Pryderon yn lleol am godi tâl parcio yn Llanerchaeron

  • Cyhoeddwyd
Fila LlanerchaeronFfynhonnell y llun, Richard Hoare/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ymwelwyr yn gorfod dechrau talu £3 am barcio os ydynt yn aros yno am fwy nag awr

Mae rhai pobl leol yn anhapus bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn mynd i godi tâl am barcio yn Llanerchaeron - un o'i stadau ar gyrion Aberaeron yng Ngheredigion.

Bydd ymwelwyr â'r maes parcio yn gorfod talu £3 os am aros yno am fwy nag awr.

Yn ôl rhai trigolion lleol, bydd codi tâl am barcio yn gwneud i bobl barcio ar ffyrdd cyfagos a bydd hynny yn achosi problemau.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bod y penderfyniad wedi'i wneud yn dilyn ymgynghoriad gyda'r gymuned.

Effaith ar yr eglwys leol

Mae Llanerchaeron yn gyrchfan boblogaidd, ac yn denu nifer o gerddwyr bob blwyddyn, gyda llawer yn mwynhau mynd i'r caffi yn y maes parcio - ond hynny heb dalu am barcio.

Mae rhai pobl leol yn poeni y bydd ymwelwyr yn edrych am fannau eraill i barcio er mwyn osgoi talu pan ddaw'r ffi newydd i rym.

Dywedodd Gwyneth Jones, gafodd ei magu ar un o ffermydd y stad: "Fy mhrif bryder ynglŷn â thaliadau parcio Llanerchaeron yw y bydd pobl bellach yn parcio ar ochr hewlydd er mwyn osgoi'r taliadau.

"Bydd hyn yn effeithio mynediad lôn fferm Wigwen yn ogystal ag Eglwys Sant Non.

"Mae prinder o lefydd awyr agored yn yr ardal yn barod er mwyn i bobl cwrdd am goffi, clonc ac i fynd am dro, a byddai gweld lleihad yn y nifer o bobl leol sy'n defnyddio cyfleusterau Llanerchaeron yn drueni mawr.

"Deallaf taw elusen yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond rwy'n siŵr bod yna ffyrdd mwy amgen o godi arian i gadw Llanerchaeron i fynd."

Roedd gan unigolyn arall, sy'n byw'n lleol, bryderon tebyg.

"Fi jyst yn teimlo dros berchennog y ffarm a dwi'n teimlo dros y bobl sy'n defnyddio'r eglwys," meddai.

"Mae'r eglwys yn eglwys fach hyfryd, a ma' nhw 'di bod yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i agor yr eglwys pan ma'r tŷ ar agor, fel bod pobl yn gallu cael cyfle i fynd i weld hanes yr eglwys sy'n ymwneud â'r tŷ.

"Felly mae'n drist rili i feddwl y gallai hon fod yn broblem iddyn nhw."

Ymgynghoriad am fis

Ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd eraill ei bod hi'n beth da fod yr arian am fynd i goffrau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Does dim dyddiad pendant eto pryd fydd y tâl parcio yn dod i rym, ond mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dweud y byddant yn rhoi rhybudd ymlaen llaw pan fydd penderfyniad wedi'i wneud.

Maen nhw'n ychwanegu mai dim ond yn ystod cyfnodau prysur, sef o 10:00 i 17:00 rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref, y bydd yn rhaid talu.

Dywedodd Meg Anthony, Rheolwr Cyffredinol Sir Gaerfyrddin a Cheredigion Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: "Rydym yn elusen, ac yn dibynnu ar yr incwm rydym yn ei dderbyn gan ein hymwelwyr er mwyn ein helpu i ofalu am y lleoedd arbennig dan ein gofal."

Wrth ymateb i bryderon pobl leol am effeithiau'r ffi newydd dywedodd: "Rydym wedi ymrwymo i feithrin cysylltiadau da gyda'n cymdogion a'r gymuned.

"Mae'r penderfyniad i fabwysiadu ffi barcio yn Llanerchaeron yn dilyn ymgynghoriad dros bedair wythnos gyda'r gymuned leol ar ddiwedd 2022, ac mae'r cynlluniau wedi'u haddasu'n seiliedig ar yr adborth a gyflwynwyd."

Mewn safleoedd eraill, fel Gardd Goedwig Colby yn Sir Benfro, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cyflwyno tâl am y maes parcio ond mae mynedfa i'r safle hwnnw nawr am ddim.

Disgrifiad o’r llun,

Mae parcio gerllaw Traeth Freshwater West yn parhau i fod am ddim

Ac mewn mannau eraill, fel Traeth Freshwater West, maen nhw'n dal i gynnig parcio am ddim.

Yn Llanerchaeron bydd ymwelwyr yn parhau i orfod talu £9 (pris oedolyn) er mwyn mynd i mewn i'r safle, a dywedodd cynrychiolydd: "Ni fydd y prisiau mynediad ar gyfer Llanerchaeron yn newid."

Ar ei gwefan mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn awgrymu y gallai fod yn rhatach i ymwelwyr cyson fod yn aelodau o'r Ymddiriedolaeth.

Mae tâl aelodaeth yn costio £76.80 y flwyddyn, gan roi mynediad am ddim i holl feysydd parcio a safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pynciau cysylltiedig