'r cwricwlwm yn ddim byd tebyg i gwrs gradd traddodiadol.
Mae'r coleg, sydd eisoes yn dysgu cyrsiau Addysg Bellach mewn garddwriaeth a choedwigaeth, wedi ffurfio partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac eisoes yn cynnig lleoliadau a darlithoedd i fyfyrwyr yn y tirlun naturiol.
Dywedodd Jodie Bond o'r Parc Cenedlaethol mai'r bartneriaeth oedd y "peth mwyaf naturiol yn y byd" iddyn nhw, gan fod "ethos ac uchelgeisiau Coleg y Mynydd Du yn cyd-fynd â'n huchelgeisiau ni"."Mae'r argyfyngau natur a hinsawdd yn hynod bwysig, ac mae gan y coleg yma ethos gwych," meddai.
"Mae ganddyn nhw ffocws gwirioneddol ar ddod o hyd i ddyfodol cynaliadwy mewn ffordd bositif iawn.
"Ac allwn ni ddim wynebu'r heriau mawr yma sydd gennym fel cymdeithas ar ein pennau ein hunain - mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd."
Swyddi yn y dyfodol
Mae Ben Rawlance yn dweud fod byd gwaith eisoes yn newid, gyda chorfforaethau'n cyflogi swyddogion cynaliadwyedd a swyddogion hinsawdd.Dywedodd bod y cwrs yn ymwneud â "rhoi'r gallu iddyn nhw ddychmygu dyfodol gwahanol" a "rhyddhau'r potensial dynol ar gyfer newid", ond nad yw'r sgiliau hynny'n rhai cysyniadol yn unig.
"Mae'r bobl ifanc yma'n mynd i gael eu gwerthfawrogi'n fawr gan ddiwydiant oherwydd maen nhw'n mynd i gael meddylfryd cyfannol," meddai.
"Maen nhw'n mynd i ddeall sut mae newid yn digwydd. Maen nhw'n mynd i gael eu haddysgu mewn newid sefydliadol. Maen nhw'n mynd i fod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol mewn unrhyw sector."Mae yna lwyth o waith cydymffurfio, yng Nghymru yn benodol, oherwydd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, felly mae 'na eisoes faes proffesiynol cyfan yn barod ar gyfer ein graddedigion.
"Ac mae hynny ond yn mynd i dyfu, ac mae pob swydd yn y dyfodol yn mynd i fod yn swydd hinsawdd. Yn wir, dwi'n meddwl ein bod ni ar flaen y gad ar hynny."
Cefnogaeth o fyd busnes
Un o bartneriaid diwydiant y coleg yw'r cwmni ymgynghori rhyngwladol Accenture, sy'n cyflogi 750,000 o bobl ledled y byd.
Dywedodd eu prif swyddog gwasanaethau cynaliadwyedd byd-eang, Peter Lacy, fod galw enfawr am arbenigedd ym meysydd cynaliadwyedd a newid systemau.
"Mae'r galw ar gyfer pobl all ddod â meddwl newydd, atebion newydd i broblemau yn mynd i gynyddu fwyfwy," meddai.
"Fel y dywedodd Einstein: 'Allwch chi ddim datrys y problemau gafodd eu creu gan un meddylfryd gyda'r un meddylfryd'."
Mae'r coleg yn honni mai dyma'r sefydliad addysg cyntaf yn y byd sydd wedi'i neilltuo'n gyfan gwbl i weithredu ar yr hinsawdd ac addasu i'r heriau.
Mae'r dysgu yn defnyddio'r tirwedd naturiol, y synhwyrau, a'r celfyddydau yn ogystal â gwaith maes mwy traddodiadol yn eu cyrsiau.
Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i ymgolli ym myd natur, a gwrando ac hyd yn oed blasu'r byd o'u cwmpas.
Y syniad yw atgyfnerthu'r wybodaeth maen nhw'n ei ddysgu yn yr ystafelloedd dosbarth a chreu cysylltiad dwfn â'r byd o'u cwmpas.
'Anodd iawn deall i rai'
Mae Alison Stunt, sydd yn ei 40au, yn astudio garddwriaeth yn y coleg ar hyn o bryd, ac yn dweud nad yw'r dull yn ddeallusol yn unig.
"Dyw e ddim yn academaidd yn y ffordd yna. Tydyn ni ddim yn dysgu o lyfrau," meddai.
"Mae'n dysgu o fod allan yna ym myd natur ac yn profi pethau gyda'n cyrff cyfan, yn hytrach na dim ond darllen amdano a'i adnabod mewn ffordd ddeallusol."
Mae'r galw am ddewis amgen yn lle addysg draddodiadol yn dod o'r cenedlaethau iau, yn ôl Ben Rawlance.
"Mae'r math yma o ddull o weithredu yn amlwg i bobl ifanc sy'n dod drwyddo nawr, er ei fod yn anodd iawn i ddeall i'r rhai ohonom gafodd ein haddysg mewn sefydliadau hen ffasiwn gyda phynciau unigol," meddai.
"Felly mae hyn nid yn unig yn fater brys ac angenrheidiol, ond mae'n ymateb i'r farchnad. Dyma beth mae'r plant eisiau."
'Nid gweithgaredd ymylol yw hwn'
Mae Coleg y Mynydd Du wedi derbyn dros £500,000 o arian loteri, ac ar hyn o bryd yn y broses o sicrhau £1.5m o fuddsoddiad cymdeithasol i warantu cyfnod lansio'r coleg.
"Rydyn ni eisiau bod yn sefydliad prif ffrwd," meddai Mr Rawlance. "Nid gweithgaredd ymylol yw hwn.
"Rydyn ni eisiau bod yn arloesi gyda math newydd o addysg uwch, dull newydd o weithredu. Rydyn ni eisiau cael ein hariannu'n statudol.
"Rydym am i fyfyrwyr allu cael mynediad i'n haddysg am ddim neu mor agos at ddim â phosibl.
"Felly mae'n bwysig iawn ein bod ni yn y brif ffrwd honno, a'n bod ni'n cael ein cydnabod gan sefydliadau prif ffrwd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2022